Cyfleoedd Ehangu Gyrfa Gyda’r Princes Trust

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Rydym wedi darganfod dau gyfle gwych gan Ymddiriedolaeth y Tywysog (Princes Trust), un o’r elusennau gorau i bobl ifanc yng Nghymru.

Bydd yr Ymddiriedolaeth yn cynnal sesiynau gwybodaeth gyrfaoedd bob dydd Iau, 4-7yh, dros yw haf yn Llyfrgell Ganolog Caerdydd. Dyma ddywedant ar eu tudalen Facebook:

Bob dydd Iau, o 4-7yh, rydym yn cynnal Sesiynau Haf yn y llyfrgell i rai 16-30 oed sydd yn chwilio am y cam nesaf.

Nid oes angen cadw lle, a bydd thema wahanol bob wythnos. Galwa i mewn am sgwrs gyda’n tîm arbenigol, a chymryd y camau cyntaf tuag at lwyddiant.  🥇🌟

Yn y cyfamser, mae’r Ymddiriedolaeth wedi cysylltu gyda ni yma yn theSprout i hyrwyddo’r rhaglen Dechrau Arni mewn Chwaraeon. Bwriad y cwrs yma ydy cael mwy o bobl ifanc i mewn i hyfforddiant chwaraeon.

Cwrs wythnos o hyd yw hwn fydd yn canolbwyntio ar chwaraeon fel pêl droed, tenis, pêl fasged a chriced. Bydd y cwrs yn dysgu technegau hyfforddi, sut i gydlynu hyfforddiant a chymryd rhan mewn ymarferion.

Pwrpas y rhaglen ydy cyfarparu rhywun gyda’r sgiliau i fynd ymlaen i hyfforddi chwaraeon.

Dechrau Arni Mewn Chwaraeon – Awst 20 – 24 2018, Caerdydd

Diwrnod Blasu/Dewis: Mercher 15fed Awst 2018

Cyfarfod pobl newydd a gwella sgiliau wrth weithio ar sialens grŵp fel dysgu sut i gyflwyno sesiwn hyfforddi. Bydd hyn yn helpu ti i ddarganfod sgiliau newydd, gallet ti hefyd ennill achrediadau a derbyn cefnogaeth ein staff, neu un o’n mentoriaid, fydd yn gallu helpu ti yn dy gamau nesaf.

✅Ennill sgiliau ac achrediadau
✅Dim effaith ar fudd-daliadau
✅Hyd at 3 mis o gefnogaeth
✅Talu costau teithio

I ymuno yn y cwrs yma neu i ddarganfod mwy:

  • Chwilia ‘Princes Trust Cymru’
  • Gyrra neges testun ‘Call me’ i 07983 385 418
  • Galwa am ddim ar 0800 842 842
  • E-bostia: outreachwales@princes-trust.org.uk

 

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd