Wyt ti rhwng 11 a 25 oed ac yn meddwl bod chwarae gemau yn helpu gyda dy iechyd meddwl? Wyt ti’n gallu dangos hyn gyda darn o gelf? Eisiau cyfle i ennill £200 am dy waith?
Mae cyfle perffaith yma gan TheSprout. Darllena’r canllaw yma cyn i ti gwblhau’r ffurflen gais.
Cefndir
Mae gan bawb iechyd meddwl. Mae gan rhai iechyd meddwl da; eraill yn dioddef weithiau gydag iechyd meddwl gwael. Beth bynnag ydy dy brofiad iechyd meddwl personol, gall rhai pethau helpu ti i deimlo’n well. I rai pobl, mae pethau fel gweld teulu a ffrindiau, ymarfer corff, darllen llyfr, neu chwarae gemau, yn gallu helpu.
Os wyt ti’n meddwl bod chwarae gemau yn helpu dy iechyd meddwl di, yna mae’r comisiwn yma yn berffaith i ti. Efallai bod siarad gyda ffrindiau trwy gemau yn help mawr i aros yn bositif. Efallai bod archwilio bydoedd hudol neu ddatrys posau yn help i dynnu sylw o’r pethau negyddol sydd yn tynnu rhywun i lawr. Os wyt ti’n gallu meddwl am resymau pam bod chwarae gemau wedi gwella dy iechyd meddwl, yna rydym yn awyddus i ti gysylltu!
Rhanna dy syniad
Rydym yn bwriadu comisiynu 9 o artistiaid ifanc i greu darnau celf sydd yn adlewyrchu’r berthynas rhwng chwarae gemau ac iechyd meddwl.
Ti sydd yn dewis pa ffurf celf rwyt ti am ddefnyddio, er esiampl:
- Peintio
- Anime
- Cân
- Cerflunio
- Cerameg
- Ffilm
- Barddoniaeth
- Sgets
- Dawns
- Gair rhydd
Os yw’n dweud stori, bod hynny’n gorfforol neu yn ddigidol, yna cer amdani!
Sut mae gwneud cais?
I wneud cais, bydd angen cyflwyno ffurflen gais.
Bydd y ffurflen gais yn gofyn ychydig o gwestiynau amdanat ti, dy berthynas gyda chwarae gemau, dy syniad am y comisiwn, a’r ffurf celf sydd orau gen ti.
Bydd posib cyflwyno esiamplau blaenorol o dy waith celf i gefnogi’r cais.
Dyddiad cau ceisiadau ydy dydd Sul 23ain Ionawr 2022. Ni fydd unrhyw geisiadau sydd yn dod i law yn dilyn y dyddiad hwn yn cael ei gyflwyno o flaen y beirniaid. I osgoi cael dy siomi, cyflwyna dy syniadau celf cyn gynted â phosib.
Y panel
Bydd panel arbenigol o feirniaid yn bwrw golwg ar yr holl syniadau celf a dewis hyd at 9 i’w comisiynu.
Rydym yn bwriadu cysylltu â’r holl geisiadau llwyddiannus erbyn dydd Mercher 26ain Ionawr 2022. Yna byddem yn ymestyn gwahoddiad i gyfarfod gyda ni dros alwad fideo fel y gallem helpu i ddatblygu dy syniadau a chynorthwyo yn y broses greadigol.
Os wyt ti’n llwyddiannus, bydd angen i ti arwyddo cytundeb sydd yn amlinellu’r hyn y disgwylir gen ti fel rhan o’r comisiwn.
Yna bydd gen ti tua 5 wythnos i gyflwyno dy waith gorffenedig ar ddydd Sadwrn 12fed Mawrth 2022.
Llinell amser
- Ceisiadau ar agor: Dydd Llun 10fed Ionawr 2022
- Dyddiad cau ceisiadau: Hanner nos, Nos Sul, 23ain Ionawr 2022
- Cysylltu ymgeiswyr llwyddiannus: Dydd Mercher, 26ain Ionawr 2022
- Dyddiad cau gwaith celf orffenedig: Hanner dydd, Dydd Sadwrn, 12fed Mawrth 2022
- Digwyddiad arddangos: Dydd Sadwrn, 19eg Mawrth 2022
Pa gymorth sydd ar gael?
Fel rhan o’r comisiwn, bydd aelodau staff ProMo-Cymru yn cefnogi’r artistiaid ifanc i ddogfennu’r broses o gwblhau’r gwaith celf.
Rydym yn awyddus i gyfweld yr holl artistiaid am eu gwaith, a’r effaith mae chwarae gemau wedi ei gael ar eu hiechyd meddwl. Bydd y cynnwys yma yn creu blogiau, graffeg, a fideos, fydd yn cael eu rhannu ar wefan TheSprout ac ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol.
Cyllideb y comisiwn
Bydd pob comisiwn llwyddiannus yn derbyn £200 i greu, arddangos a dogfennu proses y gwaith gyda help staff.
Beth fydd yn digwydd i’r gwaith celf?
Rydym yn bwriadu cynnal digwyddiad yng nghaffi’r Good Game yng Nghaerdydd ar ddydd Sadwrn, 19eg Mawrth 2022, i arddangos yr holl waith celf orffenedig. Bydd hwn yn gyfle i ti, fel artist ifanc, i gyfarfod gydag eraill sydd yn hoff o chwarae gemau, sgwrsio gydag artistiaid eraill ac i weld dy waith celf yn cael ei arddangos. Bydd y gwaith celf yn cael ei gasglu a’i arddangos yn y caffi Good Game am fis ar ôl y digwyddiad.
Amrywiaeth a chynhwysiad
Hoffwn arddangos yr amrywiaeth sydd o gwmpas Caerdydd ac rydym wedi’n hymrwymo i gefnogi cyflwyniadau a phobl greadigol sydd â hunaniaeth a/neu gefndir sydd yn cael ei thangynrychioli. Mae hyn yn cynnwys, ond ddim yn gyfyngedig i, artistiaid:
- O gefndiroedd Du, Asiaidd a chefndiroedd ethnig fel arall
- Gyda hunaniaeth LHDTC+
- Gydag anawsterau iechyd tymor hir
- Gydag anableddau
Croesawir syniadau yn Saesneg a Chymraeg.
Cymorth wrth wneud cais
Bydd angen mewngofnodi i gyfrif Google i gyflwyno cais.
Os wyt ti angen cymorth i lenwi’r ffurflen neu os nad oes gen ti gyfrif Google ond eisiau gwneud cais, cysyllta â: info@promo.cymru
Pwy sydd yn trefnu hyn?
Ariannir y prosiect yma gan Gyngor Caerdydd a’i gynnal a’i drefnu gan TheSprout, ProMo-Cymru a Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd.