Gofodau Diogel i Bobl LHDTC+ yng Nghaerdydd

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Fel rhan o’r ymgyrch Pride Caerdydd: Mwy Na Mis, aethom i’r digwyddiad Pride Cymru yng Nghaerdydd a siarad gyda phobl ifanc am bethau’n ymwneud â materion LHTDC+. Mae’r blog yma yn rhannu rhai o’r atebion i’r cwestiwn ‘ble mae gofodau diogel i LHDTC+ yng Nghaerdydd?’


Credyd: The Queer Emporium

Queer Emporium

Tezni, 23 – Dwi’n meddwl mai’r lle cyntaf i fi feddwl amdano, am eu bod nhw wedi sefydlu eu hunain fel yna, ydy’r Queer Emporium. Tybiaf fod llawer o bobl wedi dweud hynny. Maen nhw wir wedi agor lle i aelodau ifanc o’r gymuned LHDTC+ fynd. Byddwn yn dweud mai’r Queer Emporium yw’r lle i fynd yng nghanol y ddinas ar hyn o bryd.

Matthew, 23 – Mae’r Queer Emporium yn un amlwg!

Deaf Hub Wales

Tezni, 23 – Mae gen ti hefyd sawl grŵp cymunedol bach fel y bobl yma [Deaf Hub Wales]. Maen nhw’n dda iawn yn nhermau croesawu ieuenctid i mewn i’r gymuned.

Gwasanaethau Ieuenctid

Ron, 22 – Gwasanaethau Ieuenctid. Hoffwn feddwl y byddai unrhyw berson cwiar yn teimlo bod croeso yn y canolfannau.

Maddie, 16 – Ac mewn peth fel clwb gwasanaeth ieuenctid.

Sarah, 30Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd. Mae gen ti grwpiau LHDTC+ penodol gelwir yn Umbrella Allies ac mae gennym serfiwr Discord sydd efo llawer o blant cwiar sydd wedi darganfod cymuned hefyd, felly cer i weld hwnnw fel gofod diogel.

Chloe, 21 – Mae llawer o bethau yn digwydd gyda Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd ac rydym i gyd yn eirioli i fod mor gynhwysol â phosib. Mae yna dîm cynhwysiad ac mae un ohonyn nhw’n benodol yn hyrwyddo cael grwpiau i bobl ifanc LHDT sydd yn dod at ei gilydd a thrafod beth bynnag maen nhw eisiau trafod. Nid oes rhaid trafod pynciau pobl LHDTC+ yn unig, gall fod yn unrhyw beth maen nhw eisiau trafod ond mewn lle gallant hawlio fel eu gofod nhw.

Caffis a bars lleol

Matthew, 23 – Dwi ddim yn meddwl bod pobl yn gwerthfawrogi mynd i’r caffi lleol ddigon. Nid oes llawer o berygl yn y mwyafrif o gaffis, a bars ac ati, dwi’n mynd i. Mae aelodau staff cwiar yn gweithio yno, fel Tiny Rebel a Barkers. Dwi ddim yn meddwl bod pobl yn gwerthfawrogi’r lleol a’r brandiau annibynnol bach ddigon.

Mollie, 22 – A byddwn i’n dweud hefyd bod y Live Lounge yn iawn y mwyafrif o’r amser. Ac mae Misfits yn Cathays hefyd yn far eithaf da i bobl Cwiar.

Pride Cymru

Maddie, 16 – Yma, yn Pride.

Chloe, 21 – Hmm, dwi’n meddwl bod Pride yn un mawr.

Credyd: Pulse

Clybiau hoyw

Tess, 22 – Mae llawer o’r clybiau yng Nghaerdydd yn teimlo’n ddiogel iawn. Dwi’n meddwl bob tro dwi’n mynd mae’n le mor neis i fynd. Mae’n braf cael gofod ble rwyt ti’n gwybod ei fod yn targedu pobl cwiar a ti’n mynd ac mae’n braf cael pobl eraill yn edrych allan amdanat ti, felly ie, dwi’n meddwl hynna yn bendant. Y clybiau i gyd.

Lizzie, 22 – Mae llawer o glybiau da ac ati. Gofodau ble mae pobl cwiar yn gallu mynegi eu hunain.

Abi, 23 – Y bars hoyw. Kings a Pulse. Mae’r rhain yn ofodau diogel iawn a gallet ti fod yn pwy rwyt ti eisiau bod yno felly maen nhw’n grêt.

Credyd: Cardiff Creative

Cardiff Creative

Carenza, 20 – Mae’n swnion od gan nad yw’n hollol LHDT ond Cardiff Creative. Mae’n llawn busnesau bach, a llawer ohonynt yn LHDT. Mae llawer o stwff wedi selio ar y gymuned LHDT yno. Mae’n neis iawn.

Gwybodaeth berthnasol

Eisiau mwy o’r ymgyrch Pride Caerdydd: Mwy na Mis? Ymwela â chyflwyniad yr ymgyrch yma.

Cer i weld tudalen gwybodaeth LHDTC+ TheSprout am wybodaeth ddefnyddiol ar wasanaethau cefnogol LHDTC+ lleol a chenedlaethol.

Cofia, os wyt ti’n rhannu ein stwff o’r ymgyrch Pride Caerdydd: Mwy Na Mis ar gyfryngau cymdeithasol, cofia defnyddio’r hashnod #MwyNaMis.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd