Wyt ti’n credu nad yw’n bosib dweud stori dda mewn fideo sydd wedi’i ffilmio a’i olygu ar dy ffôn? Mae’r rhai fu’n cymryd rhan yng ngweithdy fideo’r Sprout yn ddiweddar yma i brofi fel arall!
Asasin
I gychwyn dyma Assassin gan Ren, Ewa a Tom. Wedi’i seilio ar y gêm boblogaidd sy’n cael ei chwarae mewn sawl prifysgol ayb, pan ti’n cael targed ac yn cael cyfeiriadau i’w “cymryd nhw i lawr” gydag arfau ffug. Fel y fideos eraill cafodd hwn ei greu wrth ffilmio a golygu ar gwpl o ffonau clyfar.
Ystafell ddianc
Mae The Haunting of the Escape Room gan Charlotte, Jemma, Chloe a Fiona yn gomedi cyffrous gyda thwist dyn mewn mwgwd. Mae’n rhaid cyfaddef bod yr ystafell ddianc yn debyg iawn i gegin ProMo-Cymru. Kudos mawr i’r tîm am ymdrech ‘killer’.. gan obeithio nad yw hyn yn llythrennol!
Toriad
Nesaf, mae gennym The Break gan Daniele, Elsie a Morgane. Mae’n debyg dy fod di wedi dyfalu erbyn hyn bod yr hyfforddiant wedi digwydd yn y swyddfa ProMo-Cymru! Ond mae hwn yn dal i fod yn ffilm ddoniol iawn gydag onglau camera grêt.
Y Wal
Ac yn olaf, The Wall, gan Oska, Lauren a fi. Hoffwn ddweud mai hwn yw’r gorau, ond byddai hynny’n bod yn dueddol, ac yn anwir mae’n debyg! Ond ni oedd y cyntaf i orffen, gydag ychydig llai nag dwy awr. Mwynha haul Bae Caerdydd, a’r twist yn y stori.
Mae yna ddogfen ddiddorol ychwanegol yn dod hefyd, ond nid yw’n barod i weld golau’r dydd eto. Cadwa lygaid ar ein gwefan a’n cyfryngau cymdeithasol a dylai hwn gyrraedd cyn hir.
Cawsom lot o fwynhad o’r gweithdai ac yn awyddus i’w wneud eto’n fuan. Pwy fydd yn cychwyn sianel YouTube ar ôl hyn? Cofia ni pan fyddi di wedi cael 10 mil o subs.