Nid yw’n syndod bod gan y benwisg ei hun, neu ferched Mwslimaidd yn gyffredinol, ddelwedd negyddol pan ddaw at y cyfryngau prif lif.
Gall sawl rheswm fod yn gyfrifol am hyn – diffyg gwybodaeth, rhagfarnau wedi hen sefydlu, neu ddim digon o ferched hijabi/Mwslim yn cael eu cyflogi yn y cyfryngau. Er hyn, mae delwedd negyddol o’r benwisg yn parhau ac weithiau mae’n digwydd heb i neb sylwi.
Beth yw penwisg?
Mae’r gair penwisg yn cael ei ddefnyddio fel term ymbarél, sef term i ddisgrifio’r holl orchuddion mae merched Mwslimaidd yn ei wisgo i aros yn wylaidd (modest). Mae’r prif gyfryngau yn aml yn defnyddio’r term yma i gyfeirio at y hijab, burka, niqab a’r jilbab. Credaf ei bod yn bwysig iawn i ddeall y gwahaniaeth rhwng y pedwar:
- Hijab – dilledyn sydd yn cael ei ddefnyddio i orchuddio’r gwallt. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio i gyfeirio at wisgo’n wylaidd (modestly)
- Burka – dilledyn hir a llac sydd yn gorchuddio rhywun o’r corryn i’r sawdl
- Niqab – penwisg sydd yn gorchuddio pob rhan o’r wyneb heblaw am y llygaid
- Jilbab – dilledyn hir a llac sydd yn gorchuddio dwylo a phen rhywun hefyd
Dangos astudiaethau bod y cyfryngau Prydeinig yn grwpio’r gwahanol ymarferiadau gorchuddio Mwslimaidd yn un, yn hytrach nag dathlu’r gwahaniaeth rhwng y diwylliannau, ac yn eu portreadu fel rhwystr i’r ffordd o fyw Gorllewinol. Mae unrhyw hunaniaeth yn cael ei dynnu oddi wrth ferched Mwslimaidd ac yn cael ei restru o dan y label ‘penwisg’, term nad allant uniaethu ag ef weithiau. Mae yna deimlad bod gwleidyddiaeth radicalaidd wedi diferu i mewn i’r cyfryngau prif lif, yn caniatáu portreadau anghywir o ferched Mwslimaidd ar y newyddion, rhaglenni teledu a ffilmiau. Felly sut maen nhw’n cael eu portreadu?
Mae merched Mwslimaidd yn cael eu gorfodi i wisgo’r hijab
Dyma syniad gwelir yn aml mewn ffilm a theledu. Os oes cymeriad Mwslimaidd sydd yn ferch, yna mae’n debygol y bydd yn cael ei chanfod wrth ei hijab (sydd yn cael ei wisgo’n wael iawn fel arfer). Mae’n ymddangos fel bod y cymeriadau yma yn portreadu brwydr gyson gyda’u hijab – bron fel petai’n ymddwyn fel metaffor am eu gwerthoedd a moesau Islamaidd.
Yn unol â’r syniad o’r benwisg yn cael ei ddangos fel rhwystr i’r ffordd o fyw Gorllewinol, mae merched Mwslimaidd yn aml yn tynnu’r dilledyn i ffwrdd yn symboleiddio teimlo o ryddhad. Maent yn ymddangos yn llawer hapusach heb y hijab, fel petai’n eu dal yn ôl. Er nad ellir cyffredinoli profiadau pawb yr un peth, nid yw’r hijab yn gymaint o ‘big deal’ ag y mae’r cyfryngau yn ei bortreadu. Mae’r mwyafrif o ferched yn dewis ei wisgo eu hunain, ar ôl gwneud ymchwil go iawn!
Mae merched Mwslimaidd yn cael eu cam-drin yn gynyddol gan ddynion
Mae’r synaid o ferched yn cael eu camdrin gan ddynion yn cael ei bortreadu yn y cyfryngau. Nid y diwydiant adloniant yw’r unig ffurf o gyfryngau sydd yn chwarae ar hyn; mae’r newyddion wastad yn protreadu’r syniad o ferched Mwlimaidd yn cael eu gorlethu gan ddynion mewn bwletinau fel camdriniaeth ddomestig, priodasau gorfodol ayb. Er bod y rhain yn faterion dilys sydd yn digwydd mewn cymdeithas o hyd, rhaid deall y broblem o ganolbwyntio hyn i gyd ar Fwslimiaid.Mae lle i drafod pynciau fel hyn, ond rhaid cael balans. Fe ddylid amlygu cyflawniadau hefyd, eu dyfodol, eu profiadau. Mae’n hen bryd i ni adael y syniad o ferched Mwslim fel dioddefwr i fynd.
Nid yw merched Mwslimaidd yn gallu integreiddio gyda chymdeithas heddiw
Mae’r ddadl hon wedi ei chreu o’r ddau bwynt uchod. Mae Dwyreinioldeb yn dod o feddwl gwladychwyr, gyda barn am grŵp o unigolion sydd yn stereoteip. Mae merched Mwslimaidd yn aml yn dioddef gyda dwyreinioldeb, ac yn cael eu gosod i gategorïau sydd yn eu cyfyngu yn anghyfforddus. Yn aml yn cael eu portreadu fel person diddysg gan fod camsyniadau cyffredin yn cael ei orfodi ar y gymuned Fwslimaidd, neu yn hen ffasiwn oherwydd y canran sydd yn dewis gwisgo yn fwy gwylaidd.
Nid yw’n syndod bod y canfyddiadau i’w weld yn y cyfryngau o ddydd i ddydd pan fydd ein gwleidyddwyr hyd yn oed yn rhannu hyn yn gyhoeddus. Roedd y cyn Prif Weinidog David Cameron wedi mynegi ei fod yn “poeni” am lefelau llythrennydd merched Mwslim ym Mhrydain, yn awgrymu’r syniad efallai nad oeddent yn ddigon galluog i integreiddio gyda’r iaith. Y gwirionedd yw, cafodd y brifysgol gyntaf ei sefydlu gan ferch Mwslim o’r enw Fatima al-Fihri dros 1,000 o flynyddoedd yn ôl yn Foroco. Llynca hynna David Cameron! Awgrymodd Jack Straw, Ysgrifennydd Gwladol cynt, y byddai tynnu’r niqab yn helpu gyda pherthnasau yn y gymuned. Mae’r barnau yma yn ei hun yn bryderus, ond gan edrych ar y darlun lawn, mae’n werth nodi bod hyn wedi hybu’r cyfryngau Prydeinig i gynyddu’r Islamaffobia tuag at ferched Mwslimaidd.
Beth allem ni ei wneud i ymladd yn erbyn y stereoteipiau?
Mae amrywiaeth yn allweddol i bopeth – wrth amrywiaeth mwy o unigolion gwahanol ar y teledu, newyddion a chylchgronau, mae’n ehangu’r amrywiaeth o brofiadau. Nid oes rhaid cyfyngu merched Mwslimaidd i’w ffydd a’u siwrne gyda’r hijab – er bod hynny yn parhau i fod yr un mor bwysig! Gallem fod yn fwy nag hynny. Gall cymeriadau fod yn bobl ifanc normal, arferol, neu’n arweinwyr cryf a mentrus. Gall y newyddion gyhoeddi mwy o’r hyn mae’r gymuned Fwslimaidd yn ei gynnig i gymdeithas a dathlu eu cyflawniadau. Os oes rhaid canolbwyntio ar faterion penodol yna mae angen i hyn gael ei gyflwyno’n empathig ac nid i greu cyfiawnder perfformiadol.
Gwybodaeth berthnasol
Ysgrifennwyd yr erthygl hon fel rhan o’r ymgyrch Y Dyfodol Ffeministaidd mewn cydweithrediad â Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd. Am wybodaeth bellach am y grŵp ymgyrchu, ac i ddarllen mwy o gynnwys yr ymgyrch Y Dyfodol Ffeministaidd, clica yma.
Os hoffet ti ddod i adnabod genethod cryf Mwslimaidd darllena amdanynt yma.