Galw ar yr Artist: Caerdydd Mewn Golau Newydd

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Gan ei fod yn wythnos arddangos Gwên o Haf, rydym yn awyddus i roi llwyfan i waith anhygoel holl artistiaid ifanc yr ŵyl. Dyma ein cyfweliad arbennig gyda Rosie Pearn sydd, yn ogystal â darlunio a pheintio, yn adeiladu darn sydd yn adlewyrchu ei pherthynas gyda Chaerdydd.

“Mae’n cael ei ysbrydoli gan Gastell Caerdydd a’r castell ei hun sydd yn creu cefndir fy nghelf. Mae’n cyfuno gorffennol, gyda dillad y cymeriadau, ond y presennol hefyd gyda’r tai tref. Felly, cysylltu hanes gyda dyddiau modern ydy prif ysbrydoliaeth y darn.”

Mae Rosie, fel person ifanc, yn rhan fawr o gynnwys ein dyfodol. Dywedodd bod ei gwaith yn adlewyrchu’r hyn mae Caerdydd yn ei olygu iddi hi.

“Rwy’n mwynhau hanes y ddinas, yn enwedig Castell Caerdydd. Mae’r holl wahanol oesoedd a’r gwahaniaeth rhyngddynt yn ddiddorol iawn.”

Beth yw’r darn?

Mae gwaith celf Rosie wedi ei arddangos fel darn ‘pop-yp’, wedi ei ddylunio i ddod â’i darlun hi o fywyd Caerdydd yn fyw mewn ffurf model.

“Mae’r darn yn dod at ei gilydd fel dy fod di’n edrych i lawr ar y castell ac ar yr ochr mae’r tai tref a’r bwytai sydd yn cynrychioli dinas fodern, fywiog. Mae yna gymeriadau bach sydd mewn ffurf hwyaid, llygod mawr a physgod sydd yn byw eu bywyd dyddiol.”

“Mae’n cynnig mewnwelediad i fywydau pobl normal Caerdydd.”

“Maen nhw’n gwisgo dillad Fictoraidd ond yn gwneud pethau modern. Mae rhai yn cerdded o gwmpas gyda bagiau Primark a gweithwyr Deliveroo ar gefn ‘penny fathing’. Mae’n stwnsh o wahanol gyfnodau sydd wedi bod yng Nghaerdydd.”

Y broses adeiladu

Mae gwaith Rosie yn hynod ddiddorol, gan ei fod yn gymaint o broses adeiladu ag y mae’n gampwaith artistig. Mae gwybod ble i gychwyn yn dasg yn ei hun!

“Cychwynnais wrth lunio’r castell, gan mai dyna oedd y prif beth. Mae’n adeilad eiconig yng Nghaerdydd, felly roedd yn bwysig bod hwnnw’n iawn. Roedd hwnnw’n dasg fawr, ac rwyf wedi ychwanegu’r anifeiliaid ar wal y castell hefyd, roeddwn wedi gorfod ymarfer hynny lot.

“Mae llunio cymeriadau yn eithaf hawdd i mi, felly gwyddwn y gallwn i wneud hynny yn rhywle, a dim ond rhyw bum munud gymerodd hynny.”

Roedd yn ras yn erbyn amser i gwblhau’r darn ar ôl iddi wneud cais munud olaf i arddangos ei gwaith. Felly rydym yn ffodus iawn i’w weld yn Gwên o Haf!

“Roedd yn dipyn o straen gorfod cwblhau’r cais mewn un noson, er roedd clywed mod i wedi cael y gwaith yn syth wedyn yn hwyl.”

“Mam welodd y cyfle. Mae hi bob tro’n chwilio ar-lein am bethau i mi wneud; mae’n darganfod popeth ar Twitter felly dyna le welodd hi o mae’n siŵr.”

Felly, mae Rosie wedi bod yn gweithio’n ddiddiwedd am y tair wythnos diwethaf i sicrhau bod rhywbeth wedi’i orffen i arddangos yn yr ŵyl.

Beth yw apêl celf i ti?

“Rwyf wrth fy modd gydag ochr chwareus celf. Nid wyf yn ffan fawr o realaeth ac adlewyrchu bywyd mewn celf. Nid person fel yna ydw i. Rwy’n tynnu ysbrydoliaeth o fywyd go iawn, ond wrth fy modd yn creu pethau hollol newydd a haniaethol, sydd yn gwneud i fywyd bob dydd ymddangos yn fwy diddorol.”

Sut ydw i’n gallu gweld gwaith Rosie?

Bydd gwaith Rosie yn cael ei arddangos ar brif safle’r ŵyl ar Lawnt Neuadd y Dref, Caerdydd, drwy’r wythnos, ynghyd â gwaith yr artistiaid ifanc eraill. Mae tocynnau’r ŵyl yn £2 ac mae posib prynu trwy wefan Gwên o Haf neu’r app, sydd ar gael trwy’r Apple Store neu Google Play.

Mae Rosie yn canolbwyntio ar ei chelf ac yn defnyddio ei thalent i ysbrydoli darpar artistiaid ar stondin y Sprout ar safle’r ŵyl, sydd wedi bod yn ymweld yn eu miloedd ac yn ychwanegu i oriel ein hunain dros y pythefnos diwethaf. Mae ei gwaith wedi ysbrydoli pawb i edrych ar Gaerdydd gydag agwedd bositif.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd