Wyt ti erioed wedi meddwl sut fydd y dyfodol mewn 50 mlynedd? Dyma Anna, sydd yn 13 oed ac wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Cerdyn Post o’r Dyfodol Chapter, yn egluro’r weledigaeth y tu ôl i’w lun.
Beth oedd dy ysbrydoliaeth wrth greu’r llun?
Roeddwn eisiau creu delwedd loyw, hwyl a hapus o Gymru heb covid. Roedd gen i syniad o’r sgrin yn dod i lawr dros ein byd nawr ac yn cael gwared ar y firws.
Mae mam yn gweithio i’r GIG ac felly dwi wedi gwneud llun ohoni yn ei sgrybs yn tynnu’r sgrin i lawr. Roeddwn yn meddwl os bydda bobl yn gweld y llun bydda’n rhoi gobaith iddynt a dod ac ychydig o lawenydd gan fod pawb wedi cael blwyddyn anodd.
Sut wyt ti’n teimlo am gael dy gynnwys mewn arddangosfa celf broffesiynol yn Chapter?
Mae’n anhygoel! Dwi’n falch iawn o fod yn y naw terfynol a byddwn wrth fy modd gweld fy ngwaith ar y blwch golau. Dwi wedi bod yn gwneud lluniau ers oeddwn i tua 3 oed! Pan fyddaf yn gadael yr ysgol, dwi’n gobeithio dilyn gyrfa mewn celf ac felly mae’r gystadleuaeth yma wedi gwneud i mi gredu ynof i fy hun ychydig mwy.
Pa bethau creadigol eraill wyt ti’n gwneud?
Dwi ddim yn stopio gwneud lluniau. Nid yw fy rhieni yn cael taflu unrhyw ‘sbwriel’ gan fod i’n gwneud stwff drwy’r adeg! Dwi’n mwynhau gwneud dillad, peintio, gwneud lluniau yn ddigidol ac yn draddodiadol.
Oes unrhyw beth arall hoffet ti ddweud am gyrraedd y rownd derfynol?
Pan oeddwn i’n fach roedd tad-cu yn byw ar Stryd y Farchnad ac yn arfer mynd â fi i’r Chapter am deisen. Ni feddyliais i erioed bydda fy ngwaith celf i yn cael ei arddangos yna un diwrnod. Mae’n anhygoel! Diolch!
Gwybodaeth berthnasol
Mae hwn yn rhan o’r ymgyrch Cerdyn Post o’r Dyfodol sydd yn cael ei gynnal ar y cyd â Chanolfan Gelfyddydau Chapter i ddathlu eu pen-blwydd yn 50. I ddysgu mwy am y gystadleuaeth a phawb arall sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, clicia yma.