Fy Annwyd Bythol – Iselder

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae’n Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl (#MHAW15), felly rydym yn rhannu rhai o’r erthyglau gorau, fwyaf personol ac/neu fwyaf poblogaidd sydd wedi’u hysgrifennu gennych chi – pobl ifanc Caerdydd.

Cofia, gallet ti rannu – unrhyw amser, unrhyw ddydd – dy brofiadau, cyngor, ymgyrchoedd, newyddion, barn, gwybodaeth, digwyddiadau, lluniau, neu beth bynnag, gyda miloedd o bobl ifanc Caerdydd. Rhanna gyda’r Sprout yma. Rydym yn bodoli i fod yn llwyfan i ti gael dweud dy ddweud. Mae’n gymuned agored, gefnogol a blaengar i rai 11-25 oed yng Nghaerdydd.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar 19/01/2014 gan Jamesandwich. Gobeithiwn y bydd yn helpu ti, dy ffrindiau (plîs rhanna) ac yn ysbrydoli ti i siarad am iechyd meddwl trwy’r Sprout neu fel arall.


Wyt ti’n cofio’r tro diwethaf i ti gael annwyd? Ti’n dechrau teimlo ychydig yn wael, ac yna ti’n gallu teimlo dy hun yn mynd yn waeth, dydd ar ôl dydd. Ti’n ymwybodol bod y gwaethaf i ddod o hyd, ond mae’n rhaid i ti ddisgwyl amdano fel dy fod di wedyn yn gallu gwella a pharhau gyda dy fywyd.

Os oedd yr annwyd diwethaf i ti ei gael yn enwedig o ddrwg, yna efallai byddet ti’n cofio’r teimlad nad oedd y diwrnod roeddet ti’n dechrau gwella yn gallu dod yn ddigon sydyn. Prin roeddet ti’n cysgu, gallet ti ddim blasu dy fwyd gorau, roeddet ti’n dechrau poeni bod pobl yn camgymryd ti am zombie oherwydd dy welwedd a’r ffaith dy fod ti’n shifflo wrth gerdded wrth fynd yn araf bach i’r fferyllfa yn dy sliperi i brynu mwy o Lemsip.

Dychmyga am funud bach nad yw’r annwyd yn gwella. Yn lle cyrraedd pig y salwch, rwyt ti’n aros yn sâl yn hirach, ac mae pethau’n gwaethygu. Mae’n rhaid i ti ddychwelyd i dy fywyd bob dydd rhyw dro, a tydi disgwyl i bopeth ddiflannu yn cyflawni dim. Nid yw pobl yn teimlo tosturi drosot ti bellach – nid bod hynny ots o gwbl, oherwydd rwyt ti’n boddi yn hunan dosturi beth bynnag heb fod angen eu tosturi nhw hefyd. Maen nhw’n dweud dy fod di’n “drama queen” ac yn “hypochondriac”. Maen nhw’n gofyn, “Pam na fedra di sortio dy hun allan? Mae gan bobl eraill salwch lot gwaeth, ac maen nhw’n ymdopi’n iawn. Ti angen stopio meddwl am y peth gymaint, dyna’r cwbl. Ti’n meddwl gormod dy fod di’n sâl, dyna yw dy broblem di.”

Er fy gallaf anadlu drwy fy nhrwyn yn iawn, ac nid wyf angen Vicks, gallaf berthnasu. Heb reng flaen o amddiffyniad gwrthgorff, iselder yw’r salwch sydd yn parhau i roi. Llethr lithrig y cychwynnais arno yn llawer rhy ifanc, mae iselder yn llawer haws i ddisgyn i mewn iddo nac ydyw i ddringo allan. Rwyf bellach yn ddofn yn ei grafangau hunllefus, wedi gorlethu gyda’i gysgod sydd yn llyncu popeth, a’r unig beth gallaf ei wneud yw dod i’r wyneb weithiau i wneud ryw drosiad erchyll bob hyn a hyn.

Mae fy iselder wedi bod ar lefel sydd yn cael effaith sylweddol ar fy mywyd ers sbel nawr, ac er mor ofnadwy a digalon ydyw, ni fedraf stopio meddwl pa mor ddiflas ydyw. Mae dioddef o iselder yn debyg i wylio ffilm sydd yn gwbl ddifater i ti, ond mae’r ffilm yn parhau am filiynau o flynyddoedd. Dwi wedi cael llond bol o beidio bod eisiau codi o’r gwely yn y bore; mae fy niystyriaeth lwyr tuag at yr holl bethau roeddwn i’n arfer caru yn fy niflasu. Rwyf wedi cael digon o beidio teimlo’r awydd i fynd allan a gweld fy ffrindiau (sydd, wedi meddwl, yn rhywbeth maen nhw wedi diflasu ag ef hefyd). Mae bod yn gwbl ddiflas 24 awr y dydd yn ddraen ar rywun, ac mae bod yn fy mhen gyda dim ond y fi diflas fel cwmni yn rhyw fath o artaith flinedig.

Pan fydd gen ti annwyd, ti’n gwybod byddi di’n gwella o fewn ychydig ddyddiau, felly mae’n bosib ymdopi gydag eistedd drwy’r holl anghysur. Pan fydd gen ti iselder, a ti’n teimlo darnau o dy bersonoliaeth yn ildio i’r dim byd ofnadwy yma, darn wrth ddarn, nid oes diwedd ar y gorwel. Rwyt ti’n edrych i mewn i’r tywyllwch, yn baglu dy ffordd mewn unrhyw gyfeiriad fydd efallai, neu efallai ddim, yn arwain at y dyfodol disglair yna oedd wedi’i addo i ti. Wyddost ti ddim, efallai dy fod di’n mynd ymhellach i mewn i’r tywyllwch. Wyddost ti ddim, efallai nad oes dyfodol disglair o gwbl.

Ac felly, ti’n dechrau meddwl: oes yna bwynt mewn parhau gyda hyn? Beth os mai mwy o ddim byd sydd yno yn lle’r golau? Ydw i’n gwastraffu amser yn chwilio am y diwedd hapus? Dylwn i orffwys, eistedd yn y tywyllwch a gadael iddo gofleidio’r hyn sydd ar ôl ohonof? Ydw i’n parhau i wthio drwy’r tasgau bydol bywyd normal sydd mor wirion o anodd, rhag ofn i’r tywyllwch yma deneuo rhyw ddydd? Neu medra i, plîs, orffwys fy nhraed am funud bach?

Mae’n cliché bron, ac rydym wedi darllen hyn cannoedd o weithiau cynt, ond mae bod yn isel fel diffrwythder cyson. Mae fel petai’r sain wedi cael ei droi i lawr ar fy emosiynau, ac felly ar fy mhersonoliaeth. Dwi’n brwydro mor galed i gofio beth yw gorfoledd fel fy mod i’n dechrau amau nad wyf wedi profi’r teimlad yma o’r blaen beth bynnag.

Felly, pan nad yw dim yn rhoi mwynhad i ti, beth sy’n dy yrru ymlaen? Y gobaith y bydd popeth yn ôl fel y dylai fod ryw ddydd? Neu’r ofn os yw hynny’n digwydd, heb i ti frwydro, ychydig iawn o’r hen ti fydd ar ôl i wybod sut i fyw’n arferol beth bynnag? Y llwybr hawsaf fydda fod gartref yn fy mhyjamas yn lle chwarae rhan byw bywyd normal, ac oes gen i’r cryfder i barhau i wrthsefyll hyn llawer hirach?

Nodyn Is-Olygydd: Os oes angen help neu gyngor ar iselder neu unrhyw broblem arall arnat ti, cysyllta â Meic ar-lein, ar eu llinell gymorth 080880 23456, neu yrru neges testun i 84001. Mae’r cyngor i gyd am ddim ac yn gyfrinachol.

Perthnasol:

Gwybodaeth – Iechyd Meddwl

Erthyglau – Iselder

Erthyglau – Iechyd

Credyd Llun: Kalexanderson trwy Compfight cc

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd