Rhoddwyd cyfle i bobl ifanc creadigol rhwng 14-18 oed i gymryd rhan mewn comisiwn ar gyfer Gŵyl Gwên o Haf Caerdydd yn ystod haf 2021.
Byddai pob ymgeisydd yn derbyn £300 am greu darn o gelf sydd yn adlewyrchu sut beth yw bod yn berson ifanc o Gaerdydd. Roedd ganddynt 3 wythnos i greu’r gelf o’r syniad cychwynnol i’r darn gorffenedig. Arddangoswyd y darnau wedyn yn ystod wythnos olaf prif safle’r ŵyl Gwên o Haf, gyda’r artistiaid ifanc yn ymfalchïo yn cael rhannu eu gwaith. Dyma grynodeb o’r bobl ifanc creadigol talentog a’r gwaith.
Rosie Pearn, 17
Mae celf Rosie yn ddarn ‘pop-yp’ wedi ei ddylunio i ddod â’i darlun hi o fywyd Caerdydd yn fyw mewn ffurf model. Ysbrydoliaeth gwaith Rosie oedd hanes y ddinas, yn benodol Castell Caerdydd.
Dywedodd bod y “darn yn dod at ei gilydd fel rydych chi’n edrych i lawr ar y castell ac ar yr ochr mae’r tai tref a’r bwytai sydd yn cynrychioli dinas fodern, fywiog. Mae yna gymeriadau bach ar ffurf hwyaid, llygod mawr a physgod sydd yn byw eu bywyd dyddiol. Mae’n cynnig mewnwelediad i fywydau pobl normal Caerdydd.”
I ddarllen mwy am Rosie a’i gwaith, clica yma.
Faaris Ahmad, 14
Mae’r fideo yma, wedi ei ffilmio a’i olygu gan Faaris, yn canolbwyntio ar Gaerdydd cynhwysol ac amrywiol, yn ogystal â’r holl weithgareddau sydd ar gael i bobl ifanc.
Rhannodd Faaris: “Rwyf wedi cael llawer o brofiadau positif yng Nghaerdydd, fel person ifanc. Mae’n ddinas amrywiol, gynhwysol a chyfeillgar. Fel person Asiaidd rwyf wedi sylwi bod pawb yn gefnogol ohonot o ble bynnag rwyt ti’n dod, felly mae’n gysur gwybod bod yna gefnogaeth o’th gwmpas yn y ddinas hyfryd yma.”
I ddarllen mwy am Faaris a’i waith, clica yma.
Saabiqah Tariq-Khan, 14
Mae cymeriad siwper arwr Saabiqah’s yn eistedd ar adeilad eiconig Pierhead ym Mae Caerdydd, ei hoff le yn y ddinas.
Eglurai: “nid oeddwn yn gweld siwper arwyr mewn sgarff lliwiau Pacistan a Somalia pan oeddwn yn tyfu. Nid wyf wedi gweld siwper arwr Mwslim. Mae’r cymeriad yma yn adlewyrchu fi a’m mhersonoliaeth. Rwyf wedi penderfynu creu merch Pacistani Prydeinig. Mae’n byw yng Nghaerdydd, yn mynd i’r ysgol, ac yn byw ei bywyd fel unrhyw berson ifanc Mwslimaidd arall. Mae hi’n cynrychioli fi mewn ffordd, ond yn cynrychioli holl ferched Mwslim eraill Caerdydd hefyd.”
I ddarllen mwy am Saabiqah a’i gwaith, clica yma.
Eshaan Rajesh, 17
Mae celf Eshaan yn adlewyrchu amrywiaeth poblogaeth Caerdydd yn ei ddarn diweddaraf.
Dywedai: “mae’r gwaith yn gynrychiolaeth weledol o’r amrywiaeth a’r cynhwysiant sydd i’w weld yng Nghaerdydd. Mae’n cynnwys Canolfan Mileniwm Cymru, ac yn lle’r neges sydd ar flaen yr adeilad, rwyf wedi cynnwys y geiriau Young People Are the Change we Wish to See in Cardiff. Mae’n neges ysbrydoledig gan ei fod yn atgyfnerthu’r rhan sydd gan bobl ifanc i’w chwarae yng Nghaerdydd ac yn siapio dyfodol ein prifddinas.”
Mae’r bobl ar y blaen yn cynrychioli’r amrywiaeth yng Nghaerdydd. Rhannodd Eshaan: “Roedd cynnwys pobl o wahanol gefndiroedd yn hanfodol. Mae’r holl bobl yn y raffeg yn dod o gefndiroedd crefyddol, hil a diwylliannol wahanol.”
I ddarllen mwy am Eshaan a’i waith, clica yma.
Farah Thomas, 14
Mae gwaith Farah yn ymwneud â chefnogi amrywiaeth yng Nghaerdydd, ac i weld ein gwahaniaeth tra hefyd yn cydnabod bod pawb yr un peth, rywsut neu’i gilydd. Roedd yn awyddus i gynrychioli’r holl wahanol ddiwylliannau yng Nghaerdydd. Dywedodd bod ei darn yn ymgorffori’r teimlad y dylem gofleidio ein gwahaniaethau.
Rhannodd: “Roeddwn eisiau adlewyrchu’r amrywiaeth yng Nghaerdydd, gan fy mod yn teimlo nad oes digon o siarad am ein gwahanol ddefodau a thraddodiadau. I ddangos bod yna amrywiaeth o bobl yng Nghaerdydd, roeddwn eisiau adlewyrchu profiadau gwahanol bobl ifanc y ddinas a chynnig ychydig o gynrychiolaeth iddyn nhw.”
I ddarllen mwy am Farah a’i gwaith, clica yma.
Nalani Hallam, 15
Penderfynodd Nalani Hallam adlewyrchu ei barn o Gaerdydd o safbwynt personol, wrth greu hunan ddarlun wedi’i blethu â’r iaith Gymraeg. Ei hysbrydoliaeth oedd dangos bod pobl o wahanol gefndiroedd yn gallu mynegi eu hunain trwy’r rhyddid sydd yn dod o fod yn artistig.
“Rwy’n berson o liw gydag anableddau, felly roeddwn eisiau helpu eraill i sylweddoli y gallem wneud yr un pethau â phobl abl eu corff. Mae gennym gymaint o dalent ag unrhyw un arall, felly roeddwn eisiau ysbrydoli pobl fel fi ond hefyd eisiau atseinio neges gryfach i bawb, nad wyf yn gadel i ddim nac neb fy rhwystro.
I ddarllen mwy am Nalani a’i gwaith, clica yma.
Alicia Niebla Gil-Cervantes, 18
Casglodd Alicia Niebla Gil-Cervantes, 18, adnoddau at ei gilydd i greu campwaith sydd yn adlewyrchu’r da, y drwg a’r hyll yng Nghaerdydd. Fel sydd yn wir ymhobman, nid yw’r ddinas yn berffaith, ac nid oedd Alicia eisiau anwybyddu’r materion sydd yn gallu gwneud Caerdydd yn llai dymunol.
“Rwyf wedi gweld sawl ochr o Gaerdydd ac rwy’n adnabod y hyll a’r prydferth. Yr hyll yw’r rhyfeloedd cod post, camdriniaeth cyffuriau, trais gangiau, tlodi a budreddi. Y prydferthwch ydy undod yn y cymunedau, llawer o barciau a natur yn y ddinas.”
I ddarllen mwy am Alicia a’i gwaith, clica yma.
Gwybodaeth Berthnasol
I ddarganfod ychydig mwy am y bobl ifanc yma a’u perthynas gyda Chaerdydd, clica yma.