Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o wybodaeth, cyngor a chymorth i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd yng Nghaerdydd.
Mae Tîm Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd wedi creu animeiddiad sydd yn arddangos y cymorth sydd ar gael i blant, pobl ifanc a theuluoedd ar draws y ddinas. Mae’r fideo isod yn amlygu’r amrywiaeth o wasanaethau presennol a newydd sydd yn cael ei gynnig, yn galluogi’r tîm i helpu mwy o bobl nag erioed o’r blaen.
Mae’r tîm wedi tyfu ers lansiad Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd a chroesawyd tîm o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, Arbenigwyr Iechyd Meddwl Cynradd ac Ymgynghorwyr Anabledd Helpu Teuluoedd.
Porth i Deuluoedd Caerdydd
Mae gan y gwasanaeth linell gymorth arbennig, Porth i Deuluoedd Caerdydd, sydd yn derbyn dros 12,000 o alwadau ffôn ac e-byst y flwyddyn, yn cynnig gwybodaeth a chyngor ar y canlynol:
- Bywyd teulu
- Ymddygiad plant
- Gofal plant
- Cymorth i rieni
- Presenoldeb yn yr ysgol
- Cyflogaeth, arian a thai
- Gwybodaeth a chyfeirio at wasanaethau eraill.
- A llawer mwy!
Gwybodaeth bellach
Ymwela â www.teuluoeddcaerdydd.co.uk am wybodaeth bellach neu cysyllta â’r tîm yn uniongyrchol:
E-bost: CyswlltFAS@caerdydd.gov.uk
Ffôn: 03000 133 133
Facebook: @CFASCACID
Twitter: @CardiffCFAS