Gwadiad: Oherwydd natur ychydig o’r cynnwys yn yr ymgyrch Pride Caerdydd: Mwy Na Mis, efallai nad yw’n addas ar gyfer rhai o ddarllenwyr iau TheSprout. Os wyt ti’n poeni am unrhyw beth rwyt ti’n ei weld yna siarada gyda rhywun gallet ti ymddiried ynddynt neu cysyllta ag un o’r gwasanaethau sydd i’w gweld yn yr erthygl.
Gwybodaeth am yr ymgyrch
Mae Pride Caerdydd: Mwy Na Mis yn ymgyrch wedi ei chreu ar y cyd â 26 o bobl ifanc aeth i Pride Cymru 2022. Cyfwelwyd 21 o bobl ifanc ac, gan ddefnyddio’u hatebion, aeth 4 peron ifanc ychwanegol fel rhan o TheSprout ymlaen i greu’r ymgyrch.
Bwriad yr ymgyrch ydy amlygu meddyliau, pryderon, a phrofiadau rhannir gan y bobl ifanc a fynychodd Pride Cymru.
Beth ellir ei ddisgwyl?
Byddem yn postio blogiau a darnau ar gyfryngau cymdeithasol o’r cyfweliadau arbennig y gwnaethom gyda phobl ifanc.
I gael y cynnwys diweddaraf, ymwela â gwefan TheSprout bob dydd. Dilyna ein sianeli cyfryngau cymdeithasol ar Facebook, Twitter, Instagram, TikTok a YouTube i gael dy atgoffa o gynnwys newydd.
Os hoffet ti fod yn rhan o’r sgwrs, defnyddia’r hashnod #MwyNaMis!
Dyma ellir ei ddisgwyl yn ystod yr ymgyrch:
- Beth yw Ystyr Pride i Ti?
- Gofodau Diogel yng Nghaerdydd
- Deall dy Hunaniaeth
- Addysg Rywiol LHDTC+
- Beth Mae Dy Faner Di Yn Cynrychioli?
- Pwy ydy dy Eicon LHDTC+?
- Pa Newid Sydd ei Angen yn y Frwydr am Gydraddoldeb LHDTC+?
- Gwella Pride Caerdydd
- Ydy Caerdydd yn Ddinas LHDTC+ Gyfeillgar?
- Cyngor i Bobl Ifanc LHDTC+ a Ffrindiau
- Sut i Fod yn Gyfaill LHDTC+ Gwych
- Cefnogaeth i Bobl LHDTC+ yng Nghaerdydd
- Gwybodaeth i Bobl LHDTC+
Gyda phwy gallaf siarad â nhw am fywyd a materion LHDTC+
Mae’r ymgyrch yma yn trafod pynciau sensitif am fod yn LHDTC+. Dyma ychydig o gysylltiadau defnyddiol i wasanaethau gellir cael mynediad iddynt am unrhyw un o’r pynciau trafodir yn yr ymgyrch yma:
- Meic – Mae Meic yn llinell gymorth eiriolaeth, gwybodaeth a chyngor i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Gellir cysylltu ar y ffôn, neges testun neu sgwrs ar-lein o 8yb tan hanner nos, 365 diwrnod y flwyddyn.
- Galop – Galop yw’r llinell gymorth Trais yn y Cartref Cenedlaethol i Lesbiaid, Hoyw, Deurywiol a Traws Cenedlaethol.