Wyt ti erioed wedi meddwl sut fydd y dyfodol mewn 50 mlynedd? Dyma Anest, sydd yn 14 oed ac wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Cerdyn Post o’r Dyfodol Chapter, yn egluro’r weledigaeth y tu ôl i’w lun.
Beth oedd dy ysbrydoliaeth wrth greu’r llun?
Mae fy ngherdyn post i’r dyfodol wedi’i ysbrydoli gan y cwestiynau sydd o gwmpas ein dyfodol. I fod yn onest, dwi ddim yn siŵr os oes gan neb syniad beth fydd yn dod yn y dyfodol. Felly, mae fy ngwaith celf yn ymwneud â’r ansicrwydd ynglŷn â’n planed, gan ddangos sawl canlyniad gwahanol, rhai sydd yn fwy cysurol a tawelog nag eraill, ac yn gofyn y cwestiwn beth allwn ni wneud i helpu?
Sut wyt ti’n teimlo am gael dy gynnwys mewn arddangosfa celf broffesiynol yn Chapter?
Dwi wedi bod yn mynd i’r Chapter ers oeddwn yn ifanc iawn ac wedi gweld llawer o bethau ar y waliau. Ac mae’r syniad gall fy ngwaith celf cael ei ddangos ar flaen yr adeilad yn un swrrealaidd ond rwy’n gwbl ddiolchgar am y cyfle.
Pa bethau creadigol eraill wyt ti’n gwneud?
Fy mhrif gelf ydy cerddoriaeth, drama a dawns. Dwi’n caru bod ar y llwyfan a mynegi fy hun wrth berfformio. Dwi wedi caru gwneud celf a chrefft o oedran ifanc a dwi’n dal i adeiladu modeli 3D yn fy amser rhydd. Yn ystod y cyfnod clo, roedd peidio cael llwyfan i berfformio arni yn anodd felly roedd gallu dŵdlo yn pasio’r amser ac mae wedi bod yn hobi cynorthwyol iawn yn y ddwy flynedd diwethaf.
Oes unrhyw beth arall hoffet ti ddweud am gyrraedd y rownd derfynol?
Mae cael fy newis yn y tri uchaf (yn fy nghategori oedran) wedi bod yn beth eithaf cŵl yn barod a dwi’n falch iawn gyda fy ngwaith, ta waeth pa mor dda mae’n gwneud!
Gwybodaeth berthnasol
Mae hwn yn rhan o’r ymgyrch Cerdyn Post o’r Dyfodol sydd yn cael ei gynnal ar y cyd â Chanolfan Gelfyddydau Chapter i ddathlu eu pen-blwydd yn 50. I ddysgu mwy am y gystadleuaeth a phawb arall sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, clicia yma.