#MHAW17- Fy Stori: OCD

Posted on:   Posted by:

Cyhoeddwyd yr erthygl yn wreiddiol ar 18/10/2016 gan Anonymous, yn cael ei ailgyhoeddi heddiw ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2017 (MHAW17)

Crash. Bang. Gwich. Beth oedd hynna? Oes yna rywun lawr staer? Oes rhywun wedi torri i mewn? Mae fy nghalon yn dechrau rasio. Mae fy nwylo’n dechrau chwysu. Beth fedraf i ei wneud?

Crash. Dyna’r sŵn yna eto. Beth ydw i’n gallu gwneud i stopio hyn? Fedrai wneud dim – dim ond plentyn ydw i. Ni fedraf ymladd yn erbyn lleidr. Dwi ddim eisiau marw. Yr unig beth gallaf ei wneud yw meddwl, “nid oes neb yn torri i mewn.”

“Mae hyn yn teimlo’n well. “Nid oes neb yn torri i mewn. Nid oes neb yn torri i mewn.”

Rwy’n tapio tair waith ar y ddesg. Mae hynny’n teimlo’n llawer gwell, dwi ddim yn deall pam. Dwi’n gwybod nad yw’r pethau yma yn gwneud synnwyr, ond maent yn teimlo’n dda, a wyddost ti beth, yn y cyfnod yma, nid oes llawer mwy gallaf ei wneud. Rwy’n gorwedd yno am hanner awr neu fwy. “Nid oes neb yn torri i mewn.” Tap, tap, tap. Mae’r sŵn yn stopio. Mae fy nghalon yn arafu ac yn araf bach rwyf yn disgyn yn ôl i gysgu.

Rwy’n deffro, ac mae popeth yn iawn. Dwi’n fyw a neb wedi torri i mewn. Dwi’n gwybod nad oedd y camau yna yn gwneud unrhyw fath o synnwyr rhesymol, dwi’n ddiolchgar mod i’n lwcus ac yn symud ymlaen. Ychydig nosweithiau wedyn, mae’n digwydd eto. Crash. Bang. Gwich. Rwy’n mynd i banig. Dwi’n ymestyn at y ddesg, yn tapio tair waith ac yn dweud “nid oes neb yn torri i mewn.”

“Mae’r mwyafrif o bobl efo rhywfaint o syniad beth yw [iselder a phryder]… ond mae yna lawer iawn o gamddealltwriaeth am OCD”

Dyma sut cychwynnodd, fel mesur tawelu byrdymor ar gyfer yr ofn o ladrad o’m mhlentyndod, ond datblygodd hwn wedyn i feddwl bob dydd bron bod fy ffrind wedi’i melltithio, mod i’n mynd i gael canser a chael fy mhoeni gyda delweddau rhywiol digroeso. Mae’r arfer yma o feddwl, a ddatblygodd yr holl flynyddoedd yn ôl fel plentyn, yn cael eu hadnabod fel Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol (OCD).

Efallai mai dyma un o’r cyflyrau iechyd meddwl nad oes llawer o ddealltwriaeth ohono. Tra bod yna llawer mwy o waith i’w wneud i godi ymwybyddiaeth o faterion tebyg fel iselder neu bryder, mae gan y mwyafrif o bobl ychydig o syniad beth ydyn nhw. Ond, mae yna lawer o gamddealltwriaeth o OCD. Felly, pan ofynnodd fy ffrind i mi siarad am Wythnos Ymwybyddiaeth OCD i’r Sprout, teimlais y dylwn i wneud.

Beth ydy OCD?

Nid yw OCD yn ymwneud â bod eisiau pethau mewn trefn benodol. Nid yw OCD yn ymwneud â hylendid. Nid yw OCD yn ymwneud â bod yn ofergoelus. Er bod llawer ohono yn gallu dangos y fath nodweddion, y prif wahaniaeth ydy nad yw rhywun gyda OCD eisiau’r pethau hyn – maent yn teimlo fel bod rhaid iddynt neu bydd rhywbeth yn digwydd iddyn nhw, neu rywun agos iddynt.

Mewn gwirionedd, gall rhywun gyda OCD fod yn berson anniben, ond bydd yr OCD yn dweud wrthynt os nad ydynt yn sythu’r gadair yna byddant yn marw. Maent yn deall bod hyn yn wirion ond mae’r pryder sydd yn cael ei achosi gan hyn mor fawr fel eu bod yn sythu’r gadair a bydd y pryder yn toddi bron yn syth.

Ac maent yn fyw o hyd! Felly mae’r meddwl yn dysgu bod rhaid sythu’r gadair y tro nesaf bydd y syniad yma yn codi. Mae fel cyffur ac maent yn mynd yn gaeth iddo. Mae’r person yma yn newid o fod yn rhywun sydd ddim yn dwt iawn i rywun sydd ddim yn gallu ymlacio heb sythu pob cadair yn y tŷ cyn mynd i’r gwely.

“Mae dy gorff yn mynd i ryw fodd cyntefig o ymladd neu ffoi ac mae’r rhan afresymol o dy ymennydd yn cymryd drosodd.”

Mae yna ddau brif elfen i OCD: obsesiwn a gorfodaeth. Mae’n cychwyn gyda’r syniad mewnwthiol. Mae pob person yn cael meddyliau mewnwthiol. Y syniad yna ti’n ei gael pan fyddi di’n sefyll ar ymyl rheilffordd, “Beth os dwi’n neidio?” Y syniad rhywiol di-groeso yna sydd yn dod i’r meddwl ar amser anaddas. Y panig yna ti’n ei gael wrth ddarganfod lwmp ar dy gorff yn rhywle.

Y gwahaniaeth ydy, mae’r mwyafrif o bobl yn cael y syniad, yn meddwl amdano am eiliad, ac yna’n sylwi bod hwn yn afresymol ac yn symud ymlaen i rywbeth arall. Mae rhywun gyda OCD yn cadw gafael ar y syniad. Maent yn rhoi ystyr iddo. Mae’n creu “sbigyn” o bryder. Mae’r syniad yn obsesiwn. Ti’n meddwl amdano ormod. Mae dy gorff yn mynd i ryw fodd cyntefig o ymladd neu ffoi ac mae’r rhan afresymol o dy ymennydd yn cymryd drosodd.

Mae dy feddwl afresymol yn meddwl am ffordd hawdd i leddfu’r pryder, ac am dy fod di angen cael allan o’r sefyllfa yma, rwyt ti’n ei gymryd. Dyma’r orfodaeth. Mae ganddo sawl ffurf. Cyffwrdd pethau, symud pethau, dweud pethau. Unwaith i ti wneud hyn unwaith, neu ddwywaith, mae’n dod yn arfer ac yn ymateb awtomatig. Pan fyddi di’n cael y syniad mewnwthiol yma yn y dyfodol, rwyt ti’n ailadrodd yr un orfodaeth. Mae dy ymennydd yn dechrau ymateb fel hyn i lawer o syniadau mewnwthiol eraill, ac felly, rwyt ti’n datblygu amryw o obsesiynau a gorfodaethau.

Ond, nid yw gorfodaethau fel hyn yn cymryd ffurf gorfforol bob tro. Mae fy OCD wedi datblygu i mewn i rywbeth gelwir yn O Pur. Prin y byddaf yn ymateb gyda gweithrediadau corfforol gorfodol bellach. Mae fy OCD wedi’i guddio bron yn gyfan gwbl bellach a byddai’n anodd i unrhyw un wybod amdano. Mae sawl ffurf i O Pur gan gynnwys:

  • OCD Niwed – “Beth os ydw i’n trywanu’r person yna?”
  • Amheugarwch – “Rwy’n berson ofnadwy a dwi’n mynd i uffern.”
  • OCD Rhywiol – Cael syniadau rhywiol digroeso am rywun
  • OCD Perthynas – “Beth os nad wyf yn caru fy nghariad mewn gwirionedd?” neu “Beth os ydw i wedi gwneud camgymeriad yn priodi fy ngwraig?”

Mwy o fideos o bobl yn siarad am eu profiadau gydag O Pur yma.

Mae gorfodaethau yn O Pur yn dod mewn ffurf meddyliau. Er esiampl, chwilio dy feddwl yn barhaol i weld os wyt ti wir eisiau trywanu’r person yna (er dy fod di’n gwybod yn sicr na fyddi di), neu, os oes gen ti feddyliau rhywiol, meddwl am rywbeth hollol wahanol i geisio ymwared ar y syniadau yma. Gall hyn fynd rownd a rownd mewn cylchoedd a gall fod yn boen yn feddyliol.

“Gallet ti oroesi OCD, yn union fel y gallet ti oroesi unrhyw ddibyniaeth”

Goroesi OCD

Y newyddion da ydy mai dim ond arferiad meddyliol gwael ydy OCD – ac mae posib torri arferion drwg. Gallet ti oroesi OCD, yn union fel y gallet ti oroesi unrhyw ddibyniaeth. Tra bod cyffuriau gwrthiselydd yn gallu helpu yn y cyfnod byr, nid ydynt yn hanfodol yn y mwyafrif o achosion er mwyn goroesi OCD.

Y driniaeth fwyaf effeithiol i mi glywed amdano ydy Therapi Ymateb i Amlygiad (ERP). Hynny yw, amlygu dy hun i’r syniadau obsesiynol yma ac wynebu’r pryder. Gadael i’r pryder fod yno a pheidio gwneud dim am y peth. Fel rhywun sydd yn ofni pryfaid cop yn cerdded i mewn i ystafell lawn tarantwlas ac yn aros yna efo nhw. Mae’n rhywbeth wrthreddfol, ond mae’n gweithio. I gychwyn, ti’n cael sbigyn o bryder. Y tro nesaf, mae’n sbigo eto, ond ychydig yn llai y tro hyn. Ti’n parhau i wneud hyn ac yn y diwedd ychydig iawn o bryder sydd gen ti am dy fod di wedi dysgu dy ymennydd ei bod yn ddiogel ac i beidio mynd i’r modd ymladd neu ffoi. Gallet ti wneud hyn gydag O Pur wrth dderbyn y syniadau mewnwthiol.

Er esiampl, mae OCD yn dweud: “Rwyt ti’n llofruddiwr ac eisiau lladd dy ffrind,” ond ti’n dweud: “Efallai mai llofruddiwr ydw i, diolch OCD am ddod a’r syniad yma i’m sylw.” Rwyt ti wedi tynnu’r grym yma i ffwrdd o’r OCD. Yr unig rym sydd ganddo nawr ydy ofn a pan fyddi di’n derbyn y meddyliau yma (er dy fod di’n gwybod nad ydynt yn wir), mae’r ofn yn diflannu ac felly, mae’r grym drostynt yn mynd hefyd. Mewn gwirionedd, mae’n llawer anoddach ac mae angen llawer o rym ewyllys a ffydd, ond gellir goresgyn OCD.

Os wyt ti’n meddwl bod gen ti unrhyw rai o’r symptomau uchod, neu’n adnabod rhywun sydd yn dioddef gyda OCD, byddwn yn annog yn gryf i ti ymweld ag unrhyw un o’r gwefannau ar waelod y dudalen hon a mynd at y Meddyg Teulu i gael help. Nid oes angen i bethau fod fel hyn.

Nodyn Is-Olygydd: Rydym wedi nodi rhai o’r llinellau cymorth, gwefannau a sefydliadau gorau am wybodaeth a chymorth yma.

Os hoffet ti siarad gydag unrhyw un am hyn neu faterion tebyg, cysyllta â Meic, y llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth genedlaethol i rai 0-25 oed yng Nghymru. Gallet ti gysylltu â Meic ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001), negeseuon ar-lein (www.meic.cymru) neu e-bost (help@meic.cymru) rhwng 8yb a hanner nos.

Erthyglau a gwybodaeth berthnasol:

Erthyglau Iechyd Meddwl wedi’u hysgrifennu gan bobl ifanc.

Tudalennau Gwybodaeth

Rydym wedi nodi rhai o’r llinellau cymorth, gwefannau a sefydliadau gorau am wybodaeth a chymorth:

Iechyd Meddwl

 


Have your say

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru