Mae Nalani Hallam wedi penderfynu rhannu ei safbwynt personol o Gaerdydd wrth greu hunanbortread wedi’i gydblethu â’r Gymraeg.
Ei hysbrydoliaeth oedd dangos i ni fod pobl o bob cefndir yn gallu mynegi eu hunain drwy’r rhyddid a ddaw yn sgil bod yn artistig. Rhannai Nalani sut mae comisiwn TheSprout wedi rhoi rhyddhad iddi.
“Rwy’n berson o liw ac mae gen i anableddau hefyd, felly dwi eisiau helpu eraill i sylwi ein bod ni’n gallu gwneud yr un pethau â phobl abl eu corff.”
“Rydyn ni’r un mor dalentog â phobl eraill, felly dwi eisiau ysbrydoli pobl fel fi, ond hefyd eisiau rhannu neges gryfach â phawb, na fydd neb na dim yn fy rhwystro i.”
Sut wyt ti’n adlewyrchu Caerdydd yn dy waith?
“Roeddwn i eisiau cyfleu bod Caerdydd yn gymuned, ac er bod sawl un sydd yn byw yng Nghaerdydd yn gwadu’r peth, rydym yn deulu. Rydym yn ceisio helpu ein gilydd cymaint â phosib.”
Mae Nalani wedi ceisio pwysleisio’r cyfeillgarwch di-ben-draw yma rhwng pobl prifddinas Cymru. Mae ei gwaith wedi’i gynllunio i uno pobl Caerdydd y tu ôl i’r achos cyffredin o herio’r anfanteision a natur unigryw’r ddinas, sy’n gwneud i bawb deimlo’n gysylltiedig.
Mae gan Nalani neges bersonol y tu ôl i’w chelf hefyd, sy’n gorfodi ei barn ei hun ar fywyd a sut mae’n gweld Caerdydd.
“Rwy’n cefnogi unigoliaeth a chydraddoldeb, a dyna pam fy mod yn cyflwyno fy hun fel unigolyn. Mae fy mherthynas i â Chaerdydd yn wych, a ni fyddwn yn newid hynny o gwbl.”
Proses y gelf
Mae Nalani’n dweud bod llawer o amser, gwaith caled ac amynedd wedi’i roi i’r gelf. Roedd yn anhygoel iddi weld ei gwaith yn cael ei arddangos yn yr ŵyl yng nghanol ei dinas enedigol.
Roedd yn broses gymhleth hefyd, gyda llawer o gamau gwahanol yn rhan o’r broses, gan gynnwys gwahanol ddulliau celf.
“Defnyddiais lawer o wahanol gyfryngau, fel marcwyr alcohol a marcwyr olew, yn ogystal â phastiliau olew a phensiliau oherwydd roeddwn i eisiau dangos fy hyblygrwydd, fel artist. Dwi’n teimlo fy mod wedi profi fy hun fel artist i bawb a oedd yn disgwyl i weld yr hyn y byddwn yn ei greu.”
Mae hyn yn cyd-fynd â chariad Nalani at gelf a’i hawydd i fynegi ei hun mewn ffordd anghonfensiynol. Gan fod ei chelf o safbwynt personol, mae pob unigolyn yn teimlo math gwahanol o berthynas â’r darn, yn hytrach na chydberthynas y mae pawb yn ei deimlo ar unwaith.
“Dwi’n hoffi celf oherwydd mae’n gwneud i mi deimlo’n rhydd. Gallaf bortreadu gwahanol emosiynau a gallaf ymarfer fy sgiliau artistig fy hun. Mae celf yn helpu gyda straen. Os ydw i wedi cael diwrnod drwg neu eisiau gwneud rhywbeth gwahanol, yna celf yw fy nihangfa a dwi’n gobeithio bod hyn yn dangos yn fy ngwaith celf.”
Yn olaf, cafodd y syniad o ychwanegu geiriau Cymraeg yn ei chelf.
Adlewyrchir yr holl bethau sydd yn bwysig iddi yn y gwaith, gan gynnwys Cartref, Hapusrwydd a Theulu.
Mae Caerdydd yn cynnwys yr holl bethau hyn a mwy i Nalani, ac i lawer ohonom mae’r rhain yn bethau sy’n bwysig i ni. Dyma mae ei dinas enedigol yn ei olygu i Nalani. Dyma beth mae Caerdydd yn ei olygu i bobl ifanc.
Gwybodaeth berthnasol
Os hoffet weld mwy am ein hartistiaid a’u gwaith, clicia yma i weld gwaith Rosie, Faaris, Farah, Alicia, Eshaan, a Saabiqah.