Mae’r holl waith celf sydd yn cael ei arddangos ym mhabell y Sprout yng ngŵyl Gwên o Haf yn unigryw, ond mae Faaris Ahmad wedi herio ei hun i fynegi sut mae’n gweld Caerdydd mewn ffurf fideo.
Beth oedd yn ysbrydoli dy waith celf?
“Nid un munud o ysbrydoliaeth oedd hon. Mae’n gyfuniad o brofiadau yn tyfu i fyny yng Nghaerdydd, ac mae fy nghefndir wedi helpu fy ngwaith.”
“Rwyf wedi cael llawer o brofiadau positif yng Nghaerdydd, fel person ifanc. Mae’n ddinas amrywiol, gynhwysol a chyfeillgar. Fel person Asiaidd rwyf wedi sylwi bod pawb yn gefnogol ohonot ble bynnag rwyt ti’n dod o, felly mae’n gysur gwybod bod yna gefnogaeth o’th gwmpas yn y ddinas hyfryd yma.”
“Felly wrth greu’r prosiect yma, roeddwn eisiau arddangos hynny yn fwy nag dim. Felly dyna’r rheswm am liw a bywiogrwydd fy fideo.”
Mynegodd Faris ei berthynas gyda Chaerdydd; wedi darganfod ei le yn y ddinas, mae’n parhau i garu bywyd yn y lle’r oedd wedi treulio’r mwyafrif o’i amser yn tyfu i fyny.
“Symudais yma o Lundain pan oeddwn yn ddwy oed, ac ers bod yma rwyf wedi mynd i sawl gŵyl ac wedi gweld y gwahanol ddiwylliannau yma. Rwyf hefyd wedi gweld digwyddiadau fel yr orymdaith Pride ac roedd rhai o fy ffrindiau yno. Mae gweld pa mor gynhwysol ydy’r ddinas i gyd, o gymharu â dinasoedd eraill rwyf wedi ymweld â nhw, yn gwneud i Gaerdydd sefyll allan.”
Sut wnes di greu’r campwaith yma?
Fel un 14 oed creadigol mae wedi defnyddio dull gwahanol i fynegi ei hun. Yn yr Oes Gwybodaeth, mae sgiliau golygu fideo a phrofiadau gydag offer proffesiynol (fel camerâu fideo a microffonau) yn dal yn ddatblygedig yn 2021.
“Cychwynnais gyda bwrdd stori o’r gwahanol ddarnau yn fy nghasgliad oedd yn adlewyrchu’r hyn roeddwn eisiau ei ddangos am Gaerdydd. Unwaith i mi gael popeth yn fy mhen, es i ychydig o leoliadau eiconig Caerdydd fel Canolfan Mileniwm Cymru a Goleudy Parc y Rhath.”
“Es i ffilmio’r holl weithgareddau o gwmpas Caerdydd hefyd, fel Traeth Bae Caerdydd a go-cartio am hwyl. I arddangos darnau cynhwysol Caerdydd, rwyf eisiau arddangos, rwyf wedi bod i eglwysi, mosgiau a themlau.”
“Yna chwiliais am drac cerddorol i fynd gydag ef ac ychwanegu animeiddiad bar chwilio ar y cychwyn, roedd rhaid i mi ddysgu sut i ddefnyddio rhaglen effeithiau arbennig.”
Yn wylaidd iawn, dywedodd Faaris ei fod yn gobeithio bod y gwaith yn iawn yn yr amser byr rhwng cychwyn y campwaith a chychwyn yr arddangosfa.
Sut mae’r gwaith yma yn cael effaith ar dy ddyfodol?
Mae talent ac angerdd Faaris at greu ffilm yn arwydd da i ddyfodol disglair. Yn siarad yn glir iawn, nid yw’n syndod bod y bachgen ifanc yma yn dyheu i gael gyrfa gyffrous yn y diwydiant ffilm.
“Hoffwn fod yn wneuthurwr ffilm yn y dyfodol. Dyma sydd yn fy ngwneud yn hapus ac ni allaf feddwl am wneud dim arall ar hyn o bryd.”
“Rwyf yn caru hyblygrwydd celf a bod yn greadigol a gallu defnyddio dy ddychymyg.”
“Gyda chelf, rwyt ti’n gallu dechrau dylanwadu newid a chael effaith ar gymdeithas. Rwy’n gobeithio bydd fy ngwaith yn gallu gwneud gwahaniaeth un dydd. Ond nid wyf eisiau colli allan ar y siwrne, felly rwy’n cymryd popeth un cam ar y tro a gweld lle bydd hynny’n fy nghario.”
Pam dewis creu fideo?
Mae posib dylunio pob darn o gelf i fod mor drawiadol â’r nesaf, gan fod posib defnyddio pob un i adlewyrchu a dylanwadu ar sawl peth. Er esiampl, gall llun grefftio neges wleidyddol yn gain, ac efallai gall ffotograff ddysgu i ni sut i ddal llonyddwch sefyllfa, a’i gario yn ein poced ar gyfer atgofion y dyfodol.
“Nid oes ateb mawr i’r cwestiwn yma. Rwyf wedi tyfu yn gwylio ffilmiau ac mae’r rhain wedi siapio fy rhagolwg ar fywyd. Rwy’n eu caru.”
“Ac mae cymaint o bobl yn gwylio ffilmiau. Mae’n cynnig llwyfan mor fawr i wneud pwynt, felly byddwn yn awgrymu i unrhyw un sydd â diddordeb i ddysgu meddalwedd penodol a’i wneud yn dy amser rhydd gan ei fod yn gwneud cymaint o wahaniaeth.”
“Roedd gallu dweud stori dros gyfnod o amser yn apelio i mi hefyd.”
Ydym, rydym yn siarad gyda rhywun sydd wedi ennill gwobr!
Mae Faaris wedi ennill gwobr gyda’r cwmni theatr leol Theatr Iolo. Cyn cychwyn ei TGAU mae wedi gwneud newid mawr yn ei gymuned gan ddefnyddio ei dalent i wneud da.
I roi syniad o’r math o berson yw Faaris, roedd yn edrych ar yr artistiaid eraill yn pendroni pwy oedd enillydd y wobr cyn cofio mai ef oedd o. Pan gofiodd ei fod wedi ennill gwobr, rhoddodd wybodaeth bellach.
“Cyflwynais sgript am ffilm arall roeddwn i wedi’i greu, sef Two Worlds, One Meal. Ffilm am frodyr a chwiorydd, ble roedd un teulu yn eithaf tlawd a’r llall yn eithaf cyfoethog.”
Mae yna berthnasedd cyfoes iddo, wrth i Faaris egluro bod y sgript wedi’i greu gan feddwl am y pandemig COVID-19.
“Roedd y teulu tlotach wedi colli eu rhieni i Covid, tra bod y teulu mwy cyfoethog yn prisio gwyliau. Roeddwn eisiau gwneud y gwahaniaeth a’r tebygrwydd rhyngddynt yn amlwg.”
Mae’n nodweddiadol felly, bod y pandemig wedi amharu ar gynhyrchiad y sioe oedd i fod i ddigwydd o ganlyn sgript fuddugol Faaris.
“Nid oedd y sioe yn gallu digwydd oherwydd Covid, felly cafodd ei droi yn Bodlediad Spotify yn lle hynny i unrhyw un gael gwrando arno. Roedd yn brofiad gwych ar y cyfan ac roeddwn i wedi mwynhau.”
“Rwyf yn ceisio rhoi neges gymdeithasol yn fy ngwaith i geisio tynnu pawb at ei gilydd. Nid wy’n sicr os yw fy ngwaith yn gwneud hynny, ond dyma yw’r bwriad bob tro rwy’n ceisio dod â rhywbeth at ei gilydd.”
Roedd Faaris wrth ei fodd yn clywed bod ei waith diweddaraf yn mynd i gael ei arddangos i bawb ei weld yn Gwên o Haf a bod ei waith wedi cael ei weld gan lawer o bobl bwysig yng Nghaerdydd.
“Mae’n swrrealaidd meddwl fy mod i wedi cychwyn creu ffilmiau yn wyth oed. Os bydda rywun wedi dweud bryd hynny y byddwn i yn cael fy nghomisiynu i greu ffilm i’r Sprout, i gael ei ddangos i bawb yng Nghaerdydd, yna ni fyddwn i wedi credu hynny.”
“Mae’n ysgogiad gwybod bod cymaint o bobl wahanol yn mynd i gael eu heffeithio gan fy ngwaith, ac rwyf yn edrych ymlaen at weld yr holl ddarnau celf eraill yn ystod yr wythnos arddangos.”
Gwybodaeth berthnasol
Os hoffet weld mwy am ein hartistiaid a’u gwaith, clicia yma i weld gwaith Rosie, Farah, Alicia, Eshaan, Nalani, a Saabiqah.