Yn ddiweddar, bu Andrew a Tom, staff y Sprout, yn ymweld â Chlwb Pobl Fyddar Caerdydd ar Ffordd Casnewydd. Yma cyfarfûm â’r Grŵp Ieuenctid Cŵl Pobl Fyddar Caerdydd ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed.
Cawsom wahoddiad gan Stuart Parkinson, gweithiwr ieuenctid sydd yn fyddar ei hun. Mae’n arwyddo i ni yn iaith arwyddo Brydeinig, ond mae’n siarad hefyd. Er hynny, mae cyfieithydd ar gael i’n helpu.
Yn bresennol hefyd mae’r gwneuthur ffilm a phrentis ITV, Safyan Iqbal, sydd hefyd yn fyddar, yn aelod o’r Clwb Ieuenctid Cŵl Pobl Fyddar. Mae’n gweithio’n llawn amser yn stiwdio Newyddion ITV Cymru ym Mae Caerdydd. Un o’i brosiectau cyntaf oedd pennod o Wales This Week, ble fu’n adrodd ar yr amrywiaeth o broblemau sydd yn wynebu pobl fyddaryn y DU. Roedd Lewis Vaughan Jones, darllenydd newyddion cenedlaethol, yn un o’r bobl fyddar blaenllaw ar y rhaglen. Fel LVJ, mae gan Saf fewnblaniad cochlea hefyd, sydd yn gweithio wrth droi sain yn ddirgryniad yn syth, gan osgoi’r rhan o’r glust sydd ddim yn gweithio. Mae Saf ei hun yn ymddangos yn y rhaglen, gyda chlipiau ohono’n derbyn hyfforddiant gan griw camera uwch ITV.
Mae pobl ifanc byddar angen cofleidio’u hunaniaeth gyda balchder
Eglurodd Stuart a Saf nad yw’n hawdd bob tro pan wyt ti’n fyddar – yn enwedig fel person ifanc. Mae yna lawer o anawsterau nad ydym efallai wedi’i ystyried cynt.
Yn aml, bydd pobl fyddar yn dioddef o iechyd meddwl gwael. Pan fydd y byd o’u cwmpas yn llawn pobl sydd yn clywed, gall bod yn anodd dod o hyd i’w cymuned fyddar a magu hunaniaeth fyddar iach. Hoffai pobl fyddar i bobl sydd yn clywed edrych arnynt wrth iddynt siarad, er mwyn iddynt gael darllen y gwefusau. Mae Stuart yn dweud bod darllen gwefusau yn gallu bod yn flinedig iawn, felly nid yw’n ddatrysiad hir dymor. Mae’n llawer gwell os yw’r person byddar yn gallu cael sgwrs mewn Iaith Arwyddo Brydeinig (BSL). Byddai Stuart wrth ei fodd yn gweld teuluoedd yn cefnogi perthnasoedd byddar wrth annog pawb yn y teulu i ddysgu BSL, er mwyn cyfathrebu’n well.
Nid adref yn unig mae plant byddar yn wynebu anawsterau chwaith. Mae Stuart yn dweud ei fod yn adnabod ffotograffydd, deintydd, bydwraig, gweithiwr ieuenctid (ei hun), sydd yn fyddar, ond wedi llwyddo yn eu gyrfaoedd er y byddardod. Mae Stuart eisiau dysgu pobl ifanc i fod yn falch o’u byddardod a pheidio teimlo cywilydd, ond gwyddai o brofiad pa mor anodd yw hyn.
Mae rhai rhieni yn penderfynu oedi ar ddysgu BSL i’w plant byddar gan gredu y bydd yn eu hatal rhag dysgu siarad. Y rhan helaeth o’r amser nid yw hyn yn wir. Bydd rhai pobl ifanc byddar yn mynd i ysgol ‘prif lif’, nid ysgol gyda phobl fyddar eraill. Dyma oedd profiad Stuart, ni ddysgodd arwyddo tan yn 18 oed. Yna roedd rhaid iddo wynebu rhagfarn newydd: pobl fyddar eraill, oedd wedi mynychu ysgol arbennig i bobl fyddar. Roedd yn israddol iddynt am ei fod wedi mynychu ysgol prif lif.
Y canolfan pobl fyddar yn wynebu cyfnod caled
Yn ogystal â’r Clwb Ieuenctid Cŵl Pobl Fyddar Caerdydd, sydd yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Pobl Fyddar Caerdydd yn wythnosol, mae yna grŵp i blant dan 11 sydd yn rhy ifanc i’r Clwb Cŵl. Enw’r grŵp iau ydy Dwylo Creadigol Caerdydd (sydd yn cyfeirio at iaith arwyddo), ond dim ond unwaith y mis y maent yn cyfarfod. Mae’r bobl fyddar o bob oedran sydd yn defnyddio’r ganolfan yn cael mynediad i amrywiaeth eang o weithgareddau – bod hyn yn y lleoliad ei hun neu yn rhywle arall. Mae’r ganolfan yn cynnal popeth o foreau coffi a dosbarthiadau ioga i deithiau i Pen-y-fan.
Wrth gymryd rhan yn y gweithgareddau yma, gall person byddar gymryd rhan yn y gymuned fyddar yng Nghaerdydd a thu hwnt. Eglurai Stuart bod yna tua 60 o bobl ifanc byddar yn y ddinas. Mewn canolfannau byddar eraill, fel ym Mhontypridd, mae yna weithiau hyd at 100 o aelodau ar un tro. Mae’r Clwb Ieuenctid Cŵl Pobl Fyddar Caerdydd yn gobeithio cymryd rhan yng Ngŵyl Goleuadau Rhiwbeina eleni.
Yn anffodus, er yr holl dda gall y ganolfan ei gyflawni, a’i hanes hir, mae’n wag y mwyafrif o’r amser. Dim ond tua thair awr o waith yr wythnos mae Stuart yn cael ei dalu amdano, er mae’n gweithio llawer mwy o oriau.
Dim cefnogaeth i bobl fyddar yn y coleg
Roedd addysg Safyan yn aflonydd ar y gorau, a dyma pam ei fod yn hapus dros ben i fod yn gweithio’n llawn amser yn yr ITV. Iaith arwyddo Brydeinig oedd ei iaith gyntaf, a helpodd Stuart iddo wella ei Saesneg. Aeth i’r coleg, ond bu iddo adael yng nghanol y flwyddyn.
“Nid ydynt eisiau helpu,” meddai. “Maent yn rhoi’r gwaith i ti a dweud wrthyt ti ei wneud dy hun. Maent yn helpu pobl sy’n clywed fwy nag pobl fyddar! Roeddwn i ar ei hol hi cymaint fel fy mod wedi gadael hanner ffordd drwy’r flwyddyn.”
Roedd pethau’n edrych ychydig yn fwy addawol i Saf pan aeth ar brofiad gwaith i’r BBC ym Mryste am ddau ddiwrnod yn 19 oed. Roedd rhaglen See Hear y BBC yn cael ei ddarparu’n arbennig i bobl ifanc fyddar. Aeth yn ôl i’r coleg y flwyddyn wedyn, i Goleg Pen-y-bont ar Ogwr, ble maent yn “helpu pobl sydd yn cael trafferthion”. Cyn hir roedd Saf yn barod i lwyddo.
“Bob diwrnod ar ôl y coleg, heb amser am seibiant, roeddwn yn gwirfoddoli, yn rhwydweithio ac yn gweithio pob dydd i fagu fwy o hyder. Nid oedd amser i gysgu.”
Bellach yn yr ITV, mae pethau’n edrych yn ddisglair i Saf. Maent wedi prynu amrywiaeth lawn o dechnoleg i’w prentis newydd – o iPhone X i oriawr Apple. Ac i sicrhau bod yna rywun i gyfieithu pan fydd angen gallai ddefnyddio FaceTime i gysylltu â chyfieithydd.
Ond mae dyfodol Saf mewn newyddiaduraeth yn ansicr. Creu ffilm ydy ei wir angerdd, a dyma pam ei fod yn eistedd y tu ôl i’r camera ac yn yr ystafell olygu fel arfer. Mae’n dweud y byddai’n hoffi actio a chyfarwyddo ffilmiau ei hun un diwrnod.
Gwell darpariaeth yn Yr Alban
Bu Stuart yn egluro mwy am y sefyllfa bresennol i bobl fyddar yng Nghymru. Mae’n poeni am ddiffyg cyfieithwyr a diffyg deddfau byddar yng Nghymru. Yn yr Alban, mae Iaith Arwyddo Brydeinig yn iaith swyddogol. Yma, mae’n cael ei adnabod fel iaith, ond, yn wahanol i’r Gymraeg, nid oes rhaid i neb sicrhau bod eu haraith yn cael ei gyfieithu. Cafodd deiseb ei chreu i geisio newid hyn.
“Fydda gen ti athro Saesneg yn gweithio mewn ysgol sydd ddim yn iaith gyntaf Saesneg?” meddai Stuart wrth egluro fwy am y ddeiseb.
Wrth gwrs, felly pam bod rhaid i bobl fyddar ddioddef cyfathrebiad iaith arwyddo israddol?
Ychwanegodd ein cyfieithydd sylwadau ei hun. Dywedodd bod y galw yn llawer mwy nag y gellir ei gyflenwi. Mae llawer o bobl fyddar yn mynd i’r brifysgol neu’r theatr a chyfieithwyr ddim yn gallu cadw i fyny gyda’r galw. Roedd rhaid iddi wrthod apwyntiad ysbyty arbennig gyda pherson byddar yn ddiweddar, rhywun oedd angen cyfieithydd i gyfathrebu gyda llawfeddygon, gan ei bod wedi derbyn gwaith arall eisoes.
Mae’r sefyllfa’n un llym i bobl fyddar yng Nghymru. Ond gyda chyllideb genedlaethol newydd, mae newidiadau mawr ar droed yn Llywodraeth Cymru. A gyda chynyddiad yn nymuniad y gymuned fyddar Cymraeg i gysylltu gydag allfeydd fel theSprout, bydd pethau yn siŵr o wella.