Ydy arian yn brin ar hyn o bryd? Y balans banc yn mynd i fyny ac i lawr yn wythnosol? Yna efallai bydd ein rhestr wythnosol o ddigwyddiadau rhad neu am ddim yng Nghaerdydd yn help mawr i ti. Dwi wrth fy modd yn chwilota a chreu’r rhestr hon bob wythnos!
Iechyd Meddwl mewn Chwaraeon Elitaidd
Dydd Iau, 8 Tac – 18:15-20:00 – Ysbyty Athrofaol Cymru (Campws Iechyd) – £2.50
Oes gen ti ddiddordeb yn yr effaith negyddol mae lefelau uchel o chwaraeon yn ei gael ar iechyd meddwl athletwyr? Beth gellir gwneud am y peth? Bydd y sesiwn yma yn cael ei gyflwyno yng Nghanolfan Addysg Michael Griffith yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Sesiwn i fyfyrwyr ydyw, ond os oes gen ti ddiddordeb, beth am fynd draw?
Gwrthryfel Hinsawdd! Cynllunio Gweithred
Dydd Iau, 8 Tach – 18:30 – Canolfan Gymunedol Cathays – Tyrd a snac!
Mae llawer o bobl yn diflasu ar weithredoedd aneffeithiol y llywodraeth pan ddaw at newid hinsawdd. Gyda’r cyhoeddiad diweddar mai dim ond 12 mlynedd sydd gennym i wneud unrhyw beth am y peth, neu byddem yn sicr o wynebu tynged bendant, mae’r Gwrthryfel Hinsawdd yn lledaenu anfodlonrwydd di-drais ledled y DU. Dwi’n gwybod bod llawer o bobl y Sprout yn poeni am newid hinsawdd, felly beth am fynychu’r cyfarfod a chreu cynllun am beth ddylid gwneud nesaf.
Gŵyl Gwyddorau Cymdeithasol – Cymru
6-10 Tach – amrywiaeth o ddigwyddiadau
Mae’r ymgyrchydd anableddau, ffrind y Sprout a’r YouTuber lleol, Josh Reeves wedi’n hatgoffa am y boced leol yma o’r ŵyl gwyddorau cymdeithasol cenedlaethol. Bydd yna sgyrsiau am anabledd a’r perygl o fod mor enwog gan Josh, ynghyd a rhai eraill diddorol iawn: synnwyr o le, heddwch yng Ngogledd Iwerddon a mwy. Gweler popeth yma.
Lycra yn Cyflwyno Fandango Nos Wener Freddie
Dydd Gwener, 9 Tach – Buffalo – £6
Dyma noson glwb gwych i’r cŵl dŵds i gyd. Mae’r cod gwisg y clwb yma yn smart iawn fel arfer, ond y tro hyn nid allant fy atal rhag mynd i mewn yn fy nillad cadw’n heini 80aidd. Felly dwi’n barod am bŵgi ac am fynd draw i’r dudalen Eventbrite i gadw fy lle.
Caffi Atgyweirio Cymru Splott
Dydd Sadwrn, 10 Tach – Oasis Caerdydd
Ti’n deall y trefniant erbyn hyn. Cyfle i drwsio dy stwff gan dîm o wirfoddolwyr. Os wyt ti’n gwneud y trwsio, yna cyfle i ennill Credydau Amser. Gwybodaeth bellach ar Facebook.