Iechyd Meddwl

Nid yw iechyd meddwl yn rhywbeth dylid ei guddio, mae’r un mor bwysig ag iechyd corfforol. Mae yna lawer o ymgyrchoedd a sefydliadau sydd yn annog pobl i siarad amdano. Mae ymchwil yn dangos bod gan un ymhob 8 plentyn neu berson ifanc broblem iechyd meddwl, felly mae’n fwy cyffredin nag y mae pobl yn ei feddwl. Paid teimlo cywilydd o dy iechyd meddwl, chwilia am y cymorth rwyt ti ei angen.

Mae yna lawer o gefnogaeth ar gael ac mae rhai o’r sefydliadau, llinellau gymorth, gwefannau, apiau a blogiau gorau isod.

Gwasanaethau Cenedlaethol

Meic – Os wyt ti angen gwybodaeth bellach am faterion iechyd meddwl a gwasanaethau fydd yn gallu helpu, cysyllta â’r llinell gymorth Meic. Mae Meic yn llinell gymorth eiriolaeth, cyngor a gwybodaeth i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Galwa am ddim ar 080880 23456, neges testun 84001 neu neges ar-lein.

Meddwl.org – Lle i gael cefnogaeth, dysgu am anhwylderau iechyd meddwl gwahanol, darllen am brofiadau eraill a chael gwybodaeth am ble i gael cymorth – i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg. Y bwriad yw ei gwneud yn haws i ddarganfod gwybodaeth iechyd meddwl Cymraeg wrth dynnu popeth at ei gilydd mewn un lle.

Young Minds – Elusen sydd yn ymladd dros iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Darganfydda sut i ofalu amdanat ti dy hun, am deimladau a symptomau a’r cyflyrau iechyd meddwl gwahanol. Gyrra “YM” fel neges destun at 85258 am ddim, 24/7 os wyt ti’n cael argyfwng iechyd meddwl.

Gofal Galar Cruse – Mae marwolaeth rhywun agos yn gallu achosi problemau iechyd meddwl fel iselder, pryder ayb. Cefnogaeth gyfrinachol. Llinell gymorth: 0808 808 1677

Sefydliad Iechyd Meddwl – Yn gwella gwasanaethau iechyd meddwl a hyrwyddo lles meddyliol. Mae yna A-Z o iechyd meddwl ar y wefan i ddysgu am y cyflyrau gwahanol a ble i gael help. Mae gan y sefydliad ganllaw defnyddiol ar sut i siarad gyda’r meddyg teulu am dy broblemau iechyd meddwl.

The Mix – Cefnogaeth i rai dan 25 oed. Mae ganddynt lwyth o gyngor gan arbenigwyr iechyd meddwl a straeon go iawn os wyt ti’n poeni am dy iechyd meddwl neu iechyd meddwl rhywun arall.

Moodzone – GIG – Awgrymiadau a chyngor, hunangymorth a thriniaeth wahanol, straeon pobl eraill a ble i gael cymorth brys.

Childline – Mae gan y wefan lwyth o wybodaeth a chyngor am iechyd meddwl, pryder, straen, hunan-niwed ayb. yn yr adran Dy Deimladau Mae ganddynt linell gymorth hefyd os wyt ti eisiau siarad â chwnsler am dy deimladau ar 0800 1111, 24 awr y dydd.

Samariaid Cymru – Llinell gymorth 24 awr am ddim i unrhyw un sydd mewn trallod emosiynol neu’n meddwl am ladd eu hunain. Maent yn cynnig lle diogel i siarad ar unrhyw amser. Byddant yn edrych ar dy opsiynau, dod i ddeall dy broblemau ac maent yno i wrando. Nid oes rhaid rhannu manylion personol. Galwa: 116 123 (24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos). Llinell Cymraeg: 0808 164 0123 (amseroedd yn amrywio yn ystod yr wythnos – edrycha ar y wefan yma). E-bost: jo@samaritans.org

Canolfan Iechyd Meddwl Cenedlaethol – Ymchwilwyr o Brifysgolion Caerdydd, Abertawe a Bangor yn gweithio i ddysgu mwy am yr hyn sydd yn sbarduno ac yn achosi problemau iechyd meddwl. Ar y wefan mae yna daflenni iechyd meddwl gellir eu lawr lwytho, gwybodaeth am feddyginiaeth iechyd meddwl, teclynnau ar-lein a fideos.

Bipolar UK – Gwybodaeth a grwpiau cefnogol i bobl ifanc gyda deubegwn (bipolar), yn ogystal â theulu a ffrindiau.

OCD Youth – Yn cynyddu ymwybyddiaeth a chefnogaeth i bobl ifanc dan 25 oed sydd yn cael eu heffeithio gan OCD. Yn cael ei redeg gan bobl ifanc gyda OCD, ar gyfer pobl ifanc gyda OCD. Gwybodaeth, blogiau, adnoddau, fideos, fforymau a mwy.

Papyrus – Atal hunanladdiad ifanc ac annog cymdeithas i siarad yn agored am y pwnc. Mae Hopeline UK yn llinell cefnogaeth a chyngor cyfrinachol arbenigol i blant a phobl ifanc hyd at 35 oed sydd yn cael meddyliau hunanladdol (neu yn poeni am berson ifanc): 0800 068 41 41

CALM – Ymgyrch Yn Erbyn Byw’n Druenus – Yn gweithio i atal hunanladdiad gwrywaidd. Dyma yw lladdwr mwyaf dynion dan 45 oed yn y DU. Llinell gymorth: 0800 58 58 58 neu sgwrs ar y we, 5yh tan hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos.

No Panic – Yn helpu pobl sydd yn dioddef gyda phyliau o banig, ffobia, OCD ac anhwylderau eraill sydd yn ymwneud â phryder. Mae’r Hwb Ieuenctid yn edrych ar y cyflyrau unigol yma a’r adnoddau gwahanol sydd yn gallu helpu. Mae’r llinell gymorth ieuenctid ar gyfer pobl ifanc 13-20 oed sydd angen cymorth gyda’r materion uchod. Galwa 0330 606 1174, 3-6yh , Llun, Mawrth, Mercher, Gwener a 6-8yh Iau a Sadwrn.

Amser i Newid Cymru – Ymgyrch genedlaethol i leihau’r stigma a’r gwahaniaethu daw gydag iechyd meddwl. Ymuna gyda’r ymgyrch pobl ifanc i newid agweddau tuag at iechyd meddwl #GallwnAGwnawn

Heads Above The Waves – Codi ymwybyddiaeth o iselder a hunan-niwed pobl ifanc, yn hyrwyddo ffyrdd creadigol a phositif i ymdopi yn y dyddiau tywyll. Mae ganddynt awgrymiadau ymdopi positif i rannu ac maent yn rhannu straeon pobl eraill i ddangos nad ti yw’r unig un sy’n dioddef. Mae ganddynt gyngor penodol am sawl peth gwahanol o ddod allan fel LHDTQ+, i oroesi’r ysgol, i ddweud wrth rywun dy fod di’n hunanniweidio.

 

Apiau Defnyddiol

Stressheads – Paid stresio am bethau. Cura fe. Troi dy sgrin yn declyn lleddfu straen.

Calm Harm – Pam fydd y teimlad dy fod di eisiau hunanniweidio yn dod, rho dro ar yr ap Calm Harm i bylu’r teimladau yna wrth dynnu sylw, cysuro, mynegi a rhyddhau.

Stay Alive – Adnodd atal hunanladdiad yn y boced gyda gwybodaeth a theclynnau i helpu ti i gadw’n ddiogel mewn cyfnod o argyfwng.

SAM App – Rheoli Pryder Hunan Gymorth – Helpu ti i ddeall a rheoli dy bryder.

Headspace – Myfyrdod a meddwlgarwch wedi’i symleiddio gyda’r ap yma.

What’s Up? – Helpu ti i gadw trac ar dy feddyliau, teimladau a’r pethau sydd yn digwydd yn dy fywyd. Cadw ymarferion da a thorri rhai drwg. Mae yna gêm gwreiddio gyda dros 100 o gwestiynau gwahanol sydd yn helpu pan fydd pethau’n dod yn ormod ac mae’n dysgu ti am y patrymau meddwl negyddol mwyaf cyffredin a sut i newid hyn.

MindShift – wedi’i ddylunio i helpu pobl ifanc i ymdopi gyda phryder. Dysga sut i ymlacio a sut i fod yn feistr ar dy bryder.

Action for Happiness – App hapusrwydd a llesiant i gadw trac ar dy siwrne hapusrwydd, rhannu caredigrwydd gyda chymuned a chael hwb bach dyddiol i helpu ti i deimlo’n dda.

Blogiau a chanllawiau

Music and my mental health– Stori Laura – Mind

Gwen’s journey with Bipolar – Mind

The stresses of everyday life – Stori Stacie-Mai – Mind

Fy Stori: OCD – Sprout

Fy Annwyd Bythol – Iselder – Sprout

Fideos

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd