Paid Byth ag Ildio: Cyfarfod yr Artistiaid gyda Enfys Evans

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae Enfys, 15, yn rhannu sut mae gemau fideo wedi bod yn ddihangfa o realiti, rhywbeth mae pawb ei angen weithiau.

Mae’r blog yma yn rhan o’r ymgyrch Paid Byth ag Ildio, ble roedd 21 o bobl ifanc Caerdydd yn cael eu comisiynu i greu darn o gelf yn dangos sut effaith mae chwarae gemau fideo yn ei gael ar eu hiechyd meddwl. Dyma stori Enfys, artist 15 oed oedd yn rhan o’r prosiect.

Pa effaith mae gemau fideo wedi ei gael ar dy iechyd meddwl?

Cychwynnais chwarae gemau fideo yn ifanc iawn ac rwyf wastad wedi mwynhau’r teimlad o drochi fy hun mewn byd ar-lein. Yn ddiweddar, rwyf wedi cael cyfle i brofi’r byd o gemau ar-lein ac mae hyn wedi agor byd hollol newydd o brofiadau.

Rwyf wedi gwneud nifer di-rif o ffrindiau trwy gemau ar-lein, rhai byddwn yn ystyried fel fy ffrindiau agosaf. Pan nad allwn droi at neb, gallwn droi at gemau fideo i deimlo’n hapus eto, a gallwn droi at fy ffrindiau ar-lein sydd yn dda yn gwrando ac wedi rhoi cyngor i mi sydd wedi helpu mewn sefyllfaoedd anodd iawn.

Mae gemau fideo wedi rhoi dihangfa i mi, bod hynny i’r City of Tears yn Hollow Knight, neu’r Sangonomiya Shrine yn Genshin Impact. Dwi wedi cael cysur a thawelwch o gemau fideo nad allwn ei gael yn unlle arall.

Beth oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’r gwaith yma?

Roeddwn yn awyddus i gyfleu teimlad o ddihangfa o fywyd bob dydd yn y darn yma, rhywbeth mae pobl ei angen weithiau, nawr yn fwy nag erioed. Roeddwn eisiau dangos sut mae’r teimlad yma yn cael ei gyflawni wrth chwarae gemau fideo, yn ogystal â pha effaith mae’n ei gael ar ein bywydau go iawn.

Dewisais y cymeriadau yma gan eu bod yn ymddangos yn y gemau dwi’n chwarae yn aml. Y gemau yma yw Doom, Apex Legends a Genshin Impact ayb. Roeddwn eisiau i’r byd gêm fideo edrych fel ei fod yn cyfuno â’n byd ni, neu fy myd i, ac felly defnyddiais byrth (portals) i gyfleu hyn. Mae hyn hefyd yn cyfeirio at y porth gemau.

Y rheswm syml dros ddewis y lliwiau oedd mai dyma oeddwn yn hoffi, ac fel y gweli di, rwy’n hoff o’r effaith disgleirio fel bod pethau’n edrych yn fwy deinamig a llachar!

Pa neges fyddet ti’n ei roi i rywun sydd yn cael trafferthion iechyd meddwl?

Os gallwn i ddweud unrhyw beth i’r rhai sydd yn cael trafferth gydag iechyd meddwl, byddwn yn dweud hyn: dalia ati. Dwi’n gwybod bod pobl yn rholio eu llygaid wrth glywed hyn, a pan dwi’n stryglo dyam dwi’n teimlo hefyd – creda fi! Ond, dyna’n wir ydy’r unig beth allet ti wneud. Hyd yn oed os mae’n teimlo fel dy fod di’n troedio’r dŵr i gadw ar y wyneb, mae’n rhaid bod hynny’n well nag boddi yn y môr oer!

Meddylia am yr holl adegau mae pobl wedi goroesi’r un sefyllfa â thi, fedraf sicrhau nad ti yw’r unig un. Cofia, er yr hyn sydd wedi digwydd iddynt, maent wedi goroesi, ac mi fyddi di hefyd er ei fod yn teimlo fel na fyddi di!

Creda dy fod di’n gallu goroesi unrhyw beth. Felly gwna beth bynnag sydd yn helpu ti i arnofio’n ddigon hir fel dy fod di’n gallu dechrau nofio eto. Mwynha’r hufen iâ yna, gwylia’r ffilm yna am y canfed gwaith neu efallai dechrau gêm fideo newydd (neu chwarae un hen eto – dyw’r ffaith ei fod yn hen ddim yn golygu nad yw’n dda).

Gwybodaeth Berthnasol

I ddarganfod mwy am yr ymgyrch Paid Byth ag Ildio ac i weld yr holl waith celf anhygoel gan yr artistiaid eraill, clicia YMA.

Wyt ti’n dioddef gyda dy iechyd meddwl? Cer draw i Dudalen Gwybodaeth Iechyd Meddwl y Sprout ble mae gwybodaeth ddefnyddiol ar wasanaethau cefnogi lleol a chenedlaethol.

Os wyt ti’n rhannu ein hymgyrch Paid Byth ag Ildio ar gyfryngau cymdeithasol, cofia ddefnyddio’r hashnod #ChwaraeDaMeddwlPositif. Mae croeso i ti ein tagio fel ein bod yn gweld yr hyn rwyt ti’n rhannu!

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd