Cynhelir Eisteddfod wahanol iawn eleni. Dim gorfod gwerthu aren i dalu mynediad i’r maes. Dim angen welis i droedio o stondin i stondin mewn cae mwdlyd. Dim chwys yn diferu ar dy ben o do pabell Maes B, ceir ddawnsio eleni mewn lleoliad fu unwaith yn gartref i’r Daleks.
Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru wedi dychwelyd i Gaerdydd ar ôl 10 mlynedd. Cynhelir yn ardal eiconig y Bae, ac mae’n rhad ac am ddim i fynd yno. Ond beth ydy Eisteddfod, a beth wyt ti’n ei wneud yno? Wel, mae’r Sprout yma i helpu gydag atebion i dy gwestiynau.
Beth ydy’r Eisteddfod?
Rhanna’r gair Eisteddfod yn ddau ddarn, mae’n golygu i “eistedd” ac i “fod”. Eithaf barddol i ddweud y gwir, sydd yn briodol gan mai gŵyl gerddoriaeth, barddoniaeth ac ati yw hon. Ond yn hanfodol, mae yna elfen gystadleuol i’r Eisteddfod – rhai’n fuddugol a rhai’n colli.
Mae yna sawl Eisteddfod, ond dim ond un Eisteddfod Genedlaethol. Mae’r Eisteddfod yn cael ei chynnal bob blwyddyn ac yn dathlu diwylliant Cymru gyfan. Dyma’r ŵyl fwyaf o’i fath yn Ewrop. Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf yng Nghaerdydd yn 1883.
Mae’n debyg mai enillydd enwocaf yr Eisteddfod Genedlaethol oedd Hedd Wyn, neu Ellis Evans oedd ei wir enw. Enillodd gyda’i gerdd arloesol yn 1917 ond erbyn iddynt gyhoeddi’r enillydd roedd wedi cael ei ladd ar faes y gad, ynghyd a sawl arall, yn ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Yr Eisteddfod arall cydnabyddus ydy Eisteddfod yr Urdd, Eisteddfod yr ieuenctid. Bydd yr Eisteddfod yma yn dod i Gaerdydd yn 2019.
Beth sydd yno i’w wneud?
Bydd yna gyngherddau, comedi, llenyddiaeth, cwisys, bwyd, carnifalau, ffilmiau, theatr, barddoni, cystadlaethau a llawer, llawer mwy. Mae’r mwyafrif o gynnwys yr Eisteddfod yn cael ei gyflwyno yng Nghymraeg fel arfer.
Dyma rhai o’r digwyddiadau cynhelir yn ystod yr wythnos:
- Ffilm Coleg Celf Casnewydd o 1968 Ar Ôl Aml Haf: Gwedd Newidiol Tiger Bay, yn cael ei dangos fel rhan o arddangosfa 80 mlynedd o gasglu Cymdeithas Celfyddyd Gyfoes Cymru.
- Mae Cymorth Cristnogol Cymru yn creu ystafell ddianc ac maent yn chwilio am wirfoddolwyr!
- Gweithgareddau gwyddonol cyffrous o sut i adeiladu cwch, i droi’r don ar blastig; edrycha ar yr amserlen.
- Cwis Cymru ar y Map: Profa dy ymwybyddiaeth o Gymru
- Carnifal y Môr – carnifal lliwgar a cherddoriaeth fywiog
- Rhaglennu gêm rasio neu ddeifio yn y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg gyda’r DVLA!
- Ysgrifenna zine dy hun gyda chriw cylchgrawn Y Selar
- Creu cartŵn gyda Huw Aaron, cartwnydd cylchgrawn Mellten
- Llwyfan BBC Radio Cymru: gwledd o gerddoriaeth gan fandiau ac artistiaid gorau’r sîn Gymraeg
Fel sonnir, mae’r gweithgareddau yma am ddim, felly cer draw i’r Bae dros yr wythnos nesaf i ymdrochi dy hun yn y profiad.
Gwybodaeth ychwanegol
Cynhelir dros 1,000 o weithgareddau dros yr wythnos, rhai am ddim, rhai sy’n rhaid talu. Chwilia’r holl ddigwyddiadau yma neu lawrlwytha’r Rhaglen Boced yma.
I weld ble mae lleoliadau gwahanol y maes gweler yma.