Y Corff

Mae gofalu am dy iechyd yn bwysig er mwyn gallu teimlo’n dda ac ymdopi gyda heriau a phwysau bywyd.

Cofia:

  • Os yw’n argyfwng meddygol, ac rwyt ti’n credu bod bywyd rhywun mewn perygl, ffonia 999
  • Os wyt ti’n ansicr os dylet ti fynd at y doctor, neu os wyt ti angen cyngor, mae posib galw GIG Cymru ar 111
  • Os wyt ti’n poeni am symptomau a ddim yn gallu mynd i weld doctor, neu ddim yn gallu dod o hyd i’r hyn rwyt ti ei angen, rho alwad i GIG Cymru ar 111

Dyma wybodaeth gan theSprout am sut i ofalu am dy gorff:

Gwasanaethau Cenedlaethol

Darparwyr Gofal Iechyd Lleol – Manylion deintyddion, meddygfeydd, optegwyr, fferyllfeydd ac ysbytai lleol.

Meic – Gwasanaeth llinell gymorth ac eiriolaeth i gefnogi ti tra byddi di’n gofalu am dy gorff, neu i gynnig cymorth i ymdopi gydag unrhyw broblemau sydd gen ti. Cysyllta â Meic yn ddyddiol o 8yb tan hanner nos: Rhadffôn – 080880 23456, Neges Testun – 84001 neu Sgwrs Ar-lein.

Newid am Oes – Gwefan y GIG sydd â llawer o wybodaeth wych os hoffet ti wneud newidiadau positif yn dy fywyd – diet ac ymarfer corff.

Scope – Os oes gen ti anabledd, ac angen gwybodaeth bellach am ymdopi gyda sefyllfaoedd anodd, mae gan Scope awgrymiadau da i ti.

Better Health – Gwefan y GIG sydd yn helpu ti i wneud newidiadau bach fydd yn ffitio i mewn i dy fywyd, fel dy fod di’n teimlo’n well ac yn iachach bob dydd.

Apiau Defnyddiol

Couch 2 5k – Rhaglen 9 wythnos wedi’i greu gan y GIG i helpu ti i fynd o ‘couch potato’ i redeg 5km am 30 munud.

MyFitnessPal – Yn cyfri calorïau gyda sganiwr cod bar gall helpu ti i nodi popeth rwyt ti’n bwyta yn haws.

Smoke Free – Cychwyn rhaglen 4 wythnos sydd yn gosod cefnogaeth ymarferol, anogaeth, cerrig milltir a chyngor wedi’i deilwro yn dy ddwylo. Neu mae cyngor Cymraeg ar gael ar dudalen Helpa Fi i Stopio y GIG.

Bwyta’n Iach – Cyngor sut i fwyta’n iach gan y GIG. Mae yna dros 150 o ryseitiau blasus, hawdd ac iachach ar dudalen Eat Well. Mae posib chwilio yn ôl y pryd ac arbed rhestr siopa at wedyn.

Drink Less – Teimlo’n iachach, colli pwysau ac arbed arian. Cyngor ac awgrymiadau i yfed llai o alcohol.

Active 10 – Cyflwyno mwy o gerdded cyflym yn dy drefn ddyddiol wrth dracio gweithgareddau, annog a gosod cerrig milltir gyraeddadwy.

Strava – Tracio ymarfer corff yn yr app i fonitro cynnydd. Mae posib tracio rhedeg, beicio, nofio, yoga, codi pwysau a llawer mwy!

Blogiau a Chanllawiau

#TiYnHaeddu: Perthnasau Iach – TheSprout

Sexual Health Awareness – TheSprout

4 Types of Health to Consider this World Health Day – TheSprout

Tudalen Gwybodaeth Iechyd Rhywiol – TheSprout

Tudalen Gwybodaeth Iechyd Meddwl – TheSprout

Fideos

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd