Ydy’r Nadolig Yn Gyfnod Mwyaf Hyfryd Y Flwyddyn Go Iawn?

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Nadolig: Nid yw’n ŵyl hyfryd i bawb!

Mae Meic, llinell gymorth genedlaethol i bobl ifanc yng Nghymru yn dweud bod cannoedd o bobl ifanc angen rhywun i siarad â nhw dros gyfnod y Nadolig – gyda pherthnasau yn un o’r prif broblemau yn y pedair blynedd diwethaf.

Cer i edrych ar y fideo yma sydd yn adlewyrchu ar brofiad personol dros y Nadolig, cyfnod sydd ddim yr amser mwyaf hyfryd.

“Y tu ôl i holl firi’r Nadolig, y goleuadau a’r anrhegion, mae pethau yn anodd i rai pobl ifanc dros y Nadolig. Mae llawer ohonynt wedi cysylltu ar ôl stryglo gydag arian, perthnasau, iechyd meddwl, hawliau, a mwy.” Stephanie Hoffman, Pennaeth Meic.

Mae Meic yma i helpu a chefnogi pobl ifanc i ymdopi gyda chyfnodau fel y Nadolig – nid oes rhaid dioddef yn ddistaw. Gallant wrando, siarad â thi a helpu ti i ddarganfod ffordd i symud ymlaen. Gall plant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru gysylltu gyda Meic 365 diwrnod y flwyddyn (gan gynnwys diwrnod y Nadolig a Nos Galan), 8yb – Hanner nos ar y ffôn, neges testun neu neges ar-lein.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd