Mae Llian, 19 oed, yn rhannu sut mae’r byd gemau rhithiol wedi bod cymaint yn fwy llachar na’r byd go iawn iddi.
Mae’r blog yma yn rhan o’r ymgyrch Paid Byth ag Ildio, ble roedd 21 o bobl ifanc Caerdydd yn cael eu comisiynu i greu darn o gelf yn dangos sut effaith mae chwarae gemau fideo yn ei gael ar eu hiechyd meddwl. Dyma stori Llian, artist 19 oed oedd yn rhan o’r prosiect.
Pa effaith mae gemau fideo wedi ei gael ar dy iechyd meddwl?
Mae chwarae gemau wedi helpu rhoi teimlad o reolaeth yn ôl i mi mewn cyfnodau anodd yn fy mywyd, yn enwedig yn ystod y pandemig COVID pan roedd popeth yn teimlo fel ei fod yn disgyn yn ddarnau.
Mae’n bleser chwarae gyda ffrindiau ar Fortnite a chael hwyl pan fydd pethau ddim yn dda yn y byd go iawn. Pan roeddwn i ffwrdd o fy ffrindiau am hir, roedd yn grêt teimlo fel bod i’n treulio amser efo nhw eto wrth chwarae.
Mae chwarae gemau yn helpu fi i ganolbwyntio ar dactegau a sylweddoli ar y pethau o’m nghwmpas a sut i oresgyn rhwystrau, fel arall rwyf fel arfer yn cau popeth allan ac yn eistedd mewn distawrwydd. Mae yna heriau cŵl o hyd, ardaloedd newydd a dulliau gêm newydd i edrych ymlaen at bob ryw ddeufis, rhywbeth i edrych ymlaen ato. Mae lefelu i fyny i gwblhau’r frwydr yn rhoi math o ystyr i mi, sydd yn golygu bod gen i reswm i aros.
Beth oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’r gwaith yma?
Mae’r gwaith celf wedi ei ysbrydoli gan ymdrechion iechyd meddwl fy ngorffennol a presennol ac mae gemau fideo wedi helpu cysylltu fi gyda hapusrwydd.
Mae ochr chwith y prosiect yn adlewyrchu’r ymdrechion a dwyster tywyllwch iechyd meddwl, yn amlygu pwyntiau pwysig fel graddlwyd a sgrechian am help. Yna mae’r gwaith yn ‘glitchio’ i deyrnas gemau llawn cymeriadau a lliwiau llachar yn llifo o’r rheolwr i gyfleu bywiogrwydd chwarae gemau. Mae’n dangos sut mae’r byd rhithiol yn gymaint fwy llachar na’r byd go iawn a sut gallet ti ddianc o dy drafferthion.
Y brif neges yn fy ngwaith ydy wrth chwarae gemau fideo, gallet ti ymbellhau dy hun o’r byd go iawn a bod yn rhan o rywbeth arbennig i ti. Mae’r byd rhithiol yn le i ti wneud fel yr hoffet ac i dderbyn cefnogaeth cymaint o ffrindiau wrth chwarae.
Pa neges fyddet ti’n ei roi i rywun sydd yn cael trafferthion iechyd meddwl?
Mae yna olau ar ben y twnnel. Efallai dy fod di’n teimlo fel nad oes neb eisiau helpu, ond dwi’n addo i ti, bydda’n well gennym wrando ar dy feddyliau a theimladau nag gwrando ar dy araith angladdol.
Efallai bod bywyd yn anodd, ond mae’n iawn i deimlo fel hyn. Mae’n rhaid i ti gredu bod y teimladau tywyll yn ddilys hefyd ac i ddod i’w deall a’u goroesi.
Mae gen ti le yn y byd yma, pam arall fyddet ti yma? Creda yn dy hun, mae hapusrwydd yn disgwyl amdanat. Mae yna ddyfodol, ac rwyt ti ynddo, rwyt ti’n fyw.
Gwybodaeth Berthnasol
I ddarganfod mwy am yr ymgyrch Paid Byth ag Ildio ac i weld yr holl waith celf anhygoel gan yr artistiaid eraill, clicia YMA.
Wyt ti’n dioddef gyda dy iechyd meddwl? Cer draw i Dudalen Gwybodaeth Iechyd Meddwl y Sprout ble mae gwybodaeth ddefnyddiol ar wasanaethau cefnogi lleol a chenedlaethol.
Os wyt ti’n rhannu ein hymgyrch Paid Byth ag Ildio ar gyfryngau cymdeithasol, cofia ddefnyddio’r hashnod #ChwaraeDaMeddwlPositif. Mae croeso i ti ein tagio fel ein bod yn gweld yr hyn rwyt ti’n rhannu!