Mae Auryn, 20 oed o Gaerdydd, yn dweud mai chwarae gemau fideo sydd yn cadw ef i fynd.
Mae’r blog yma yn rhan o’r ymgyrch Paid Byth ag Ildio, ble roedd 21 o bobl ifanc Caerdydd yn cael eu comisiynu i greu darn o gelf yn dangos sut effaith mae chwarae gemau fideo yn ei gael ar eu hiechyd meddwl. Dyma stori Auryn, artist 20 oed oedd yn rhan o’r prosiect.
Pa effaith mae gemau fideo wedi ei gael ar dy iechyd meddwl?
Yn fy nghyfnodau isaf ac anoddaf, sydd wedi cael effaith ddrwg ar fy mywyd, chwarae gemau fideo oedd y peth oedd yn cadw fi i fynd, yn adlonni ac yn fy nghadw’n brysur. Hyd yn oed os nad oedd yn gêm AAA gan gwmni adnabyddus, roedd yn helpu fi i gadw’n actif ac yn gymdeithasol ar-lein o hyd.
Dwi wedi cyfarfod rhai o fy ffrindiau hynaf ac agosaf wrth chwarae gemau fideo, ac mae wedi bod yn help i gadw rhai pell. Hyd heddiw, mae’n helpu fy ffrindiau a fi i gadw cysylltiad yn ystod y pandemig. Mae’r banter yr un peth, dim ond bod hynny’n digwydd ar Discord neu Playstation Party. Mae wedi helpu fi erioed, ac mae’n debyg bydd yn helpu fi o hyd.
Mae gemau fideo wedi cael effaith enfawr ar fy ngwaith celf hefyd, yn rhoi ysbrydoliaeth i ddarlunio a chreu syniadau gwahanol gydag esthetig ac arddull wahanol, bod hynny’n syml neu’n gymhleth.
Beth oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’r gwaith yma?
Y bwriad i’m nghelf oedd rhannu fy marn ar y ffordd mae chwarae gemau fideo wedi fy helpu i gynnal fy mhositifrwydd a sut mae’r gemau penodol sydd wedi’i gynnwys wedi dylanwadu ar fy nghelf a fy mywyd yn gyffredinol.
Roeddwn eisiau rhannu’r gemau aml chwaraewyr o’m mhlentyndod, gemau fel COD Zombies roeddwn yn chwarae gyda fy chwaer, a gemau chwaraewr sengl a oedd yn bopeth i mi yn y blynyddoedd cyn i mi gyrraedd fy arddegau, fel Titanfall 2 (dyma pam ychwanegwyd BT-7274 a Sgt Jack Cooper).
Dwi’n meddwl bod chwarae gemau wedi helpu siapio fi fel person gan fod gemau wedi bod yn prif ffocws ac yn gefnogaeth i mi ers i mi gael fy ngeni. Mae’r moesau a’r profiadau yma wedi dysgu gwersi bywyd i mi, ac mae’r arwyr, y bobl ddrwg a’r bydoedd yma wedi rhoi cartref i mi ble dwi’n teimlo’n gyfforddus. Fi sydd mewn rheolaeth a dwi mor bwysig ag unrhyw un arall ar y blaned yma 😊
Pa neges fyddet ti’n ei roi i rywun sydd yn cael trafferthion iechyd meddwl?
Pwrpas gêm ydy i drochi ti mewn byd ble rwyt ti’n teimlo’n gyfforddus neu’n ddiogel. Paid byth teimlo’n anghywir neu gywilydd os mai gemau ydy dy fersiwn di o gysur. Mae rhai yn chwarae golff neu’n nofio i deimlo’n well, ond os wyt ti’n penderfynu hyfforddi Pokémon yn Pallet Town neu ymladd Talon gyda dy dîm o arwyr Overwatch, yna rwyt ti’n gwneud y peth mwyaf cŵl yn y byd yn fy marn i!
Gwybodaeth Berthnasol
I ddarganfod mwy am yr ymgyrch Paid Byth ag Ildio ac i weld yr holl waith celf anhygoel gan yr artistiaid eraill, clicia YMA.
Wyt ti’n dioddef gyda dy iechyd meddwl? Cer draw i Dudalen Gwybodaeth Iechyd Meddwl y Sprout ble mae gwybodaeth ddefnyddiol ar wasanaethau cefnogi lleol a chenedlaethol.
Os wyt ti’n rhannu ein hymgyrch Paid Byth ag Ildio ar gyfryngau cymdeithasol, cofia ddefnyddio’r hashnod #ChwaraeDaMeddwlPositif. Mae croeso i ti ein tagio fel ein bod yn gweld yr hyn rwyt ti’n rhannu!