Glasfyfyriwr: Sut i Oroesi’r Brifysgol

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

‘Glasfyfyriwr’ – myfyriwr blwyddyn gyntaf mewn prifysgol neu goleg, yn enwedig yn ystod ei dymor cyntaf.

– (ffynhonnell: Geiriadur Prifysgol Cymru)

Mae popeth yn newydd – y tro cyntaf yn byw ar ben dy hun – blas cyntaf o ryddid – gorfod rheoli arian – gorfod bwydo, gwisgo ac edrych ar ôl dy hun!

Cyffrous? Peri Straen? Dychrynllyd? Fyddi di’n byw bywyd diddiwedd o “chug, chug, chug”, yn llwyddo i gael cydbwysedd da o fywyd cymdeithasol ac astudio, neu’n methu setlo o gwbl (a phopeth rhwng y bylchau)? Croeso i dy flwyddyn gyntaf!!!

Bydd llawer iawn o bobl yn cychwyn yn y coleg a’r brifysgol y flwyddyn hon a bydd profiadau’r diwrnodau, wythnosau a’r misoedd cyntaf yn wahanol i bawb siŵr o fod. Bydd rhai yn gorwneud y partïon. Yr holl ryddid a’r benthyciad myfyriwr yn llosgi twll yn y boced. Llawer o lefydd newydd, ffrindiau i gyfarfod a hwyl, hwyl, hwyl. I eraill gall fod yn gyfnod ansicr pan fyddant yn teimlo hiraeth eithafol, yn poeni am arian neu’r swm o waith. Efallai bydd yn anodd iddynt wneud ffrindiau neu eu bod yn casáu’r cwrs.

Felly dyma ni i geisio helpu gyda’n…

Canllaw ddefnyddiol i’r Glasfyfyriwr:

Cyfrifiannell ar gyfer erthygl Glasfyfyriwr

Dysgu Sut i Gyllido

Mae hwn yn un o’r pethau pwysicaf bydd rhaid i ti ddysgu. Mae angen i ti sicrhau bod y benthyciad myfyriwr yn cael ei ymestyn. Edrycha ar y canllaw yma ar MSE yn cynghori am hyn gyda dros 60 o awgrymiadau gan gynnwys cyfrifon banc myfyrwyr, disgowntiau, biliau ynni a gwneud arian ychwanegol. Chwilia am y cyfrif banc myfyriwr gorau a gweld pa un gall gynnig y fargen orau i ti; yn aml mae ganddynt rywbeth i ysgogi myfyrwyr fel arian am ddim neu ffrîbis.

Mae’r benthyciad myfyriwr yn glanio yn dy gyfrif mewn un swm mawr ar gyfnodau penodol, nid bob wythnos neu fis. Bydd rhaid i ti ddysgu peidio gwario hwn i gyd yn rhy sydyn. Rhaid dysgu sut i gyllido fel nad wyt ti’n waglaw ac yn gorfod cloddio trwy’r sbwriel yn Tesco am fwyd (neu’n erfyn ar fanc mami a dadi am arian).

pobl ifanc yn cael hwyl yn sleidio ar ddŵr ar gyfer erthygl Glasfyfyriwr

.

Ffrindiau newydd

Mae Wythnos y Glas yn gyfnod gwych i gyfarfod ffrindiau newydd. Bydd digwyddiadau cymdeithasol yn cael eu cynnal. Mae’n gyfle i bawb ddod i adnabod ei gilydd mewn gosodiad llai ffurfiol. Fe ddylet ti hefyd ystyried ymuno gyda grŵp neu gymdeithas, mae yna lwyth ohonynt fel arfer. Os wyt ti’n mynd i Ffair y Glas yna bydd y cymdeithasau i gyd yno yn ceisio tynnu sylw myfyrwyr newydd. Mae hyn yn ffordd dda i gyfarfod â phobl newydd sydd â diddordebau tebyg. Os wyt ti angen cyngor ar sut i wneud ffrindiau newydd yna edrycha ar erthygl Coda’r Meic ar ein gwefan pan ofynnodd rhywun am gyngor. Mae yna restr wych o syniadau ar Save The Student hefyd fel cadw dy ddrws yn agored, cynnig helpu a choginio i bobl.

Merch ifanc yn eistedd wrth y ffenestr yn meddwl ar gyfer erthygl Glasfyfyriwr

.

Hiraeth am adref

Mae’n gallu bod yn anodd iawn addasu i fywyd yn y brifysgol. Mae hiraethu am deulu a ffrindiau yn gallu bod yn anodd iawn i rai. Tra bod rhai pobl yn ymddangos fel eu bod yn setlo bron yn syth, nid yw’n beth ei fod yn ymdrech mawr i rai eraill. Mae cadw’n brysur yn ffordd wych i gadw hyn wrth gefn y meddwl. Cyfarfod ffrindiau newydd, mynd i unrhyw ddigwyddiadau cymdeithasol, ymuno gydag unrhyw grwpiau neu gymdeithasau sydd o ddiddordeb.

Ceisia beidio rhoi’r ffidl yn y to am fod pethau’n rhy anodd, efallai bydd hyn yn benderfyniad byddi di’n difaru. Os fedri di gadw ati am ychydig wythnosau, yna mae’n debyg bydd y teimladau yma o hiraeth yn pylu. Gallet ti wneud mwy o ymweliadau gartref ar benwythnosau ar y cychwyn os oes angen. Dylet ti hefyd wneud defnydd i dechnoleg. Pan fyddi di’n hiraethu gallet ti weld beth mae dy ffrindiau yn ei wneud ar gyfryngau cymdeithasol. Gallet ti hefyd wneud galwadau fideo i dy ffrindiau neu deulu. Ond ceisia beidio hiraethu gormod a threulia mwy o amser yn dod yn gyfarwydd gyda’r amgylchedd newydd.

Os nad yw pethau’n gwella ceisia siarad gyda dy diwtor neu wasanaethau cefnogi myfyrwyr. Mae gan Times Higher Education gyngor ar Sut i Ymdopi Gyda Hiraeth Yn Y Brifysgol.

Cadeiriau yn wyebu llwyfan gyda ffodiwm a bwrdd du ar gyfer erthygl Glasfyfyriwr

.

Cofia pam dy fod di yno

Mae wythnos y glas yn gyfnod o gyffro a setlo, ond cyn hir bydd rhaid dechrau meddwl am gael trefn ar bethau. Mae’n rhaid i ti sicrhau dy fod di’n mynd i’r darlithoedd ac yn rhoi’r gwaith i mewn ar amser. Mae ffaelu’r flwyddyn gyntaf yn gamgymeriad drud iawn os oes rhaid ail-wneud y flwyddyn neu orfod gadael y brifysgol yn gyfan gwbl. Efallai bod creu amserlen, neu ddyddiadur astudio, yn swnio’n ddiflas iawn yng nghanol holl hwyl Wythnos y Glas, ond bydd hyn yn ddefnyddiol iawn wrth i ti sylweddoli difrifwch pam dy fod di yno. Edrycha ar ganllaw TopUniversities – Pum Awgrym Uchaf i Fod Yn Fwy Trefnus Yn Y Brifysgol. Os ydy’r llwyth gwaith a chael trefn yn rhy anodd yna siarada gyda dy diwtoriaid neu gefnogaeth fugeiliol, efallai gallant helpu ti i greu cynllun.

.

Siarada â Meic

Mae Meic yn rhywun ar dy ochr di. Os ydy pethau’n rhy anodd ac rwyt ti angen siarad â rhywun neu os oes gen ti gwestiwn am rywbeth yna gallet ti gysylltu â Meic yn gyfrinachol ac am ddim ar y ffôn, neges testun neu Neges Sydyn ar-lein rhwng 8yb a hanner nos, bob dydd o’r flwyddyn. Rydym yn siarad am dy opsiynau ac yn helpu ti i ddarganfod y llwybr gorau ymlaen.

 

Wedi ei ailgyhoeddi o wefan Meic

 

 

 

 

 

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd