Dwi’n meddwl y gall pawb gytuno, os yw rhywun enwog wedi gwneud rhywbeth, yna ti’n siŵr o adnabod rhywun fydd yn ceisio gwneud hynny hefyd.
Mae arolwg yn dangos bod tua 80% o ferched ifanc yn cymharu eu hunain i bobl enwog, felly mae’n eithaf tebygol bod rhywun rwyt ti’n adnabod yn gwisgo neu’n defnyddio eitem sydd mewn cwpwrdd dillad seleb. Mae rhai esiamplau poblogaidd yn cynnwys:
- Siaced lledr y dylanwadwr cyfryngau cymdeithasol Molly-Mae
- Blaser anturus y model Bella Hadid
- Pecyn gwefusau poblogaidd y bersonoliaeth gyfryngol Kylie Jenner
Pan ddaw at yr hyn rydym yn gwisgo a’r ffordd rydym yn steilio ein gwallt a’n colur, mae dylanwad y selebs yma mor gryf. Mae’r ‘rolau model’ yma yn grêt os yw meddwl am syniadau ffasiwn ac ysbrydoliaeth gwisg yn anodd, ond os ydyn ni’n meddwl o ddifrif am yr hyn maent yn hyrwyddo, ydy hyn yn dda go iawn?
Realiti ffasiwn sydyn
Mae’r esiamplau ffasiwn sydd yn cael eu dangos i ni ar gyfryngau cymdeithasol ac ar-lein yn rai sydd wedi’u creu fel ffasiwn sydyn anfoesol, ac felly nid yw’r dillad yn gynaliadwy.
Mae llawer o ddillad sydd yn cyfrannu at ffasiwn sydyn yn cael eu gwneud mewn siopau chwys, ac mae’n debyg mai ar y domen sbwriel bydd llawer ohono yn y pen draw. Yn ogystal, mae dillad ffasiwn sydyn yn chwarae rhan fawr yn llygru a gwastraffu dŵr, newid hinsawdd, ac arbrofi ar anifeiliaid.
Felly, er bod y dillad yn edrych yn dda, ni fyddant yn achosi da. Efallai byddi di’n eu gwisgo ryw ddwywaith cyn i Kylie, Molly-Mae a Bella symud ymlaen i’r tueddiad nesaf… a yw’n werth hyn?
Molly-Mae a Pretty Little Thing
Mae’r enwog Molly-Mae, a ddaeth i’r amlwg ar ôl bod ar Love Island, yn ddylanwadwr cyfryngau cymdeithasol llwyddiannus ac yn gyfarwyddwr creadigol y brand ffasiwn sydyn Pretty Little Thing (PLT). Er iddynt wneud ymdrech i ddod yn frand mwy ecogyfeillgar, mae ganddynt siwrne hir o hyd. Er, mae’n ymddangos fel bod Molly-Mae un cam o flaen gweddill y cwmni gan fod ei chasgliad yn edrych yn addawol.
Mae Molly-Mae yn rhannu ei chydweithio gyda PLT gyda’i 7.4 miliwn o ddilynwyr ar Instagram. Mae ‘Renew’ i fod yn gasgliad mwy cynaliadwy gan ei fod yn defnyddio defnydd mwy ecogyfeillgar. Wrth fy modd yn gweld hynny!
Dywedodd Molly-Mae: “Mae PLT wedi addo y bydd yr holl ddefnydd defnyddir yn gynaliadwy erbyn 2025” Pan ofynnwyd beth yr oedd hi fel Cyfarwyddwr Creadigol yn gwneud i gefnogi hyn, atebodd “rydym yn ffodus iawn yn PLT i gael arbenigwyr anhygoel ymhob rhan o’r brand, ac mae yna dîm cynaliadwyedd enfawr sydd yn gweithio’n ddi-baid.”
Tueddiad newydd yn dod i’r wyneb
Mae anelu i leihau effaith y diwydiant ffasiwn yn bendant yn ffordd bositif i gymdeithas ymddwyn, yn enwedig os yw pobl yn dewis dilyn yr un trywydd ffasiwn. Mae ffigyrau yn dangos mai merched dan 35 yw’r prif darged ar gyfer gwerthwyr ffasiwn sydyn, ac mae 54% o’r bobl yn credu bod dylanwadwyr cyfryngau cymdeithasol wedi bod yn rhannol gyfrifol am y cynnydd mewn dillad sy’n cael ei fasgynhyrchu.
Felly, os yw dylanwadwyr a phobl enwog (y bobl rydym yn edmygu) yn hyrwyddo ac yn steilio dillad cynaliadwy, yna’r gobaith yw y bydd pobl yn dilyn y tueddiad yma wedyn. Mae rhai selebs a dylanwadwyr yn cefnogi ffasiwn gynaliadwy, ond mae eraill yn parhau i hyrwyddo ffasiwn sydyn, sydd efallai’n cael ei darddu’n anfoesol ac sy’n ddrwg i’r amgylchedd.
Ffasiwn gynaliadwy yn erbyn ffasiwn sydyn
Dwi’n credu y bydd brwydr rhwng ffasiwn gynaliadwy a ffasiwn sydyn o hyd. Mae’n anodd cystadlu yn erbyn ffasiwn sydyn gan fod cymaint o dueddiadau a chasgliadau, sydd yn rhad, ac mae dylanwad selebs yn cael gwir effaith ar bobl. Ond, yn 2023 mae agweddau ac arferion prynu wedi newid. Er esiampl:
- Brandiau ffasiwn PLT, Oh Polly, a Zara yn addo newid defnydd a deunydd lapio erbyn 2025
- Love Island yn hyrwyddo dillad ail-law gyda Ebay
- Cynyddiad mewn sioeau ffasiwn gynaliadwy
Gobeithio nad tueddiad dros dro yw hwn, a bod ffasiwn gynaliadwy yn aros mewn steil am fwy nag ‘casgliad’ yn unig…
Gwybodaeth Berthnasol
Mae’r flog hon yn rhan o’r ymgyrch Y Dyfodol yn Ein Dwylo, sydd yn cael ei gynnal mewn cydweithrediad â Bloedd Amgueddfa Cymru. Mae’r rhaglen gydweithredol yma yn gweithio gyda rhai 16-25 oed i arbrofi, creu ac arloesi.