Cyngor ar Sut i Wneud Ffrindiau Newydd

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Pa un ai wyt ti’n dychwelyd i’r ysgol neu os wyt ti’n fyfyriwr newydd yn y coleg/prifysgol. Mae’n amser da i gyfarfod pobl newydd a gwneud ffrindiau newydd. Dyma ychydig o gyngor i roi ti ar ben ffordd!

1. Ymuna â grŵp

Mae’r syniad o gyfarfod a gwneud ffrindiau yn gallu teimlo’n eithaf brawychus, ond unwaith i ti gychwyn bydd pethau’n dod yn haws! Beth am ystyried ymuno â grŵp? Gwna restr o’r pethau rwyt ti’n ei fwynhau neu defnyddia’r cyfle yma i roi tro ar hobi newydd. Byddi di’n dod i adnabod pobl wrth i ti wneud pethau. Mae yna lawer o grwpiau a dosbarthiadau wedi’i selio ar weithgareddau gallet ti roi cynnig arnynt. Dyma ychydig o syniadau i’w hystyried:

  • Clwb chwaraeon (beicio, athletau, pêl droed, tenis, ioga, rygbi ayb)
  • Dosbarthiadau drama neu ddawns
  • Clwb llyfrau
  • Clwb ieuenctid (Gwobrau Dug Caeredin ayb)
  • Grŵp cerdded/teithio
  • Dosbarthiadau coginio
Cartŵn - tri person yn rhedeg marathon - ar gyfer erthygl ffrindiau

2. Gwirfoddoli

Mae gwirfoddoli yn ffordd wych arall o gyfarfod ffrindiau newydd. Mae ymchwil yn dangos bod lefel hapusrwydd pobl yn codi pan fyddant yn helpu pobl neu gymunedau. Edrycha ar dudalen Gwybodaeth Gwirfoddoli theSprout am wybodaeth bellach a help i gychwyn.

Cartŵn - pobl yn gwirfoddoli ac yn rhoi eitemau i achos


3. Camu allan o sefyllfa gyfforddus

Mae dod i adnabod pobl a gwneud ffrindiau newydd yn golygu camu allan o sefyllfa gyfforddus weithiau. Efallai bydd pethau’n teimlo’n anodd ac yn anghyfforddus i gychwyn ond ceisia gychwyn sgwrs gyda’r bobl ti’n eu cyfarfod, o ddydd i ddydd ac yn unrhyw un o’r syniadau amlinellwyd uchod. Gallet ti ymarfer gwenu a chyflwyno dy hun yn y drych gartref (mae pobl yn fwy tebygol o deimlo’n agos atat os wyt ti’n gwenu ac yn cadw cyswllt llygad). Gallet ti feddwl am beth i’w ddweud o flaen llaw.

Bydd cymryd rhan mewn gweithgareddau â’ch gilydd yn helpu, bydd gennych chi rywbeth yn gyffredin yn syth. Yna bydd posib symud ymlaen i ddarganfod y pethau sy’n gyffredin rhyngoch, fel eich hoff gerddoriaeth. Wrth i ti wneud hyn fwy, bydd yn dod yn haws, a byddi di’n dod yn fwy hyderus!

Cartŵn - grŵp o 5 ffrind yn gwenu ac yn chwifio breichiau - ar gyfer erthygl ffrindiau

Gwybodaeth berthnasol

Cafodd yr erthygl hon ei phostio yn wreiddiol ar wefan Meic. Os wyt ti’n cael trafferth gwneud ffrindiau siarada â Meic yn gyfrinachol ac yn ddienw yn rhad ac am ddim.

Logo Meic
Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd