Fel rhan o’n hymgyrch Y Dyfodol yn ein Dwylo, siaradom gyda Julia a Sarah, a gychwynnodd y Sustainable Studio, am newid mewn agweddau a sut i gychwyn ar ffasiwn gynaliadwy.
Beth yw’r Sustainable Studio?
Mae’r Sustainable Studio wedi bod yn rhedeg ers 2016. Mae’n gasgliad o wneuthurwyr, artistiaid a cherddorion sydd yn rhannu gofod i wella economi greadigol y ddinas.
Mae Sarah Valentin a Julia Harris, gychwynnodd y Sustainable Studio, wedi gosod cynaladwyedd wrth galon popeth y gwnânt, er esiampl, wrth greu dilledyn o fewn eu brand ffasiwn araf, Dillad DA-TI. Mae popeth y gwelir yn y stiwdio yn ail-law, wedi cael ei adfer, uwchgylchu, gymryd o sgip neu’n rhodd.
Rhannai Julia, “mae’n hawdd i ni gerdded i mewn i siop a dweud, ‘dwi angen crys-t gwyn’ a ‘dwi angen hwdi llwyd’ a chodi un i fyny heb feddwl sut mae hwnnw wedi cael ei greu, pwy sydd wedi ei greu, a chost cynhyrchu’r eitem”.
“Gyda’n gweithdai a chael pobl i mewn i’r stiwdio rydym yn ceisio dangos y broses yma i bobl. Rydym yn trafod o ble mae’r eitem yna wedi dod ac yn creu toile (brasfodel prawf o’r dilledyn). Rydym yn annog ymwelwyr i roi tro ar wnïo a thrio rhai o’r darnau wedi’u creu. Wrth weld y broses, maent yn sylwi faint o amser a chrefft sydd ynghlwm”.
Sut mae agwedd tuag at gynaladwyedd wedi newid?
“Pan gychwynnwyd ar y siwrne yma dros 15 mlynedd yn ôl, roedd pobl yn meddwl amdanom fel pobl od am ein bod yn uwchgylchu ein cwpwrdd dillad, ac yn cynnal digwyddiadau cyfnewid dillad a sioeau ffasiwn cymunedol”, eglurai Julia. “Bellach mae sawl brand moesol yn lansio pob dydd ar gyfryngau cymdeithasol. Mae cynaliadwyedd yn air sydd bron yn mynd i mewn trwy un clust ac allan drwy’r llall, mae’n dod yn air goddefol”.
Aiff ymlaen, “mae llawer o wybodaeth am yr hyn sydd yn cael ei wneud yn fyd-eang a synnwyr o sut mae pobl yn ceisio cael effaith a gwella’r diwydiant ffasiwn, felly mae yna lawer o newyddion da. Ond hefyd, mae yna lawer o gwestiynau sydd angen ateb o hyd”.
Ychwanegai Sarah fod, “ffasiwn gynaliadwy yn ymwneud â meddwl y bydd cyfnod o newid. Mae’n dechrau digwydd, ond mae siwrne hir o hyd. Mae yna ychydig o ymgyrchoedd yn ystod y flwyddyn, fel Medi ail law gyda Oxfam sydd yn annog i ti wisgo dillad ail law am y mis. Dylen ni fod yn gwneud hynny bob mis, ond o leiaf maen nhw’n ceisio cael y syniad i feddyliau pobl nad oes rhaid prynu’n newydd bob tro – mae posib mynd i siop ‘vintage’ ac ar Vinted”.
Mae uwchgylchu yn ffordd wych i greu dillad sydd yn parhau’n hirach a helpu i fod yn gynaliadwy. Ond nid yw pethau mor hawdd â hynny. Rhannai Sarah, “weithiau mae pobl yn meddwl bod uwchgylchu yn hawdd iawn am dy fod di’n gwneud rhywbeth o rywbeth arall, ond mae fel pos. Mae gen ti batrwm, ond efallai bod angen 3 siwmper neu grys-t i greu’r un fraich yna, felly mae’n dod yn fwy o her. Dyna pan ein bod ni’n hoff ohono, am nad wyt ti’n gwybod sut beth fydd yr eitem orffenedig”.
Sut mae bod yn fwy cynaliadwy gyda ffasiwn gartref?
Mae “dechrau addysgu cyn gynted â phosib” yn hanfodol i gael meddylfryd cynaliadwy meddai Sarah. Mae “annog eich plant i roi dillad hen i frawd neu chwaer, neu gyfnewid dillad gyda chwpl o bobl sydd yn faint tebyg i ti” yn ffyrdd gwych i gychwyn.
Ychwanegai Julia bod ei phlant hi wedi “tyfu i fyny yn gwisgo dillad ail-law. Roeddwn i wrth fy modd pan roeddent yn gofyn ‘pwy roddodd hwn i ni?’ gan y gallwn i egluro’r stori o ble y daw. Roedd cyffro o gwmpas tyrru trwy’r bag a gweld beth oedd i mewn ynddo. Nid oeddent yn cymryd popeth, ond roedd fel darganfod trysor”.
“Mae yna reilen cyfnewid dillad yma yn y stiwdio. Bydd rhywun yn dweud eu bod wedi rhoi rhywbeth arno ac mae pawb yno fel gwenyn i fêl. Mae’n hwyl am ei fod am ddim ac rwyt ti’n cyfnewid. Felly mae pawb yn gallu gwneud pethau bach fel cyfnewid dillad, Vinted a Depop”, ychwanegai Julia.
Mae gofyn ychydig o gwestiynau i dy hun yn gallu helpu ti i sylweddoli os wyt ti’n prynu’n fyrbwyll, neu os wyt ti angen rhywbeth. Awgrymai Julia, “os wyt ti am brynu’n newydd, gofynna a wyt ti wir ei angen ac os byddi di’n ei wisgo fwy nac un tymor. Er esiampl, dwi newydd brynu esgidiau cerdded newydd, ond roedd y lleill tua 15 oed ac wedi torri. Meddyliais ble y byddwn i’n eu prynu a pa gwmnïoedd oedd yn talu cyflog teg ac yn agored am ble mae’n dod. I mi, mae meddwl am hynny’n naturiol, ond i rai nid yw’n ystyriaeth o gwbl”.
Gwybodaeth berthnasol
Mae’r ymgyrch Y Dyfodol yn Ein Dwylo yn cael ei gynnal mewn cydweithrediad â Bloedd Amgueddfa Cymru. Mae’r rhaglen gydweithredol yma yn gweithio gyda rhai 16-25 oed i arbrofi, creu ac arloesi.
Os oes gen ti ddiddordeb mewn dysgu mwy am y prosesau tu ôl i lenni ffasiwn, mae Sarah yn awgrymu gwylio The True Cost.