Site icon Sprout Cymraeg

Cyflwyniad i’r Ymgyrch Chwareus Nid Amheus

Bwriad yr ymgyrch Chwareus Nid Amheus ydy i godi ymwybyddiaeth am ble mae pobl ifanc yn gallu cael gwybodaeth a chefnogaeth am iechyd rhywiol a pherthnasau.

Gwybodaeth am Chwareus Nid Amheus

Mae’r Ymgyrch Chwareus Nid Amheus wedi ei greu ar y cyd â 10 person ifanc sydd yn derbyn cefnogaeth gan SHOT: Y Gwasanaeth Perthnasau Iach.

Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r Tîm Ymestyn Allan Iechyd Rhywiol (SHOT) a YMCA Caerdydd i gasglu barn, teimladau a phrofiadau pobl ifanc am gael mynediad i gefnogaeth a gwybodaeth iechyd rhywiol a pherthnasau.

Beth yw SHOT: Y Gwasanaeth Perthnasau Iach?

Mae SHOT: Y Gwasanaeth Perthnasau Iach yn darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth gyfrinachol i bob ifanc Caerdydd am unrhyw beth sydd yn ymwneud â pherthnasau ac iechyd rhywiol.

Mae’r gwasanaeth yn cefnogi unrhyw berson ifanc 11-25 oed yng Nghaerdydd gyda llawer o bethau, gan gynnwys:

Mae’r tîm SHOT yng Nghaerdydd yn helpu pobl ifanc i gael mynediad i brofi a chynnyrch atal cenhedlu mewn clinigau iechyd rhywiol. Cynigir cefnogaeth yn unigol ac fel rhan o grŵp.

Yr ymgyrch

Bydd yr ymgyrch pythefnos o hyd yma yn rhannu blogiau a chyfryngau cymdeithasol o’n cyfweliadau arbennig gyda phobl ifanc.

I gael gwybod y diweddaraf am y cynnwys, ymwela â gwefan TheSprout yn ddyddiol. Dilyna ein sianeli cyfryngau cymdeithasol ar Facebook, Twitter, Instagram, TikTok and YouTube i gael dy atgoffa o gynnwys newydd.

Os wyt ti eisiau bod yn rhan o’r sgwrs, defnyddia’r hashnod #ChwareusNidAmheus

Dyma gellir ei ddisgwyl yn yr ymgyrch:

Derbyn cefnogaeth SHOT

I dderbyn cefnogaeth SHOT, llenwa ffurflen cyfeirio. Mae posib cyfeirio dy hun fel person ifanc neu gallet ti ofyn i riant/gofalwr neu weithiwr proffesiynol i helpu.

I wneud cyfeiriad, cysyllta â SHOT: Y Gwasanaeth Perthnasau Iach drwy e-bost: SHOT@ymcacardiff.wales neu ffonia (029) 2046 5250.

Gwybodaeth Berthnasol

Cer draw i dudalen gwybodaeth Iechyd Rhywiol TheSprout sydd â llwyth o wybodaeth iechyd rhywiol lleol a chenedlaethol a dolenni i wasanaethau cefnogol.

Os wyt ti’n rhannu cynnwys yr ymgyrch Chwareus Nid Amheus ar gyfryngau cymdeithasol, cofia ddefnyddia’r hashnod #ChwareusNidAmheus a thagio ni.

Exit mobile version