Mae Ella, 15 o Gaerdydd, yn credu bod chwarae gemau fideo yn gallu helpu gyda swildod ac yn ffordd da i wneud ffrindiau newydd.
Mae’r blog yma yn rhan o’r ymgyrch Paid Byth ag Ildio, ble roedd 21 o bobl ifanc Caerdydd yn cael eu comisiynu i greu darn o gelf yn dangos sut effaith mae chwarae gemau fideo yn ei gael ar eu hiechyd meddwl. Dyma stori Ella, artist 15 oed oedd yn rhan o’r prosiect.
Pa effaith mae gemau fideo wedi ei gael ar dy iechyd meddwl?
Mae wedi helpu fi i ddod i adnabod fy ffrindiau yn well ac yn ffordd i anghofio’r straen a chael hwyl. Mae’n ffordd o wneud ffrindiau newydd a dod i adnabod pobl newydd. Mae wedi helpu gyda fy swildod a’m gallu i wneud ffrindiau newydd. Mae hefyd wedi helpu fi i anghofio atgofion drwg y gorffennol a’r meddyliau drwg o’r cyfnod yna. Rwy’n gallu cael hwyl a chwarae gyda ffrindiau a dianc o realiti.
Mae yna lawer o gemau i wahanol fathau o bobl ac maent yn gallu helpu ti i ddod o hyd i bobl eraill sydd yn hoffi’r un gemau â thi. Rwyt ti’n gallu siarad â nhw wrth chwarae’r gêm a dod i’w hadnabod. Gallet ti chwarae gyda ffrindiau yn ogystal â gwneud ffrindiau newydd a dysgu sut i chwarae gemau gwahanol.
Mae chwarae gemau wedi cael effaith da iawn ar fy iechyd meddwl, yn fy helpu i ymdopi ac i siarad â ffrindiau y tu allan i’r ysgol a pan dwi wedi diflasu.
Gwybodaeth Berthnasol
I ddarganfod mwy am yr ymgyrch Paid Byth ag Ildio ac i weld yr holl waith celf anhygoel gan yr artistiaid eraill, clicia YMA.
Wyt ti’n dioddef gyda dy iechyd meddwl? Cer draw i Dudalen Gwybodaeth Iechyd Meddwl y Sprout ble mae gwybodaeth ddefnyddiol ar wasanaethau cefnogi lleol a chenedlaethol.
Os wyt ti’n rhannu ein hymgyrch Paid Byth ag Ildio ar gyfryngau cymdeithasol, cofia ddefnyddio’r hashnod #ChwaraeDaMeddwlPositif. Mae croeso i ti ein tagio fel ein bod yn gweld yr hyn rwyt ti’n rhannu!