Wyt ti’n gofalu am dy ffôn symudol? Yn cofio’i blygio i mewn i’r wal i ail-lenwi’r batri? Gosod diweddariadau, a dileu pethau os yw’n llenwi? Mae’n debyg dy fod di.
Pan fydd batri dy ffôn ar fin rhedeg allan, rwyt ti’n rhoi mwy o egni iddo. Mae hyn yn wir hefyd am dy gorff a’th ymennydd, weithiau mae angen adfywio.
Wedi blino? Yn araf? Methu canolbwyntio? Mae angen i ti adfywio. Dyma sut:
1. Pan rwyt ti’n teimlo fel bod dy fatri’n isel, ceisia wrando ar gerddoriaeth
Os yw batri dy gorff yn sownd ar 1%, rho dy hoff albwm, gân, podlediad, neu lyfr ymlaen… beth bynnag sy’n dy alluogi i ymlacio.
2. Gormod o apiau ar agor? Cau nhw wrth fyfyrio
Edrycha ar y gwefannau ymlaciol yma, neu beth am yr ymarferion anadlu yma gan NHS Choices. Gall apiau myfyrio fel Headspace fod yn ddefnyddiol hefyd. (Rho dro ar ymarferion am ddim ar y cwrs 10 diwrnod).
Dyma ddull Maddy o ymlacio, gan ddefnyddio’r dull Cert Sglefrio
3. Poeni nad oes gen ti egni? Dweud wrth rywun
Gad i rywun wybod os yw pethau’n mynd yn ormod, fel nad wyt ti’n esgus bod popeth yn iawn pan nad ydynt. Sgwrsia gyda dy deulu, athro, neu linell gymorth – pwy bynnag rwyt ti’n gallu ymddiried ynddynt.
Cofia bod Meic yma i ti bob dydd, 8am – hanner nos. Gallet ti siarad am ddim ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001), neu neges sydyn/IM (www.meic.cymru).
Llun gan: Shutterstock
4. Dim digon o storfa? Cadwa feddwl iach
Gall ein pennau deimlo’n orlawn pan fydd gennym ormod i’w wneud, fel ein bod yn teimlo nad allem gyflawni dim o gwbl. Rho dro ar y pethau canlynol:
- Atgoffa dy hun am y pethau rwyt ti’n gallu gwneud – siarada gyda dy hun mewn ffordd bositif! Meddylia am y pethau rwyt ti’n hoffi amdanat ti.
- Gosod targedau realistig. Penderfyna beth rwyt ti eisiau gwneud, a’i gymryd un cam ar y tro.
- Cael diwrnod drwg? Cymera ofal, cer i’r gwely’n gynnar, a dechrau pethau o’r newydd yn y bore; mae yfory’n ddiwrnod newydd.
5. Angen diweddaru’r meddalwedd? Byw bywyd iachus
Os wyt ti’n teimlo’n arafach nag arfer, gall arferion iachus helpu ti i deimlo’n well ynot ti dy hun. Y gyfrinach yw darganfod y pethau rwyt ti ei fwynhau!
- Mae’n bwysig yfed digon o ddŵr! Bydd yfed gwydriad neu ddwy yn ychwanegol yn clirio dy ben ychydig.
- Gall ffrwythau a llysiau roi mwy o egni i ti. Darganfydda’ rywbeth ti’n hoffi a cheisio bwyta mwy ohono. Targed da ydy bwyta rhywbeth o bob lliw!
- Treulia ychydig mwy o amser yn yr awyr agored wrth fynd am dro neu ar y beic, neu beth am ddod oddi ar y bws ychydig yn fuan a cherdded gweddill y ffordd (os yw dy rieni’n hapus efo hynny). Beth am wahodd dy ffrindiau?
Ac yn olaf..
Cofia diffodd pethau weithiau! Ceisia gael o leiaf 8 awr o gwsg bob nos. Dim ffôn, dim teledu… ymlacia!