Pethau Rhad Ac Am Ddim i Wneud Yng Nghaerdydd: 30 Awst – 5 Medi

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Gofid a hunllef! I’r mwyafrif o bobl ifanc Caerdydd mae’r ysgol yn ail-gychwyn yr wythnos hon, ond mae’n debyg dy fod di wedi cael hen ddigon o ddyddiau hir poeth yr haf bellach, ac yn awyddus i fynd yn ôl i ddysgu? Dwi’n iawn, ydw?

Ond os wyt ti’n dal i chwilio am ychydig o hwyl, dyma rai o’r digwyddiadau  rhad neu am ddim sydd yn digwydd yr wythnos hon.


Nosweithiau Animeiddio Awst Caerdydd

Dydd Iau – 30 Awst – 7:30yh – Kongs Caerdydd – Am ddim

 

Llwyth o ffilmiau llwyddiannus o’r ŵyl animeiddio enwog Annecy, yn cael eu dangos yn y bar gemau fideo Kongs. Mae staff Vimeo yn dewis enillwyr a bydd ffilm disgrifir fel ‘ffilm na weler ei math o’r blaen” yn hedleinio. Gwybodaeth bellach ar Facebook.

Noson Gomedi Sherman

Dydd Iau – 30 Awst – 7:30pm – Theatr y Sherman – £3

Ydy hi’n amser y digwyddiadau misol yma eto yn barod? I ble aeth fy mywyd? Cer am hwyl gyda rhai o gomediwyr gorau newydd Cymru yn Theatr y Sherman ar nos Iau. Tocynnau a gwybodaeth yma.

Helfa Trychfilod

Dydd Sadwrn – 2 Medi – 2yp – Sain Ffagan – Am ddim

Ymuna â grŵp Ymddiriedolaeth Natur Cymru i chwilota am drychfilod o gwmpas Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru. Gobeithiwn na fydd hyn yn rhy ‘crîpi’ i ti! Gwybodaeth yma.

Drysau Agored – Ysgol Farchogaeth Caerdydd

Dydd Sul – 2 Medi – 10yb-2yp – Caeau Pontcanna – Am ddim

Mae’r bobl safleoedd treftadaeth Cymru, Cadw, yn cynnal llwyth o ddigwyddiadau yn ystod mis Medi pan fydd sawl drws yn cael ei agor led y pen i’r cyhoedd gael profi adeiladau hanesyddol am ddim. Mae’r mwyafrif o’r digwyddiadau cynhelir yng Nghaerdydd yn hwyrach yn y mis, ond bydd posib ymweld ag Ysgol Farchogaeth Caerdydd yr wythnos hon, sydd wedi’i leoli ar gyrion Parc Bute yng Nghaeau Pontcanna.

Cwrs hyfforddi Radio Platfform – wythnos un!

Dydd Mawrth – 4 Medi – 6yh – Canolfan Mileniwm Cymru – Am ddim

Mae Radio Platfform yn fenter wych sy’n cael ei gynnal yn y CMC ers cyfnod bellach. Mae posib mynychu’r cwrs, sy’n cael ei gefnogi gan ProMo-Cymru, a dysgu sut i ddod yn feistr cynhyrchu sioeau radio a podlediadau. Welai di yno! Cysyllta drwy e-bost am fanylion pellach neu i gofrestru am y cwrs. Mae’n rhad ac am ddim ar nosweithiau Mawrth am gyfnod o chwe wythnos. E-bostia: radioplatfform@wmc.org.uk

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd