Amgylchedd
Mae ein Hamgylchedd yn cynnwys dŵr, bwyd, aer, tir, ynni, llifogydd, cefn gwlad, hinsawdd a llawer mwy.
Bydd y dudalen hon yn dy helpu di i ddarganfod gwybodaeth a gwasanaethau defnyddiol i ti fedru addysgu dy hun, gofalu am yr amgylchedd, ac ymgyrchu i gadw’r amgylchedd ar flaen penderfyniadau’r dyfodol yng Nghymru.
Gwasanaethau Cenedlaethol
Cadwch Gymru’n Daclus – Mwy nag sbwriel ‘yn unig’ – yn amddiffyn amgylchedd a thirwedd Cymru mewn sawl ffordd.
Llywodraeth Cymru – Yr amgylchedd a’r newid yn yr hinsawdd – Yr hyn mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i amddiffyn a gwella’r elfennau hanfodol yma
Deddf yr Amgylchedd (Cymru) – Deddf a gafodd ei phasio i sicrhau bod Llywodraeth Cymru wedi’i ymrwymo i sicrhau bod yr amgylchedd wrth galon pob penderfyniad yn y dyfodol – gan gynnwys pethau fel gwarchod natur, newid hinsawdd, codi am fagiau plastig, ailgylchu, carbon isel a mwy.
Rhaglen Eco-Sgolion – Newid dy ysgol am y gwell – beth am osod a chynnal grŵp i newid yr ysgol yn wyrdd ac ennill gwobr Fflag Werdd Efydd, Arian neu Aur sydd yn cael ei adnabod yn rhyngwladol.
Gwrthryfel Difodiant Cymru (XR) – Mae ymuno yn gallu golygu cymaint, neu cyn lleied ag yr hoffet ac mae sawl ffordd i gymryd rhan yn ddibynnol ar yr amser sydd gen ti. Clicia yma i weld sut i gymryd rhan.
UK Youth Climate Coalition – Prosiectau ac ymgyrchoedd i gysylltu pobl ifanc yn y DU gyda newid hinsawdd.
Young People’s Trust for the Environment – Llawer o wybodaeth, fideos, taflenni ffaith ar gyfer pobl ifanc ar yr amgylchedd, gan gynnwys stwff ar gyfer gwaith cwrs.
National Geographic: Environment – “Popeth sydd angen ei wybod” ar bynciau fel Trychinebau Naturiol, Cynefinoedd, y Cefnfor a Newid Hinsawdd. Mae posib dilyn y National Geographic ar Instagram.
WWF (World Wildlife Fund) – Gwybodaeth am fywyd gwyllt, llefydd gwyllt, bygythiadau i bobl a bywyd gwyllt, a sut i gymryd rhan i wella’r sefyllfaoedd yma. Un arall da i’w ddilyn ar Instagram.
Skeptical Science – Yn archwilio’r wyddoniaeth a’r dadleuon o amheuaeth cynhesu fyd-eang – mewn iaith gychwynnol, ganolig ac uwch.
Tyfu’n Wyllt – Hadau blodau gwyllt am ddim i’ch grŵp neu brosiect.
Dryad Bushcraft – Hyfforddiant a gwybodaeth crefftau gwyllt.
Rhwydwaith Hinsawdd Myfyrwyr y DU (UKSCN) – Grŵp o bobl, y mwyafrif dan 18 oed, yn mynd i’r strydoedd i brotestio yn erbyn diffyg gweithredu’r llywodraeth ar yr Argyfwng Hinsawdd.
Meic – Gwasanaeth eiriolaeth a llinell gymorth sydd yn cefnogi plant a phobl ifanc gydag unrhyw broblemau yn ymwneud ag unrhyw beth, gan gynnwys pryderon am yr amgylchedd. Cysyllta â Meic yn ddyddiol o 8yb tan hanner nos ar: Rhadffôn 080880 23456; Neges Testun 84001 neu Neges Ar-lein.
Apiau defnyddiol
Too Good To Go – App bwyd gwastraff sydd yn caniatáu i ti brynu bwyd dros ben am bris rhatach gan fwytai, caffis, tafarndai a siopau lleol er mwyn atal bwyd rhag mynd i wastraff.
TreeApp – Mae’r app yn caniatáu i ti ddewis ble i blannu coden, sydd wedyn yn cael ei ariannu gan ddarganfod cynnyrch a gwasanaethau cynaliadwy o fewn yr app, felly nid yw’n costio ceiniog i ti.
Earth Hero – Ymateb i newid hinsawdd wrth ddarganfod camau positif, personol, i’w cymryd i ofalu am ein planed a’n cymunedau.
Eevie – Mae Eevie yn ganllaw clyfar i helpu ti i wella dy effaith carbon wrth wneud newidiadau bach bob dydd a phlannu coedwigoedd i wneud yn iawn am y gweddill. Ymuna â chymuned sydd yn gweithio â’i gilydd, un arfer ar y tro, i greu dyfodol hinsawdd-gyfeillgar i bawb.
Eco Buddy – Defnyddia’r app yma i helpu lleihau dy ôl troed carbon wrth gadw trac ar dy fwyd a dy siwrne bob dydd, edrych ar dy allyriadau CO2 a dysgu mwy am dy allyriadau a sut i’w gostwng.
Blogiau a Chanllawiau
Big Energy Saving Week 2021 – TheSprout
A Ddylai Llywodraeth Cymru Wahardd Plastig Untro? – TheSprout
The Impact of Plastic Pollution – TheSprout
Shopping Zero Waste Is Easier Than You Think – TheSprout
Enough of calling it climate change – this is a climate crisis! – TheSprout