Comisiynau Creadigol Gwên o Haf: Canllawiau’r Cais

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Yn galw holl bobl ifanc 14-18 oed Caerdydd! Darllenwch y Canllaw yma cyn cwblhau cais.

Cefndir

Caerdydd yw’r Ddinas gyntaf yng Nghymru i fod yn rhan o Fenter Dinasoedd Sy’n Gyfeillgar at Blant UNICEF. Fel rhan o’r cynllun hwn, nod Caerdydd Sy’n Dda i Blant ydy bod Caerdydd yn cael ei adnabod fel Dinas Sy’n Dda i Blant: dinas gyda phlant a phobl ifanc wrth ei galon, ble mae hawliau plant a phobl ifanc yn cael ei barchu gan bawb, ac yn le gwych i gael dy fagu.

Mae Caerdydd Sy’n Dda i Blant yn cydnabod bod y cyfnod yn ystod y pandemig wedi bod yn enwedig o anodd i blant a phobl ifanc. Gyda chyfyngiadau yn llacio dyma’r cyfle i greu gŵyl dros yr haf yn dathlu pobl ifanc, Gŵyl Gwên o Haf.

Bydd Gwên o Haf yn digwydd rhwng 25ain Mehefin – 29ain Awst yng Nghaerdydd. Fel rhan o’r ŵyl, bydd safle gŵyl wedi’i leoli ar lawnt Neuadd y Ddinas am 3 wythnos o 20fed Gorffennaf – 8fed Awst.

Fel rhan o’r ŵyl, mae’r Sprout yn chwilio am 10 o bobl ifanc creadigol 14-18 oed i’w comisiynu i greu darn o gelf. Bydd rhaid i’r artistiaid greu ac arddangos eu celf yn ystod y 3 wythnos yma.

This image has an empty alt attribute; its file name is social-media-banners-1-1024x511.jpg

Briff creadigol

Mae TheSprout yn galw ar bobl ifanc creadigol 14-18 oed Caerdydd i gyflwyno syniad celf sydd yn dweud beth mae’n ei olygu i fod yn berson ifanc sydd yn byw yng Nghaerdydd.

Rydym yn croesawu syniadau gydag unrhyw ffurf o gelf ee. Peintio, cân, cerflun,  crochenwaith, ffilm, barddoni, braslunio, dawns, gair llafar – unrhyw beth! Os yw’n gallu adrodd stori, yn gorfforol neu’n ddigidol, yna grêt.

Cyllideb y comisiwn

Bydd pob comisiwn llwyddiannus yn derbyn £300 i greu, arddangos a dogfennu proses y gwaith gyda chymorth staff.

Bydd cymorth ar gael i helpu gyda chostau prynu deunyddiau ac adnoddau newydd, ar wahân i’r grant yma. Paid prynu unrhyw ddeunydd o flaen llaw heb gadarnhad dy fod di wedi bod yn llwyddiannus, a heb siarad gydag aelod o staff.

This image has an empty alt attribute; its file name is Untitled-design-3-1024x1024.png

Panel

Bydd panel arbenigol yn beirniadu’r syniadau celf cyflwynir ac yn dewis 10 ohonynt i’w comisiynu.

Os wyt ti’n llwyddiannus, byddem yn gofyn am gyfarfod trwy alwad fideo i roi cymorth i ti i ddatblygu syniadau a gweld sut y gallem helpu yn y broses greadigol. O’r pwynt hwn, bydd gen ti rhwng 2-3 wythnos i gyflwyno dy waith gorffenedig ar ddydd Sadwrn 31ain Gorffennaf 2021.

Cynhwysiad ac Amrywiaeth

Byddem yn hoffi arddangos yr amrywiaeth sydd i’w weld o gwmpas Caerdydd ac rydym yn cefnogi cyflwyniadau a phobl greadigol sydd â hunaniaeth ac/neu gefndir sydd yn cael ei thangynrychioli. Mae hyn yn cynnwys, ond ddim yn gyfyngedig i artistiaid:

  • O gefndir Du, Asiaidd a chefndiroedd lleiafrifoedd ethnig eraill
  • Sydd â hunaniaeth LHDT+
  • Gydag anawsterau iechyd hir dymor
  • Gydag anableddau

Rydym hefyd yn croesawu syniadau yng Nghymraeg a Saesneg.

Llinell amser

  • Ceisiadau yn agored: Dydd Mawrth 29ain Mehefin 2021
  • Dyddiad cau ceisiadau: 9yb Dydd Iau 8fed Gorffennaf 2021
  • Cyhoeddi’r ymgeiswyr llwyddiannus: Dydd Gwener 9fed Gorffennaf
  • Dyddiad cau’r gelf orffenedig gan yr artistiaid wedi’u comisiynu: Dydd Sadwrn 31ain Gorffennaf 2021
  • Wythnos Arddangos: Dydd Llun 2il Awst – Dydd Sul 8fed Awst 2021

Y broses o wneud cais

I wneud cais bydd rhaid i ti fod rhwng 14 a 18 oed ac yn byw yng Nghaerdydd, Cymru, ar hyn o bryd. Bydd angen i ti hefyd fod ar gael yng Nghaerdydd am 3 wythnos o 20fed Gorffennaf – 8fed Awst 2021.

Dyddiad cau ceisiadau yw 9yb (BST) ar ddydd Iau 8fed Gorffennaf. Bydd unrhyw geisiadau hwyr ddim yn cael eu hystyried gan y panel o feirniaid. I osgoi siom, cyflwyna dy syniadau celf cyn gynted â phosib.

Rydym yn gobeithio rhoi gwybod os wyt ti’n llwyddiannus neu ddim erbyn dydd Gwener 9fed Gorffennaf 2021.

Os wyt ti’n llwyddiannus bydd angen i ti arwyddo cytundeb yn amlinellu’n union yr hyn sydd yn ddisgwyliedig ohonot ti fel rhan o’r comisiwn.

Yn dilyn hyn, byddem yn trefnu galwad fideo i drafod y camau nesaf, ac yn dy helpu yn y broses greadigol o’r comisiwn ar gyfer Gwên o Haf.

Sut i wneud cais

I wneud cais, cwblha’r ffurflen gais isod. Bydd angen i ti ateb ychydig o gwestiynau am dy feddyliau, teimladau a phrofiadau o fyw yng Nghaerdydd. Mae’r ffurflen hefyd yn gofyn am y ffurf o gelf rwyt ti’n dewis, disgrifiad o’r hyn yr wyt ti’n gobeithio creu i ffitio gyda’r briff, ac esiamplau o dy waith blaenorol.

I lenwi’r ffurflen gais, clicia yma.

Bydd angen i ti fewngofnodi i gyfrif Google i gyflwyno cais.

Os wyt ti angen cymorth i lenwi’r ffurflen neu os nad oes gen ti gyfrif Google ond eisiau gwneud cais, cysyllta â: info@promo.cymru 

Pwy sydd yn trefnu hwn?

Mae’r prosiect yn cael ei ariannu drwy Gwên o Haf ond yn cael ei gynnal a’i drefnu gan ProMo-Cymru.

This image has an empty alt attribute; its file name is promocymru-1.png

Cwestiynau Cyffredin

Ydw i’n gallu cyflwyno comisiwn fel rhan o grŵp?

Mae grwpiau o artistiaid, pobl greadigol a pherfformwyr yn gallu cyflwyno cais comisiwn. Ond rhaid cofio mai grant o £300 ar gyfer pob comisiwn yw hwn, nid pob person.

Oes rhaid i mi brynu’r deunyddiau/adnoddau fy hun?

Mae cyllid ar gael i helpu prynu deunyddiau ac adnoddau newydd ar gyfer y syniad celf a rhoi bywyd iddo. Os wyt ti’n llwyddiannus gallem drafod yn ein galwadau fideo sut i wneud hyn a beth fydd costau’r adnoddau yma. Paid â phrynu dim cyn i bethau cael eu cadarnhau

Rwy’n 13, ond yn troi’n 14 yn ystod yr ŵyl. Ydw i’n cael cyflwyno cais?

Ni fydd posib cyflwyno syniad celf os nad wyt ti’n 14 oed cyn dyddiad cau’r ceisiadau ar ddydd Iau 8fed Gorffennaf.

Rwy’n 18 ond yn troi’n 19 ystod yr ŵyl. Ydw i’n gallu cyflwyno cais?

Os wyt ti’n 18 oed cyn dyddiad cau ceisiadau ar ddydd Iau 8fed Gorffennaf, rwyt ti’n cael cyflwyno cais o hyd.

Rydw i o gwmpas am ychydig o’r ŵyl ond ddim yr ŵyl i gyd. Ydy hyn yn broblem?

Nid oes disgwyliad i ti fod yn yr ŵyl trwy’r dydd, bob dydd am y 3 wythnos gyfan. Unwaith i ni dderbyn y ceisiadau byddem yn ceisio trefnu amseroedd cyfleus pan fydd yr artistiaid sydd wedi’u comisiynu yn gallu cyfarfod i gyd ac i greu’r gelf ar safle’r ŵyl, ble’n bosib. Os wyt ti’n llwyddiannus, rho wybod cyn gynted â phosib ar e-bost (info@promo.cymru) os oes unrhyw ddyddiau sydd ddim yn gyfleus i ti.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd