Mae Caitlyn Griffiths yn rhannu ei siwrne o greu dillad a’r effaith gall hyn ei gael ar gynaliadwyedd a hyder corff.
Sut gychwynnais di greu dillad dy hun?
Pan ti’n athrawes DT, ti’n gorfod dysgu amrywiaeth o bynciau, felly dwi’n gwneud dylunio cynnyrch, tecstilau, tech bwyd, yn ogystal â phethau fel iechyd a gofal cymdeithasol. Gan fod gen i radd yn barod mewn creu, a dwi ‘di gweithio mewn cegin broffesiynol am flwyddyn, meddyliwn y byddwn yn trio cynyddu sgiliau gyda thecstilau i fedru dysgu plant ychydig yn well.
Cychwynnais wrth fynd lawr y llwybr yma o geisio gwella fy sgiliau gwnïo llaw a pheiriant eto. Penderfynais y byddwn yn trio gwneud hwdi i gychwyn. Cymerais y hwdi ac ychydig o hen ddefnydd a chreu patrwm ohono. Edrychais ar y darnau i gyd a dechrau rhoi popeth at ei gilydd. Roeddwn yn caru’r eitem orffenedig.
Ers hynny, dwi wedi creu hwdi arall yn defnyddio hen ddefnydd. Yna, penderfynais fod yn uchelgeisiol a chreu siaced allan o hen jîns a defnydd oddi ar Etsy.
Dwi wedi disgyn mewn cariad â’r broses. Dwi’n ganol creu trowsus fy hun rŵan, felly mae hynny’n brofiad.
Pa gyngor fyddet ti’n ei roi i bobl sydd eisiau dechrau creu dillad eu hunain?
Jest cychwyn.
Gallet ti gael pecyn bach gwnïo gyda llaw, efallai cychwyn gyda theilwra. Cer i’r siop elusen a dod o hyd i ddilledyn ti’n hoffi ond sydd ddim cweit yn ffitio. Efallai cer ychydig yn rhy fawr a cheisio teilwro yn llai. Gallet ti gychwyn efo rhywbeth bach fel hosan.
Edrycha ar yr eitem o ddillad a gweld sut mae’n sownd at ei gilydd. Yna gwylia fideos cyfarwyddiadau ar YouTube.
Y cyngor mwyaf ydy paid bod ofn gwneud camgymeriadau. Rho dro ar wneud rhywbeth – mae’n gyfrwng maddeuol iawn. Fedri di ddadbwytho, ail wnïo, dadbwytho, ail wnïo eto. Byddi di’n dysgu lot wrth wneud hynny.
Darganfod amser rhydd ac ychydig o ddeunydd, a rho dro arni.
Sut wnes di ddysgu am gynaladwyedd?
Dwi wedi bod â diddordeb mewn cynaladwyedd ers i mi fod yn aelod o’r Sgowtiaid yn ifanc, felly roeddwn yn ‘un gyda’r ddaear’.
Roedd fy mam-gu wedi ennyn fy niddordeb mewn celf a choginio – roedd ei gardd i gyd yn fwytadwy, felly dwi’n cofio bod yn beth bach gwyllt yma yn yr ardd; yn cydio ym mhethau a’u bwyta. Dwi wedi bod â diddordeb mewn natur erioed.
Dwi’n credu mod i wedi dechrau meddwl am gynaliadwedd o ddifrif yn nhermau creu pethau yn ystod fy ngradd yn y brifysgol. Roeddwn yn gwneud y radd Artist, Dylunydd, Gwneuthurwr, ac mae’n llawer trymach ar grefft nac dylunio cynnyrch. Rwyt ti’n canolbwyntio mwy ar y deunyddiau defnyddir a’r effaith mae’n ei gael ar yr amgylchedd yn ogystal â’i berthynas i’r gofod yr wyt ti. Dwi yng Nghaerdydd ar hyn o bryd, felly dwi’n edrych lot ar ddylunwyr ac etifeddiaeth Cymraeg.
Mae’n ymwneud â chael yn ôl i’r ddaear a natur, a cheisio peidio cael effaith negyddol ar yr amgylchedd.
Beth yw’r ffordd orau i ddysgu pobl am gynaliadwyedd?
Mae codi ymwybyddiaeth yn bwysig iawn.
Dwi wedi bod yn dysgu am ffasiwn sydyn a’r effaith maen ei gael ar ein hamgylchedd gyda blwyddyn 8, yn ogystal â’r ôl-effaith moesol. Rydym yn siarad am wersylloedd llafur caethweision a faint mae pobl yn talu am eitem o ddillad. Mae’r plant yma wir yn synnu ac maen amlwg bod hyn yn newydd iddynt.
Heblaw am godi ymwybyddiaeth a chael gwybodaeth sylfaenol ar yr effaith maen ei gael, rydym yn trafod nifer o ddatrysiadau gwell y sydd nac prynu ffasiwn sydyn.
Beth yw’r buddion o greu dillad dy hun?
Nid oes rhaid i ti greu dillad dy hun am yr amgylchedd yn unig, gwna er mwyn dy hun. Bydda i’n trysori’r dillad dwi wedi’i greu am byth, Os ydyn ni’n dangos i bobl, plant yn arbennig, bod creu dillad dy hun yn gallu bod cymaint mwy nag gwneud hyn er budd yr amgylchedd, neu wneud am resymau moesol, gall cael effaith mawr.
Mae’n adlewyrchiad o dy hun ac mae’n gallu cynyddu sgiliau. Mae’r teimlad o unigoliaeth a ddaw o greu dillad dy hun wedi dod yn boblogaidd yn ddiweddar. Mae gallu dangos dy hun gyda’r pethau ti’n gwisgo yn cŵl.
Mae creu dillad dy hun yn golygu bod posib gwneud iddo ffitio yn y ffordd rwyt ti eisiau iddo ffitio. Mae hyn yn gallu bod yn help mawr os oes gen ti broblemau gyda delwedd corff yn enwedig. Yn aml, ni fydd pethau o’r siop yn ffitio yn y ffordd orau. Mae’r gallu yna i deilwro neu greu dillad dy hun yn gallu cael effaith mawr ar dy hunanhyder. Mae gwneud hyn yn cŵl ac yn agored fel yma yn gallu helpu addysgu pobl i fod yn fwy cynaliadwy.
Gwybodaeth berthnasol
Mae’r flog hon yn rhan o’r ymgyrch Y Dyfodol yn Ein Dwylo, sydd yn cael ei gynnal mewn cydweithrediad â Bloedd Amgueddfa Cymru. Mae’r rhaglen gydweithredol yma yn gweithio gyda rhai 16-25 oed i arbrofi, creu ac arloesi.