CCUHP a Hawliau Plant

Hawliau Dynol. Mae pobl y dyddiau hyn yn aml yn cwyno pan fyddant yn clywed y geiriau hyn. Ond, mae hawliau dynol yn warant – yn ôl y gyfraith – sydd yn amddiffyn pawb.

Mae gan blant a phobl ifanc hawliau ychwanegol hefyd i’n gwarchod ni ac i sicrhau ein bod yn cael y cyfleoedd gorau mewn bywyd. Datblygwyd yr hawliau ychwanegol yma gan y Cenhedloedd Unedig ac mae’r manylion i’w gweld yn y CCUHP – Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Mae ein llywodraethau yn gyfrifol am sicrhau bod gennym addysg, gwybodaeth, cymryd rhan mewn penderfyniadau, gofal iechyd, safon dda o fyw, gweithgareddau hamdden, triniaethau deg yn y system cyfiawnder troseddol (y llysoedd, ac ati), a phethau da fel hyn!

Dyma wybodaeth bellach ar dy hawliau fel person ifanc:

This image has an empty alt attribute; its file name is Childrens-Rights-1024x1024.png

Gwasanaethau Cenedlaethol

Meic – Llinell gymorth gwybodaeth ac eiriolaeth sydd yn cefnogi gydag unrhyw beth. Cysyllta yn ddyddiol o 8yb tan hanner nos ar: Rhadffôn (080880 23456), Neges testun (84001) neu sgwrs ar-lein.

Comisiynydd Plant Cymru | CCUHP – Yn cefnogi plant a phobl ifanc i ddarganfod am eu hawliau yn y CCUHP. Maent yn gwrando ar blant a phobl ifanc i ddarganfod beth sydd yn bwysig iddynt ac yn cynghori’r rhai sydd yn gofalu amdanynt os ydynt yn teimlo fel eu bod wedi cael eu trin yn annheg.

Plant yng Nghymru – Corff ymbarél cenedlaethol ar gyfer sefydliadau ac unigolion sydd yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd yng Nghymru.

Agenda – Canllaw pobl ifanc i greu perthnasau positif fod o bwys. Ei fwriad ydy taclo materion fel cydraddoldeb rhyw, trais ar sail rhyw’r person, a harasio rhywiol mewn ysgolion.

ChildLine – Llinell gymorth cwnsela 24 awr am ddim (gan NSPCC) ar gyfer plant a phobl ifanc hyd at eu pen-blwydd yn 19.

Y Samariaid – Llinell gymorth 24 awr am ddim ar gyfer unrhyw un sydd angen cymorth emosiynol.

UNICEF – Yn gweithio i greu bywyd gwell i bob plentyn. Mae UNICEF yn sefydliad amlochrog hawliau plant wedi’i sefydlu gan y Cenhedloedd Unedig.

Achub y Plant (DU) – Yn gweithio mewn dros 100 o wledydd, gan gynnwys y DU i ymgyrchu ac eirioli dros blant.

 Cyngor ar Bopeth – Mae Cyngor ar Bopeth yn rhoi gwybodaeth a hyder i bobl i ddarganfod ffordd ymlaen – pwy bynnag ydynt, a beth bynnag y broblem.

This image has an empty alt attribute; its file name is Childrens-Rights-1-1024x1024.png

Apiau Defnyddiol

Right Runner – Gêm ar app gan Unicef i ysbrydoli, rhoi gwybodaeth a grymuso plant a phobl ifanc ar eu hawliau.

This image has an empty alt attribute; its file name is Childrens-Rights-2-1024x1024.jpg

Blogiau a Chanllawiau

Comisiynydd Plant Cymru – CCUHP – Cyflwyniad byr, hawdd i’w ddeall am y CCUHP gan y person sydd yn sefyll i fyny dros blant a phobl ifanc yng Nghymru ac yn sicrhau bod eu hawliau’n realiti.

Cyngor ar Bopeth – Hawliau Plant yng Nghymru – Llawer o wybodaeth hawdd i’w ddeall am hawliau plant yng Nghymru.

Achub y Plant – CCUHP – Cyflwyniad da, eithaf manwl am y CCUHP.

UNICEF – Beth ydy’r CCUHP? – Disgrifiad ychydig yn anoddach, ond yn fwy manwl, o’r CCUHP.

Comisiynydd Plant Cymru – Hawliau Plant – Rhestr hawliau sydd yn hawdd iawn i’w ddeall.

Fideos

Dy Hawliau ar y Sprout

Mae’r wefan hon yn gyfle i ti fynegi rhai o dy hawliau:

  • Hawl # 12 – Pan fydd oedolion yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar blant, mae gan blant yr hawl i ddweud eu barn ar yr hyn ddylai ddigwydd a bod eu barn yn cael ei ystyried. Dyna pam rydym yn hoff o rannu grwpiau, digwyddiadau, arolygon ac ymgynghoriadau i ti gymryd rhan a dweud dy ddweud.
  • Hawl # 13 – Mae gan blant yr hawl i gael a rhannu gwybodaeth. Darganfod gwybodaeth neu cymryd rhan!
  • Hawl #17 – Mae gan blant yr hawl i gael gwybodaeth sydd yn bwysig i’w hiechyd a’u lles. Edrycha ar ein tudalennau gwybodaeth Y Corff, Iechyd Rhywiol, Iechyd Meddwl ac Alcohol, Cyffuriau ac Ysmygu. Mae gan blant yr hawl i  gael gwybodaeth onest gan bapurau newydd a’r teledu sydd yn ddealladwy.
Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd