Pethau Rhad ac am Ddim i’w Gwneud yng Nghaerdydd 28 Chwef – 6 Mawrth

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Wrth i’r hanner tymor ddod i ben, mae’r ysgol yn ail gychwyn. Ond nid yw’n rheswm i ti stopio fod yn cŵl.

Dyma restr arall o bethau i’w gwneud yr wythnos hon, fydd ddim yn rhy ddrud ac wedi’u gosod ledled Dinas Caerdydd. Yr wythnos hon: cyfleoedd yn y diwydiant ffilm, Gŵyl Gwyddoniaeth Caerdydd, llwyth o ddigwyddiadau amgueddfeydd a Uni Nerd Varsity Caerdydd.

DYDD IAU 28 CHWEFROR

Rydym yn dychwelyd i’r amgueddfeydd y dydd Iau yma gyda dau ddigwyddiad am ddim.

I gychwyn Straeon o’r Casgliad. Fel rhan o’r prosiect Tynnu’r Llwch, bydd yna gyfle am stori yn yr Amgueddfa gyda thwist cerddorol Affricanaidd. Cadwa le ar Eventbrite.

Yn anffodus, mae’r digwyddiad arall, yn gadael ymwelwyr i mewn i’r amgueddfa ‘GYDA’R HWYR’ i ddathlu 500 mlynedd ers marwolaeth Leonardo DaVinci, yr artist dawnus, wedi gwerthu allan. Manylion y digwyddiad yma – os wyt ti’n awyddus iawn, efallai gallet ti ffonio’r amgueddfa i weld os gallant dy ffitio i mewn.

Mae yna arddangosfa yn yr amgueddfa hefyd – yn ymwneud â DaVinci eto – ond i gael i mewn bydd angen talu £5 os wyt ti o dan 16 (£4 consesiwn).

GWENER 1 MAWRTH

Mae Gŵyl Wyddoniaeth Caerdydd (gweler adran dydd Sadwrn) yn cyflwyno cwis tafarn cyffrous – ond dim ond i rai dros 18 oed.

SADWRN 2 MAWRTH

Trwy’r wythnos hir yma, o 28 Chwefror i 3 Mawrth, bydd Gŵyl Wyddoniaeth Caerdydd yn digwydd yn y ddinas, yn ei lenwi gyda gwybodaeth a syndod.

Yn fy marn i, efallai mai’r digwyddiad mwyaf diddorol ydy “Fydd Robot Yn Cymryd Fy Swydd?” Mae hyn yn rhywbeth sydd wedi bod ar feddwl miliynau o bobl dros y byd ers blynyddoedd. Mae robotiaid wedi cael y bai am ddiweithdra bron cymaint ag y mae mewnfudwyr – ac nid allant ddadlau yn ôl, heblaw eu bod wedi cael eu rhaglennu i wneud hynny. Mae’r digwyddiad yma’n digwydd yn yr Arcade Vaults, felly cer draw i glywed y clecs awtomasiwn gan Scott Morgan, PhD. Eventbrite.

I weld mwy o ddigwyddiadau’r Caffi Gwyddoniaeth, mae’r amserlen lawn ar gael yma.

Mae yna ddigwyddiad mawr arall dydd Sadwrn: Gŵyl Gwerin Y Rhath,

Bydd Canolfan Gelf The Gate yn cynnal llwyth o gerddorion gwerin anhygoel a bydd y noson yn cael ei gloi gyda ceilidh traddodiadol. Clicia ar y digwyddiad Facebook a chael tocynnau ar eu gwefan.

DYDD SUL 3 MAWRTH

Dau o ddigwyddiadau eraill anhygoel yr Ŵyl Gwyddoniaeth.

Mae Ein Datrysiad Plastig yn edrych ar atebion i’n Problem Blastig (fel disgrifiwyd yn ein hymgyrch Sprout #DimMôrPlastig). Mae’r un yma am ddim!

Wedyn, bydd Bywyd ar Mawrth yn edrych ar ailgymysgiad cyffrous o’r cwis tafarn draddodiadol. Dywedodd neb y bydda sefydlu bywyd ar y blaned goch yn hawdd.

LLUN 4 MAWRTH

Mae’r digwyddiad Movie Maker poblogaidd yn dychwelyd i’r Chapter. Oes gen ti ffilm fer hoffet ti ei ddangos o flaen cynulleidfa? Cyflwyna ef yma a cheisia cael tocyn am ddim. Rhaid brysio gan fod y bylchau ffilm a’r bylchau pen ôl yn llenwi’n sydyn!

Mae’r 4 o Fawrth hefyd yn nodi cychwyn NERD VARSITY i Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Ia, pythefnos o gystadlaethau twp i ddarganfod y nerd gorau. O’r twrnamaint Super Smash Bros difrifol i ddigwyddiadau gwirion fel “rhedeg fel cymeriad anime”. Mae’n swnio’n ddoniol iawn, felly cymera ran os nad wyt ti yn barod.

DYDD MERCHER 6 MAWRTH

Mwy o hwyl ffilm gyda’r BFI a’r Gymdeithas Rhaglenni Dogfen Leol yn ymuno ar gyfer y digwyddiad yma yn y Chapter, yn targedu darpar wneuthurwyr ffilmiau dogfen. Gafaela’n dynn yn y cyfle yma a dogfenna’r bywyd ohono!

Hoffi’r golofn hon? Helpa ni i wneud Pethau Rhad ac am Ddim i’w Gwneud yng Nghaerdydd yn well fyth, wrth lenwi’r pôl hwyl yma.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd