Wyt ti erioed wedi meddwl sut fydd y dyfodol mewn 50 mlynedd? Dyma Luke, sydd yn 11 oed ac wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Cerdyn Post o’r Dyfodol Chapter, yn egluro’r weledigaeth y tu ôl i’w lun.
Beth oedd dy ysbrydoliaeth wrth greu’r llun?
Yr ysbrydoliaeth am y cerdyn post oedd dinas o’r dyfodol gyda phlanhigion a llystyfiant, lle nad oes ceir yn y ddinas, dim ond melinau gwynt yn cynhyrchu ynni a choed yn cynhyrchu ocsigen.
Sut wyt ti’n teimlo am gael dy gynnwys mewn arddangosfa celf broffesiynol yn Chapter?
Teimlais yn falch iawn ac yn hapus bod fy ngwaith celf yn cael ei arddangos i nifer o bobl ei weld yn Chapter.
Pa bethau creadigol eraill wyt ti’n gwneud?
Dwi’n caru gwneud lluniau yn yr ysgol ac adref. Dwi’n caru creu adeiladau, ceir, pobl a llawer o bethau gwahanol wrth ddefnyddio fy nychymyg gyda LEGO. Dwi hefyd yn caru chwarae’r ffidl gyda cherddorfa’r eglwys a band.
Oes unrhyw beth arall hoffet ti ddweud am gyrraedd y rownd derfynol?
Dwi’n meddwl ei fod yn gyffrous iawn bod posib ennill arian i’r ysgol a hoffwn ddiolch i fy athrawes, Mrs Maples, am fy rhoi yn y gystadleuaeth yn yr ysgol.
Gwybodaeth berthnasol
Mae hwn yn rhan o’r ymgyrch Cerdyn Post o’r Dyfodol sydd yn cael ei gynnal ar y cyd â Chanolfan Gelfyddydau Chapter i ddathlu eu pen-blwydd yn 50. I ddysgu mwy am y gystadleuaeth a phawb arall sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, clicia yma.