Wyt ti erioed wedi meddwl sut fydd y dyfodol mewn 50 mlynedd? Dyma Sam, sydd yn 12 oed ac wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Cerdyn Post o’r Dyfodol Chapter, yn egluro’r weledigaeth y tu ôl i’w lun.
Beth oedd dy ysbrydoliaeth wrth greu’r llun?
Yr ysbrydoliaeth oedd pan roedd mam eisiau mynd i siopa yn y gofod am fod llinell fawr o bobl yn disgwyl i dalu yn Tesco. Nid yw’n hoff o ddisgwyl felly mae eisiau mynd i siopa yn y gofod a dyna oedd ysbrydoliaeth fy ngwaith celf.
Sut wyt ti’n teimlo am gael dy gynnwys mewn arddangosfa celf broffesiynol yn Chapter?
Dwi’n gyffrous iawn bod fy ngwaith yn cael ei arddangos .
Pa bethau creadigol eraill wyt ti’n gwneud?
Dwi’n gwneud llawer o luniau adref pan fydd y tywydd yn ddrwg. Dwi hefyd yn hoff o greu bwydlenni yn y gegin gyda mam sydd o Wlad y Tai.
Oes unrhyw beth arall hoffet ti ddweud am gyrraedd y rownd derfynol?
Dwi’n falch iawn o fod yn y 3 uchaf (yn fy ngrŵp oedran). Mae’n gyflawniad grêt i mi, a dwi hefyd yn falch ar ran fy ysgol hefyd.
Gwybodaeth berthnasol
Mae hwn yn rhan o’r ymgyrch Cerdyn Post o’r Dyfodol sydd yn cael ei gynnal ar y cyd â Chanolfan Gelfyddydau Chapter i ddathlu eu pen-blwydd yn 50. I ddysgu mwy am y gystadleuaeth a phawb arall sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, clicia yma.