Wyt ti erioed wedi meddwl sut fydd y dyfodol mewn 50 mlynedd? Dyma Thomas, sydd yn 8 oed ac wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Cerdyn Post o’r Dyfodol Chapter, yn egluro’r weledigaeth y tu ôl i’w lun.
Beth oedd dy ysbrydoliaeth wrth greu’r llun?
Roeddwn eisiau creu animeiddiad hwyl o sut gall fywyd edrych mewn 50 mlynedd o nawr.
Daeth fy ysbrydoliaeth o gartwnau fel Finding Nemo, Thunderbirds a phenawdau diweddaraf yn y newyddion fel y capan rhew yn toddi a lefelau’r môr yn codi.
Sut wyt ti’n teimlo am gael dy gynnwys mewn arddangosfa celf broffesiynol yn Chapter?
Mae’n gyffrous meddwl bod pobl yn gallu gweld fy ngwaith yn yr oriel. Rwyf hefyd yn falch iawn o’r hyn rwyf wedi’i gyflawni a bod y beirniaid wedi dewis fy ngwaith o gymaint o geisiadau.
Pa bethau creadigol eraill wyt ti’n gwneud?
Rwy’n mwynhau adeiladu, yn enwedig LEGO. Rwyf wrth fy modd yn defnyddio fy nychymyg, adeiladu llongau, meysydd rocedi a phontydd. Rwy’n caru dysgu am ddyfeisiadau Brunel o’r oes Fictoria.
Oes unrhyw beth arall hoffet ti ddweud am gyrraedd y rownd derfynol?
Pan glywais gan fy mhrifathrawes, teimlais yn anrhydeddus iawn a ddim yn gallu stopio gwenu. Fedra i ddim credu bod fy ngwaith i yn mynd i sefyll wrth ochr cymaint o waith celf anhygoel yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter.
Gwybodaeth berthnasol
Mae hwn yn rhan o’r ymgyrch Cerdyn Post o’r Dyfodol sydd yn cael ei gynnal ar y cyd â Chanolfan Gelfyddydau Chapter i ddathlu eu pen-blwydd yn 50. I ddysgu mwy am y gystadleuaeth a phawb arall sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, clicia yma.