Paid Byth ag Ildio: Cyfarfod yr Artistiaid gyda Eshaan Niraj Rajesh Kumar

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae Eshaan, 18 oed o Gaerdydd, yn credu gall cymunedau gemau ar-lein fod yn fuddiol i lesiant meddwl.

Mae’r blog yma yn rhan o’r ymgyrch Paid Byth ag Ildio, ble roedd 21 o bobl ifanc Caerdydd yn cael eu comisiynu i greu darn o gelf yn dangos sut effaith mae chwarae gemau fideo yn ei gael ar eu hiechyd meddwl. Dyma stori Eshaan, artist 18 oed oedd yn rhan o’r prosiect.

Pa effaith mae gemau fideo wedi ei gael ar dy iechyd meddwl?

Mae darllen dy hoff lyfr neu binjo ar gyfres Netflix poblogaidd yn ddwy ffordd dda i ddianc o’r ysgol, straen ac arholiadau. Ond, mae chwarae gemau fideo yn mwyhau’r profiad yma, wrth ychwanegu lefel newydd o ryngweithio i adloniant. Efallai nad wyt ti’n gallu rheoli plot nofel neu ffilm, ond ti sydd yn rheoli beth sydd yn digwydd yn y gêm, sydd yn gwneud y profiad ar y cyfan yn fwy rhyngweithiol ac yn fwy deniadol.

Mae yna fwy i hyn nag chwarae gemau yn unig. Bob awr, mae nifer o greawdwyr unigol yn ffrydio chwarae gemau yn fyw ar lwyfannau poblogaidd fel Twitch, Discord a YouTube Gaming, yn pwysleisio’r gymuned gadarn sydd wedi ei siapio o chwarae gemau’r gorffennol. Mae’r cymunedau ar-lein yma yn arfau grymus i gyfathrebu gyda phobl o’r un meddylfryd gyda diddordebau tebyg, a gall hyn fod yn fuddiol iawn i les meddwl rhywun.

Ynghyd â’r chwarae a’r cymunedau ffrydio, mae yna sawl datblygwr gemau annibynnol, o bob oedran, sydd yn creu gemau eu hunain. Mae hyn yn hwb i greadigrwydd ac arbenigedd technegol; gan hefyd caniatáu iddynt ddefnyddio’r sgiliau creadigol a thechnegol yma i gynnig adloniant i weddill y byd. Yn y pen draw, mae datblygwyr gemau yn creu gemau anhygoel sydd â’r potensial i roi hwb i les meddwl cenedlaethau’r dyfodol.

Beth oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’r gwaith yma?

Mae fy ngwaith celf yn dangos person sydd yn gwisgo offer rhith realiti (VR), yn cynrychioli’r llwyfan gemau VR. Ar ymylau’r offer VR mae strimyn o olau , sydd wedi’i addurno â fflach golau. Mae hyn yn cyfateb i botensial chwarae gemau fideo i oleuo lles meddwl rhywun.

Mae’r 8 darn gwyddbwyll ar ben ei waered, sydd yn cael eu hadlewyrchu yn y sbectol VR, yn pwysleisio arwyddocâd gwyddbwyll gan nad yw’n cael ei gynrychioli’n dda mewn gemau, ac mae yno i ddangos sut gall gryfhau gallu meddyliol rhywun.

Rwyf wedi defnyddio fflachiau golau i ddarlunio fy enw, i arddangos yr arddull digidol, wrth iddo gael ei daflunio ar y sbectol VR, o dan y darnau gwyddbwyll. Mae’r golau ysgafn yn atgyfnerthu nodweddion gloyw, adlewyrchol wyneb y sbectol VR. Mae’r cefndir disglair yn debyg i nifwl o’r gofod, yn arwydd bod gan y llwyfan gemau amrywiaethol y gallu i drochi rhywun mewn awyrgylch hyfryd lle gellir maethu llesiant meddwl.

Gwybodaeth Berthnasol

I ddarganfod mwy am yr ymgyrch Paid Byth ag Ildio ac i weld yr holl waith celf anhygoel gan yr artistiaid eraill, clicia YMA.

Wyt ti’n dioddef gyda dy iechyd meddwl? Cer draw i Dudalen Gwybodaeth Iechyd Meddwl y Sprout ble mae gwybodaeth ddefnyddiol ar wasanaethau cefnogi lleol a chenedlaethol.

Os wyt ti’n rhannu ein hymgyrch Paid Byth ag Ildio ar gyfryngau cymdeithasol, cofia ddefnyddio’r hashnod #ChwaraeDaMeddwlPositif. Mae croeso i ti ein tagio fel ein bod yn gweld yr hyn rwyt ti’n rhannu!

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd