Pwy arall sy’n edrych ymlaen at dymor newydd yn y brifysgol? Mae’n ymddangos fel nad oes dim yn digwydd os nad oes myfyrwyr o gwmpas i’w mwynhau. Er hynny, mae yna ŵyl a digon o nosweithiau meic agored yn digwydd yr wythnos hon, dyw Caerdydd ddim yn hollol ddistaw! Heb oedi ymhellach, dyma restr wythnosol theSprout o bethau Rhad ac Am Ddim i Wneud yng Nghaerdydd.
Gŵyl Lyfrau Caerdydd
7-9 Medi – Jury’s Inn – Amseroedd a phrisiau amrywiol
Mae’n ôl! Mae’r ŵyl sydd yn dathlu ac yn ymfalchïo yng nghelf yr air ysgrifenedig wedi symud o westy’r Angel i’r Jury’s Inn. Mae posib mynychu’r penwythnos cyfan am £25, ond dim ond tua £3-£5 ydy pob digwyddiad gyda thocyn consesiwn. Gyda Peter Finch (cyfweliad diweddar yma), yr Athro Roger Scully, Will Millard yn ymddangos, a phwyslais ar waith menywod, gan gynnwys beirdd fel Mari Ellid Dunning, da i chi beidio colli’r digwyddiad hwn. Rhestr lawn o’r digwyddiadau a thocynnau ar gael ar wefan yr ŵyl.
Drysau Agored: Llyfrgell Cathays / Tabernacl / Ysgol Ddylunio a Chelf Caerdydd
Amrywiol. Am ddim
Fel soniwyd wythnos diwethaf, mae Drysau Agored yn rhaglen o ddigwyddiadau sydd yn digwydd o amgylch y ddinas y mis hwn, ble bydd amrywiaeth o adeiladu yn agor eu drysau led y pen i’r cyhoedd. Mae’n debyg bod digwyddiad mwyaf cyffrous y saith diwrnod nesaf yn digwydd ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, ble bydd ymwelwyr yn cael taith lawn o’r cyfleusterau modern yr Ysgol Ddylunio a Chelf. Gallet ti hefyd ymweld â Llyfrgell Cathays a’i gasgliad helaeth o bapurau newydd, neu’r Tabernacl, sydd wedi bod yn dathlu ym modd y Bedyddwyr yng nghanol dinas Caerdydd ers dros 200 mlynedd. Gweler yr holl ddigwyddiadau yma.
Gwd Mondays – Caterpillar Comedy
Dydd Llun 10fed am 7:30yh – Gwdihŵ – £2
Mae’r Gwdihŵ yn addo “torf stwrllyd ond chyfeillgar” yn y digwyddiad hwn, sydd yn ffefryn gan sawl comedïwr lleol, ac yn gychwyn gyrfa newydd i sawl un. Efallai dy fod di’n awyddus i roi tro arni, neu am fynd yno i ddangos cefnogaeth i’r rhai gobeithiol. Bydd 50% o ostyngiad ar ddiodydd (bydd angen cerdyn adnabod). Dolen Facebook.
Prawf Sgrinio a Bwffe: Nora: The Quest for Yukon
Dydd Iau 13eg am 6-9yh – The Sustainable Studio – Am ddim (angen tocyn)
Mae rhai o’r bobl awyddus a gweithgar draw yn y Sustainable Studios wedi bod yn gweithio ar ffilm ddogfen, ac yn ymestyn gwahoddiad agored i swper (addas i lysieuwyr a chigysyddion), wedi’i ddilyn gyda dangosiad o’r ffilm a sesiwn holi gyda’r rhai fu’n ei greu. Hawlia dy docyn nawr.