Site icon Sprout Cymraeg

#TiYnHaeddu: Perthnasau Iach

Gall perthnasau fod yn llawn ac yn bleserus ond weithiau gall fod yn ddryslyd ac yn anodd llywio pan fydd pethau yn mynd o’i le. Pa un ai’n ffrindiau, partner rhamantus neu aelodau teulu, #TiYnHaeddu cael perthnasau iach.

Noder: Oherwydd natur y cynnwys, mae posib nad yw popeth yn yr ymgyrch Perthnasau Iach yn addas ar gyfer rhai o ddarllenwyr iau theSprout. Os wyt ti’n dod ar draws rhywbeth sydd yn achosi gofid i ti, siarada gyda rhywun gallet ti ymddiried ynddynt, neu cysyllta gydag un o’r gwasanaethau sydd wedi’u cynnwys yn yr erthygl yma.

Manylion yr ymgyrch

Mae pawb yn haeddu cael perthnasau iach, cariadus a llawn gyda’r bobl yn eu bywydau, o ffrindiau, i bartner rhamantus ac aelodau teulu. Weithiau dyw perthynas ddim yn iach neu mae rhywun yn cael ei gam-drin, a gall hyn fod yn niweidiol i’n lles corfforol, meddyliol ac emosiynol. Mae’r ymgyrch yma yn archwilio’r wybodaeth am berthnasau iach yn ogystal â phrofiadau personol a chefnogaeth i’r rai sydd yn cael eu cam-drin neu mewn perthynas sydd ddim yn iach.

Mae #TiYnHaeddu: Perthnasau Iach yn ymgyrch pythefnos o hyd yn rhannu gwybodaeth a phrofiadau wedi’i greu a’i ymchwilio gan bobl ifanc yng Nghaerdydd. Bydd chwech o bobl ifanc yn postio erthyglau, fideos a graffigau wedi’u creu yn arbennig yn edrych yn fanwl ar berthnasau iach, ddim yn iach, neu gamdriniaeth.

Yr hyn gellir ei ddisgwyl o’r ymgyrch

I weld y cynnwys mwyaf diweddar, ymwela â’r Sprout bob dydd a dilyn ein sianeli cyfryngau cymdeithasol ar Facebook, Twitter ac Instagram i gael dy atgoffa o unrhyw gynnwys newydd. Os wyt ti’n awyddus i fod yn rhan o’r sgwrs, defnyddia’r hashnod #TiYnHaeddu! Dyma sydd i ddod yn yr ymgyrch:

Pwy i siarad â nhw am berthnasau

Mae’r ymgyrch yma yn ymdrin â phynciau sensitif am berthnasau fydda’n gallu gwneud i ti sylweddoli dy fod di neu rywun sydd yn bwysig i ti yn  profi perthynas sydd yn cam-drin neu ddim yn iach. #TiYnHaeddu i rywun wrando a chynnig cefnogaeth gydag unrhyw beth sydd yn achosi i ti boeni, deimlo’n anghyfforddus neu’n ofnus. Dyma ychydig o wybodaeth gyswllt gwasanaethau fydda’n gallu helpu efo rhai o’r pynciau rydym yn ei drafod yn yr ymgyrch yma.

Meic – Mae Meic yn llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae posib cysylltu â Meic ar y ffôn, neges testun neu sgwrs ar-lein ar eu gwefan o 8yb tan hanner nos, 365 diwrnod y flwyddyn

Byw Heb Ofn – Os wyt ti neu aelod teulu neu ffrind, neu rywun rwyt ti’n poeni amdanynt, wedi profi camdriniaeth ddomestig neu drais rhywiol, mae posib cysylltu gyda Llinell Gymorth Byw Heb Ofn 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, am gyngor a chefnogaeth am ddim neu i siarad drwy’r opsiynau

Galop – Llinell Gymorth Camdriniaeth Ddomestig Genedlaethol i Lesbiaid, Hoyw, Deurywiol a Traws+

Men’s Advice Line – Cyngor a chefnogaeth gyfrinachol i ddynion sydd yn profi trais a chamdriniaeth yn y cartref gan bartner presennol, cynbartner neu aelod teulu

National Domestic Abuse Helpline – Mae’r llinell gymorth 24 awr yma ar gyfer merched sydd wedi profi camdriniaeth ddomestig, yn cael ei redeg gan elusen trais yn y cartref Refuge. Mae’r llinell gymorth merched yn cael ei redeg gan gynghorwyr sydd yn ferched ac mae’n agored 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Gellir cysylltu ar-lein a byddant yn gofyn am ffordd ddiogel i ymateb i ti


Exit mobile version