Sut Berthynas Sydd Gen Ti â Chaerdydd?

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Fyddet ti’n hoffi gwybod beth mae pobl ifanc eraill yn ei feddwl am fyw yng Nghaerdydd?

Fel rhan o Gwên o Haf, mae ProMo-Cymru a TheSprout wedi bod yn gweithio â’i gilydd i gomisiynu pobl ifanc i fod yn artistiaid preswyl ar gyfer yr ŵyl.

Rhoddwyd brîff i’r bobl ifanc creadigol llwyddiannus i greu darn o gelf oedd yn cynrychioli sut beth yw bod yn berson ifanc yng Nghaerdydd.

Yn ystod y cyfnod cais, gofynnwyd i’r ymgeiswyr i ddweud mwy wrthym am eu perthynas gyda Chaerdydd. Dyma oedd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus i’w ddweud.

Nalani, 15

I mi yn bersonol, mae byw yng Nghaerdydd yn golygu unigoliaeth.

Mae Caerdydd yn ddinas amrywiol a diddorol iawn. Mae gennym hawl i fod yn pwy bynnag a beth bynnag yr hoffem. Rydym hefyd yn cael cymorth aelodau eraill o’n cymdeithas i fod yn rhydd, ac mae hynny yn rhywbeth rwyf wir yn edmygu. Os oes problem yn codi, rydym yn gwneud ein gorau i’w ddatrys fel teulu.

Mae byw yng Nghaerdydd yn golygu caru fy hun hefyd. Mae’r byd yn newid, a gyda hyn mae ein gallu i dderbyn pobl o bob hil, rhyw a hunaniaeth rhywedd yn newid hefyd. Fel grŵp, rydym yn newid am y gwell, ac rwy’n hyderus y byddaf yn gweld ein cenhedlaeth yn dod i garu a deall ei gilydd yn well.

Mae pethau fel y symudiad BLM, sydd wedi dod yn fwy adnabyddus eleni, yn dangos sut mae dinas o bobl anhygoel yn gallu dod at ei gilydd i ddangos cefnogaeth pan fydd angen.

Saabiqah, 14

Mae byw yng Nghaerdydd yn golygu gweld ffrindiau a theulu, a chael cyfleoedd newydd anhygoel fel hyn hefyd! Ac i mi, sydd yn tyfu, mae’n caniatáu i mi wneud dewisiadau fy hun a chaniatáu i mi ddewis fy nhalentau a’m mreuddwydion.

Mae Caerdydd yn le creadigol gyda syniadau a meddyliau da, yn ymladd yn erbyn y drwg ac yn rhannu’r da. Dyna pam rwy’n mwynhau byw yn y fath ddinas, gan fod y syniadau gwallgof yn ddiddiwedd ac mae cymaint o bobl yn meddwl am gymaint o bethau newydd.

Yn aml, mewn llefydd eraill, nid allaf ddarganfod pobl sydd â diddordeb yn y pethau rwyf i’n ei garu, ond mae fel jacpot yng Nghaerdydd, ac rwy’n falch iawn o fod yma.

Farah, 14

Rwyf wedi fy ngeni a’m magu yng Nghaerdydd. Rwy’n caru’r ddinas yma gan fod yna cymaint o atgofion o dyfu i fyny. Er y byddwn i wrth fy modd yn teithio ac yn archwilio llefydd gwahanol dros y byd, Caerdydd yw adref. O Bae Caerdydd i Gastell Caerdydd, mae pob ardal yn bwysig i greu’r lle hyfryd yma.

Ond, mae yna wahaniaeth yn y tir a’r bobl sydd yn byw yno ac ein dyletswydd ni ydyw – ac wedi bod eisoes – i gael Caerdydd yn le o natur anhygoel. Mae’r siwrne yna yn parhau.

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf rwyf wedi gweld cynyddiad mewn cymunedau, clybiau a grwpiau sydd yn rhannu positifirwydd ac yn creu enw da i’n hardal.

Yn groes i hyn hefyd, rwyf wedi gweld sawl gweithred negyddol sydd yn cael effaith ddrwg ar y ddinas yma a’r bobl ynddi. Mae protestio yn helpu ni i gael llais ar sawl mater sydd yn amlwg yng Nghaerdydd yn ogystal â chymaint (gormod) o wledydd a chyfandiroedd eraill.

Alicia, 18

Cefais fy ngeni a’m magu yn Nhreganna, Caerdydd. Yn Y Tyllgoed (Fairwater) roeddwn i’n mynd i’r ysgol uwchradd, ac yn cael bywyd cymdeithasol hefyd. Yna, wrth symud i’r chweched yn y Rhath, symudodd fy mywyd cymdeithasol i Llanedeyrn/Pentwyn.

Rwyf wedi gweld sawl ochr i Gaerdydd ac rwy’n ymwybodol o’r hyll a’r prydferth. Yr hyll yw’r rhyfeloedd cod post, camdriniaeth cyffuriau, trais gangiau, tlodi a budreddi. Y prydferthwch ydy undod yn y cymunedau, llawer o barciau a natur.

Mae’r bobl sydd yn helpu adeiladu’r ddinas yma i fod yn gryfach yn gwneud, ac yn gorfodi, cynrychiolaeth drawiadol i bawb sydd yn byw yma. Gan ystyried yr holl bethau da a’r pethau drwg, bydd lle yn fy nghalon i Gaerdydd am byth, ble bynnag yr wyf. Rwy’n ddiolchgar am y cyfleoedd a’r profiadau mae wedi ei gyflwyno i mi. Mae wedi fy helpu i, a chymaint o rai eraill, i droi i mewn i’r person ydw i (ac ydym ni) heddiw.

Gan ei fod yn ddinas fach, mae’n haws gweld straeon pobl yn datblygu o bellter gan dy fod di’n gweld pobl drosodd a throsodd mewn dinas o’i faint. Rwyt ti’n dod yn gyfarwydd â’r rhai sydd yn sefyllian yng nghanol y ddinas, er da neu ddrwg.

Mae ardaloedd rhamantus o Gaerdydd hefyd, fel y Castell a’r arcêds. Rwy’n gweld llawer o fusnesau teuluol hen Caerdydd fel y Lazarou Brothers a Barker’s Coffee. Wedi mewnfudo i Gaerdydd mae fy nheulu i, felly rwyf wastad wedi cymysgu gyda phobl o gefndiroedd cymysg.

Mae Caerdydd yn gymysgedd o wahanol ardaloedd. Mae rhai yn amlddiwylliannol iawn, fel Tre-biwt a Grangetown, rhai yn y canol fel Treganna, a rhai sydd yn wyn gan amlaf. Mae’n amlwg bod Caerdydd yn wahanedig. Ond rwyf hefyd yn teimlo fel bod Caerdydd wedi fy ngalluogi i gydnabod y gallaf brotestio, a bod gen i lais gallaf ei ddefnyddio.

Faaris, 14

Rwy’n credu bod Caerdydd yn ddinas gynhwysol i’r bobl sydd yn byw yma. Mae’n gynhwysol i bobl LHDTC+, amryw ethnigrwydd, amlddiwylliannol, cyfeillgar i anableddau, gyda threftadaeth ddiwylliannol gryf a chymaint mwy. Mae’n oddefgar ac mae’n anhygoel cael fy magu yma.

Mae cymaint i’w wneud, bod hynny dan do neu yn yr awyr agored, ac mae yna bobl gyfeillgar ymhobman sydd yn ymddangos fel bod ganddynt amser i ti. Mae Caerdydd yn arbennig hefyd gan ei fod yn darparu cymysgedd wych o atyniadau a gweithgareddau dan do ac awyr agored i bob oedran. Mae fel byw mewn lleoliad gwyliau i blant!

Rwy’n meddwl bod byw yng Nghaerdydd fel byw mewn un teulu mawr. Mae gen i gefndir ethnig Asiaidd ac rwyf yn teimlo fel bod y gymuned ehangach yn lapio o fy nghwmpas, ac mae hyn yn gwneud i mi fod eisiau cyflawni pethau mawr ar ran y bobl o’m nghwmpas.

Mae’n anhygoel sut mae pawb yn gallu bod yn gyfeillgar, caredig ac yn gymorth i’w gilydd, beth bynnag ein cefndir. Cefais fy ngeni yn Llundain ond rwy’n byw yng Nghaerdydd ers yr oeddwn i’n ddwy. Rwy’n teimlo braint o gael tyfu i fyny yng Nghaerdydd ac yng Nghymru ar y cyfan.

Rosie, 17

I mi, mae Caerdydd yn gymysgedd bywiog o artistiaid ysbrydoledig a chasgliadau celf, byd cerddoriaeth brysur, ac arddangosfeydd diddorol o hanes a diwylliant Cymraeg. Mae’r persbectifau diwylliannol gwahanol o fewn y ddinas yn ysbrydoli amryw ragolygon, syniadau ac yn rhoi profiad bywyd cyfoethog yn y pen draw. Mae Caerdydd yn gartref i amrywiaeth o wahanol rywioldeb, ethnigrwydd a chrefydd sydd yn caniatáu i’n dinas ffynnu ac i ddathlu ein gwahaniaethau, ond ein tebygrwydd hefyd yn y pen draw.

Roedd Caerdydd yn gartref i Roald Dahl wrth gwrs, ysbrydoliaeth fawr i mi a gafodd lawer o ddylanwad ar fy arddull artistig a’m syniadau. Mae ei ddarluniad o’r aneglur a’r chwareus yn ei ysgrifennu a’i gymeriadau sydd bron yn swrrealaidd wedi fy helpu i greu’r golygfeydd sydd yn ymddangos yn fy ngwaith celf.

Castell Caerdydd yw’r rhan gorau o’r ddinas yma i mi, y clytwaith o gyfnodau amrywiol mewn hanes; y Rhufeiniad, Normaniaid, Arglwyddi Morgannwg, Butes, i gyd wedi gadael marc ar y castell, wedi’i ddilyn gan newid y waliau i mewn i loches rhag bomio yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae gwybod bod cymaint o bobl wahanol wedi cerdded y neuaddau ac wedi byw yn yr ystafelloedd cynt yn rhywbeth fydd wastad yn rhyfeddol ac yn meithrin fy nychymyg. Mae pob rhan o’r castell yn siwrne trwy amser, a byddaf yn parhau i ddefnyddio agweddau o hyn yn fy ngwaith celf yn y dyfodol.

I mi, mae Caerdydd yn gartref amrywiaeth a threftadaeth, celf a hanes, a phobl ysbrydoledig.

Eshaan, 17

Camais i mewn i’r brifddinas hudol yma am y tro cyntaf ar ddiwedd 2014. Ers hynny rwyf wedi gwneud nifer di-rif o ffrindiau a chyfarfod pobl ddiddorol iawn.

Ar ymyl yr A4232 i’r Gorllewin, y mynyddoedd a’r cymoedd i’r Gogledd, y dociau hanesyddol gyfoethog i’r Dwyrain, a’r dŵr glas sgleiniog i’r De – mae Caerdydd yn sefyll yn urddasol yn y canol.

Mae pob ffordd, pob stryd a phob atyniad twristiaeth wych yn llawn cymunedau amlddiwylliannol sydd yn cysylltu â’i gilydd yn gydlynol. Mae ffrindiau yno i’w gilydd, am byth, yn cefnogi ei gilydd – waeth beth fo effaith maint ein rhwystrau a’n gofid – ymhob cam. Mae hwn yn destament o gryfder trwy undod – yn cael ei alluogi drwy fondio ieuenctid caredig Caerdydd, eu llais, a’u syniadau cyfrannog.

Mae datblygiadau trefol llym yn digwydd yng Nghaerdydd ar hyn o bryd, gyda chyfres barhaol o ailwneuthuriad ac ailadeiladu – yn canolbwyntio ar gyflwyno prifddinas fodern ac arloesol sydd yn fwy cyfeillgar i’r amgylchedd er mwyn i genhedloedd y dyfodol ffynnu ynddi. Er na fyddaf yn gallu profi sefydlu’r gorwelion newydd yma, gan y byddaf yn mynd i’r Brifysgol flwyddyn nesaf, rwy’n falch o fod yn rhan o’r siwrne anhygoel yma!

Gwybodaeth Berthnasol

I ddarganfod mwy am ein hartistiaid preswyl ar gyfer Gwên o Haf, clicia yma.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd