Pethau Rhad ac Am Ddim i Wneud yng Nghaerdydd 18-25 Hydref

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Ychydig dros wythnos i fynd tan hanner tymor, felly dal arni! Dydd Iau yma, mae gohebyddion y Sprout yn ymweld ag Ysgol Bro Edern yng Nghyncoed – felly os wyt ti’n ddisgybl yno, chwilia amdanom i ddweud helo. Dwi’n addo nad ydym yn brathu!

Os wyt ti’n mynychu ysgol wahanol, yna beth am ofyn i’th athro ein gwahodd i’r ysgol? Yn y cyfamser, edrycha ar ein casgliad o ddigwyddiadau rhad ac am ddim yng Nghaerdydd. Felly, ffwrdd a ni…

Made in Roath

Mae hwn yn ŵyl sydd yn cynnwys theatr, hud, storiâu, canu a llawer, llawer mwy. Mae’r ŵyl celfyddydau yma wedi’i rannu rhwng sawl lleoliad yn y Rhath ac, i fod yn gwbl onest, wedi dechrau wythnos diwethaf – wps! Ond mae’r mwyafrif o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal dros yr ychydig ddyddiau nesaf. Edrycha ar y wefan i weld os oes rhywbeth at dy ddant yno!

Plastig Untro: Beth Amdano?

Iau, 18 Hydref – 11yb tan 3:30yp – Stadiwm Principality

Fel y gwyddai unrhyw un sydd wedi bod yn Stadiwm y Principality-slash-Mileniwm ar ddiwrnod gêm, ymddangosai fel mai plastig untro ydy ateb pobl i bopeth. Cwpanau diod nad all waldio rhywun ar eu pen? Plastig. Lapio’r holl boteli cwrw yna fydd yn cael eu hyfed? Plastig. Gwragedd y pêl-droedwyr? Dyna ddigon am nawr! Mae hwn yn ddigwyddiad pwysig sydd yn gofyn ac yn ateb pam bod plastig mor niweidiol a beth allem ni ei wneud i leihau ein defnydd ohono. Gwybodaeth bellach yma.

Funny Fuel

Iau, 18 Hydref – 8:30 tan 11:30yh – Clwb Fuel Rock – Am ddim

Noson gomedi am ddim gyda thalent leol Josh Elton, Ted Shiress, Lorna Pritchard, Will Palmer ac Andy Kulak. Os wyt ti’n darllen y golofn hon yn aml, byddi di’n ymwybodol mod i’n ffan fawr o Will Palmer – byddwn i’n talu i’w weld o ar ben ei hun – ond mae’r noson yma am ddim! Edrycha ar Facebook.

Taith tu ôl i len Castell Coch

Gwener, 19 Hydref – 12 – 2yp – Castell Coch – Am ddim

Rhywbeth oedd yn unigryw i aelodau Cadw cynt, bellach gall aelodau’r cyhoedd fynd ar daith tywys o amgylch Castell Coch, gyda gwaith adnewyddu yn digwydd yno ar hyn o bryd. Ond paid mynd i steilio dy wallt cyn mynd draw i’r prif adeilad, gan y byddi di’n gwisgo helmed galed ac esgidiau addas. Cadw lle ar Eventbrite.

Canu-ar-y-cyd Sound of Music

Sadwrn, 20 Hydref – 5 tan 11yh – Depot – £7

Mae’r bryniau yn fyw! Nid sioe hunllef yw hon, ond y ffilm gerddorol enwog am leian (nun) sydd yn hoffi canu yn fwy nag gweddïo, yn disgyn mewn cariad â dyn ffroenuchel o Awstria a’i blant, yna mae’r teulu yn dianc o’r Natsïaid. Cana gyda’r gynulleidfa llawn pobl sydd yn caru’r Von Trapps. Bydd yn cael ei gynnal yn y Depot a bydd y bwyd stryd ar gael yn ôl yr arfer. Tocynnau yma.

LIFE HACK

Sul, 21 Hydref – The Factory, Porth – Am ddim

Fyddet ti’n hoffi dysgu mwy am y diwydiant creadigol? Dysga’r cyfrinachau mewnol wrth rwydweithio â phobl broffesiynol o’r diwydiant a chymryd rhan mewn gweithdai arbennig. Yn dechnegol, nid yng Nghaerdydd mae hwn, ond mae’n cael ei gynnal gan Ganolfan Mileniwm Cymru, gan gynnwys ffrindiau da i’r Sprout draw yn Radio Platfform, ble mae pobl ifanc yn rhedeg gorsaf radio yn fyw o’r Ganolfan. Mae’r digwyddiad yma am ddim, a bydd trafnidiaeth yn cael ei drefnu. Yr unig beth sy’n rhaid gwneud ydy cadw lle.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd