Mae Wythnos Ailgylchu yn cael ei gynnal rhwng yr 20fed a’r 26ain o Fedi yn 2021, ac mae’n gyfle gwych i atgoffa pawb am y ffyrdd gwych gellir helpu’r amgylchedd wrth ailgylchu.
Ailgylchu yng Nghymru
Oeddet ti’n ymwybodol mai Cymru yw’r 3ydd gwlad gorau yn y byd pan ddaw at ailgylchu? Er bod hwn yn gyflawniad gwych, mae lle i wella o hyd.
Efallai dy fod di wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ers sbel, neu wedi symud yma o wahanol ran o Gymru, neu o dramor hyd yn oed. O ble bynnag y dois di, mae’n beth da i gael dy atgoffa o’r ffyrdd gorau i ailgylchu tra rwyt ti’n fyfyriwr yng Nghaerdydd. Dyma 5 o’n hawgrymiadau ailgylchu gorau:
1. Gwybod dyddiadau diwrnod casglu
Sicrha dy fod di’n gwybod pa ddiwrnodau a pa wythnosau maent yn casglu gwastraff cyffredin, gwastraff bwyd a gwastraff ailgylchu yn dy ardal leol. Mae’r wybodaeth yma i’w weld yma. Mae posib gosod negeseuon i dy atgoffa fel nad wyt ti byth yn anghofio!
2. Ailgylchu wrth i ti fynd
Sicrha bod y bobl rwyt ti’n byw â nhw yn deall yn union pa eitemau sydd yn gallu, a ddim yn gallu, cael eu hailgylchu. Bydd hyn nid yn unig yn helpu’r amgylchedd, ond bydd yn helpu cadw’r gwylanod drwg draw. Cofia edrych ar y pecynnau am unrhyw wybodaeth ailgylchu, neu os nad oes gwybodaeth ar y cynnyrch a/neu becyn, mae posib edrych ar wefan Cymru yn Ailgylchu sydd yn dweud yn union sut i ailgylchu eitemau cyffredin.
3. Bod â’r bagiau cywir
Bydd sicrhau bod y bagiau gwastraff cywir gen ti yn helpu ti i ailgylchu. Mae posib cael mwy o fagiau ar wefan Cyngor Caerdydd yma.
4. Chwilio am fargen ail law
Mae posib arbed arian a’r amgylchedd wrth chwilio am bethau rwyt ti ei angen ar gyfer y tŷ ar-lein neu mewn siopau elusen leol. Efallai bydd posib cael ychydig o bethau ar Farchnad Facebook neu o wefannau fel Freecycle, Freegle a Gumtree.
5. Lleihau gwastraff wrth goginio â’ch gilydd
Yn anffodus, mae posib dweud pa ddiwrnod yw diwrnod casglu biniau yng Nghaerdydd gan fod y strydoedd yn aml yn llawn sbwriel sydd ddim wedi cael ei ddelio ag ef yn gywir. Y pechadur mwyaf yw gwastraff bwyd! Helpa leihau gwastraff bwyd wrth goginio bwyd ar y cyd â’r bobl rwyt ti’n byw â nhw. Mae gan BBC Good Food a Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff syniadau da am brydau. Mae coginio gyda’ch gilydd hefyd yn rhatach ac yn fwy o hwyl!
Gwybodaeth berthnasol
Cer draw i gael golwg ar dudalennau Amgylchedd TheSprout yma.