Yn ôl yn fis Mai eleni, cwpl o fisoedd i mewn i’r cyfyngiadau Covid-19, roedd 24,000 o blant a phobl ifanc Cymru yn rhan o ymgynghoriad i ddarganfod sut roeddent yn teimlo. Mae adroddiad wedi cael ei greu o’r atebion, gelwir yn ‘Coronafeirws a Fi‘. Rydym am edrych ar ffigyrau diddorol o’r adroddiad.
Datblygwyd yr ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru, Comisiynydd Plant Cymru, Senedd Ieuenctid Cymru a Phlant yng Nghymru. Gofynnwyd i rai 3 i 18 oed yng Nghymru i lenwi arolwg, gan roi cyfle i chi fynegi’r ffordd roeddech chi’n teimlo. Yn yr erthygl yma, rydym yn edrych ar atebion oedran 12-18 yn benodol, cyfanswm o 11,002 o bobl ifanc.
Poeni?
Un o’r cwestiynau gofynnwyd oedd ‘Sut wyt ti wedi bod yn teimlo yn ystod Argyfwng y Coronafeirws?’
- Hapus – roedd 50% ohonoch yn dweud eich bod yn teimlo’n hapus y rhan fwyaf o’r amser; 40% peth o’r amser a 10% ddim yn aml iawn
- Pryderus – roedd 14% ohonoch yn dweud eich bod yn teimlo’n bryderus y rhan fwyaf o’r amser; 41% peth o’r amser a 44% ddim yn aml iawn
- Trist – roedd 16% ohonoch yn dweud eich bod yn teimlo’n drist y rhan fwyaf o’r amser; 41% peth o’r amser a 43% ddim yn aml iawn
- Diogel – roedd 78% ohonoch yn dweud eich bod yn teimlo’n ddiogel y rhan fwyaf o’r amser; 18% peth o’r amser a 4% ddim yn aml iawn
Mae’n beth da bod y mwyafrif ohonoch yn teimlo’n hapus ac yn ddiogel. Y pethau oedd yn cael yr effaith fwyaf ar eich teimladau oedd methu treulio amser gyda ffrindiau (72%), ddim yn gallu gweld aelodau teulu (59%) ac ysgolion a cholegau yn cau (42%).
Iechyd Emosiynol a Meddyliol
Roedd pobl yn poeni bod y cyfyngiadau Coronafeirws yn mynd i gael effaith negyddol ar iechyd meddwl pobl. Roedd yr arolwg yn gofyn a oeddech chi’n hapus yn gofyn am gefnogaeth iechyd emosiynol neu feddyliol gan y bobl ganlynol:
- Ffrindiau neu deulu- 83%
- Cyfryngau cymdeithasol neu wefan – 53%
- Athrawon neu staff arall yr ysgol – 53%
- Doctor – 52%
- Tîm Iechyd Meddwl- 43%
- Cynghorwr Ysgol – 39%
Gan fod y mwyafrif ohonoch adref gyda’ch teulu, mae’n grêt bod 83% yn teimlo’n hyderus yn gofyn iddynt am help gan mai nhw yw’r rhai hawsaf i chi ofyn iddynt yn y cyfnod yma. I’r rhai oedd ddim yn hyderus yn gofyn am help teulu roedd yr arolwg yn ddefnyddiol i roi opsiynau eraill o gefnogaeth gellir mynd atynt.
Addysg
I’r mwyafrif ohonoch, un o’r pethau roedd y pandemig yn cael yr effaith mwyaf arno yn eich bywydau oedd y ffaith bod rhaid cau ysgolion a cholegau. Roedd arholiadau wedi’u canslo, rhai ddim yn cael profi wythnosau diwethaf erioed yn yr ysgol, colli allan ar ddawns diwedd flwyddyn a bywyd yn symud i ddysgu ar-lein,
Yn yr arolwg, roeddech yn cael dewis pa frawddegau oedd yn wir i chi. Gellir dewis cymaint ag yr hoffech. Dyma oedd y 5 uchaf:
- Dwi’n poeni am gwympo tu ôl gyda fy addysg – 54%
- Dwi’n drist ar golli cyfleoedd roeddwn i’n edrych ymlaen atyn nhw – 53%
- Dwi’n poeni ar sut gallai hyn effeithio ar fy nghanlyniadau arholiad – 52%
- Does gen i ddim cymhelliad i wneud gwaith ysgol gartref – 48%
- Dwi’n poeni am ddechrau ysgol newydd neu flwyddyn newydd ym mis Medi – 30%
Roedd llawer eisiau mwy o gyswllt a chymorth gan yr ysgol, gyda nifer eisiau gwersi dros fideo. Roedd rhai ohonoch yn cael trafferth gweithio o adref gan fod rhieni yn gweithio ac roeddech chi angen mwy o gefnogaeth.
Arholiadau
Dan amgylchiadau arferol, os fydda rywun yn dweud nad oes rhaid sefyll arholiad, mae’n debyg byddech chi’n hapus am hyn. Ond mae tynnu’r hawl yma i ffwrdd mor sydyn yn ystod y pandemig yn golygu bod rhai ohonoch yn ansicr sut i deimlo am y peth. Dyma sut roeddech chi’n teimlo am ganslo’r arholiadau:
- Ansicr – 50%
- Pryderus – 18%
- Hapus – 17%
- Crac – 6%
- Trist – 5%
- Arall – 4%
Ar ôl yr holl waith roedd yn sefyllfa od iawn i chi fod ynddi ac roedd rhai ohonoch yn poeni am y graddau byddai’r athrawon yn ei roi ac os fyddech chi’n cael yr hyn roeddech chi ei angen i fynd i’r brifysgol.
Gwybodaeth
Roedd yr arolwg yn holi o ble roeddech chi’n cael eich gwybodaeth am y Coronafeirws, ac roedd posib dewis mwy nag un ffynhonnell. Y prif atebion oedd:
- Teledu – 71%
- Rhieni neu deulu – 70%
- Postiadau ar gyfrifon newyddion cyfryngau cymdeithasol – 48%
- Gwefannau newyddion neu apiau – 48%
Ymlacio
Roedd gorfod aros yn y tŷ yn rhoi digon o amser i ni ymlacio, ac roedd hyn yn cael ei ategu gyda’ch atebion i’r cwestiwn os oeddech chi’n ymlacio fwy neu’n llai aml ers i’r ysgolion gau.
- 61% – Ymlacio mwy
- 22% – Tua’r un peth
- 16% – Ymlacio llai
Roedd y mwyafrif ohonoch yn dweud eich bod wedi bod yn siarad gyda ffrindiau ar-lein ac yn ymarfer corff. Roedd darllen, gwylio’r teledu a threulio amser gyda theulu hefyd yn ymddangos yn aml.
———-
Tra bod y mwyafrif ohonoch ddim wedi’ch effeithio’n negyddol yn ystod y cloi mawr, roedd pethau yn anodd iawn i rai ohonoch. Efallai eich bod wedi colli rhywun agos yn y cyfnod yma. Gallech chi fod yn teimlo’n drist neu’n bryderus, ddim yn gallu ymlacio, ddim yn gallu cael mynediad i’ch cefnogaeth iechyd meddwl neu emosiynol arferol neu fod gwaith ysgol/coleg yn ymdrech neu’n poeni am fethu arholiadau.
Bydd Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill yn defnyddio canlyniadau’r arolwg yma i helpu gyda gwneud penderfyniadau, a sicrhau eu bod yn gwrando ar eich llais wrth ddatblygu gwasanaethau neu bolisïau yn y dyfodol.
Eisiau darllen yr ymgynghoriad lawn, neu fersiwn byrrach gyda symbolau hawdd i’w darllen? Maen nhw ar gael yma.
Edrycha ar ein tudalennau Coronafeirws.