Amdanom Ni
Beth ydy theSprout?
Mae TheSprout yn wefan gwybodaeth a blogio i bobl ifanc 11-25, gan bobl ifanc 11-25 a’r sefydliadau sydd yn awyddus i’w cefnogi.
Mae’r wefan wedi ei rhannu yn ddau brif adran: gwybodaeth, a blog.
- Gwybodaeth ydy ble gellir darganfod llawer o wybodaeth a chefnogaeth am bynciau sydd yn cael effaith ar bobl ifanc, fel gadael ysgol, bwlio, a phroblemau ariannol. Ymhob adran mae yna ddolenni defnyddiol i sefydliadau lleol a chenedlaethol sydd yn gallu helpu gydag unrhyw beth sydd ei angen
- Blog ydy lle rydym yn rhannu’r blogiau gwych sydd wedi’u hysgrifennu gan bobl ifanc. Mae yna rywbeth i bawb – o gyfleoedd lleol i glywed stori rhywun a chodi ymwybyddiaeth o bynciau pwysig fel hawliau plant a phobl ifanc
Mae’r holl gynnwys cyfryngol yn cael ei oruchwylio gan olygydd sy’n cael ei gyflogi gan ProMo-Cymru.
Ymgyrchoedd
Pob tymor, rydym yn creu ymgyrch newydd yn ymwneud â materion sydd yn bwysig i bobl ifanc, gan bobl ifanc yng Nghymru. Dyma rhai o’n hymgyrchoedd diweddaraf:
- Lleisiau’r Cyfnod Clo: Profiadau COVID-19
- #TiYnHaeddu: Perthnasau Iach
- Y Dyfodol Ffeministaidd
- Gwen o Haf
- Cerdyn Post o’r Dyfodol
- Cefnogi Pobl Ifanc Caerdydd
- Paid Byth ag Ildio
- Ymgyrch Chwareus Nid Amheus
Sut ydw i’n gallu cymryd rhan?
Rydym wastad yn chwilio am bobl ifanc 11-25 sydd yn byw, gweithio, neu’n astudio yng Nghymru a fydda’n hoffi cymryd rhan i greu cynnwys ar gyfer ymgyrch.
Os wyt ti eisiau cymryd rhan neu eisiau dysgu mwy, e-bostia info@thesprout.co.uk.