Paid Byth ag Ildio: Cyfarfod yr Artistiaid gyda Farah Thomas

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae Farah, sydd yn 14 oed, yn darlunio’r niwl rhwng realiti a’r ffug mewn gemau, a’r effaith mae’n ei gael ar iechyd meddwl.

Mae’r blog yma yn rhan o’r ymgyrch Paid Byth ag Ildio, ble roedd 21 o bobl ifanc Caerdydd yn cael eu comisiynu i greu darn o gelf yn dangos sut effaith mae chwarae gemau fideo yn ei gael ar eu hiechyd meddwl. Dyma stori Farah, artist 14 oed oedd yn rhan o’r prosiect.

Pa effaith mae gemau fideo wedi ei gael ar dy iechyd meddwl?

Er mod i’n chwarae gemau yn llai aml nag yr oeddwn, mae’n rhywbeth dwi’n dal i fwynhau pan rwy’n cael cyfle. Mae’n ffordd o ddianc o’r byd go iawn yn gadael i ti ‘fyw’ yn rhywle ble mae gen ti ryddid llwyr i wneud unrhyw beth.

Mae gemau fel Minecraft yn help i ymlacio ac yn helpu fi i dynnu sylw oddi ar bethau. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rwyf wedi brwydro lot gyda lles meddwl a chelf/darlunio oedd y ffordd orau i fod yn rhydd a defnyddio fy nghreadigrwydd. Roedd gemau oedd yn cael effaith tebyg yn ddewis arall hawdd i mi.

O gemau bwrdd i gemau cymdeithasol ar-lein, mae’r effaith yn buddio cymaint o bobl ac yn dechneg ymdopi i bob oedran. Weithiau mae’n gallu dod a ti yn agosach at bobl (fel fi a fy mrodyr) ac weithiau mae’n grêt pan fyddaf eisiau bod ar ben fy hun – sef lot o’r amser.

Mae rhai gemau fel therapi pan fyddaf yn teimlo pryder, straen neu ofid, ac mae’n helpu i leihau’r lefelau straen (yn ddibynnol ar y mathau o gemau wrth gwrs). Ond, barn bersonol ydy hyn, a gall amrywio o un person i’r llall. Mae’n bwysig i reoli’r ffordd mae gemau yn cael eu defnyddio fel nad yw’n achosi problemau, bod hynny’n feddyliol, yn gymdeithasol, neu unrhyw beth yn y canol.

Beth oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’r gwaith yma?

Rwy’n cael fy ysbrydoliaeth o’r syniad o ryddhau fy hun. Mae’r syniad o realiti yn gymhleth ac yn ddiddiwedd, yn golygu nad oes llawer i greu gydag ef. Roedd fy syniad yn ceisio portreadu’r llinell rhwng realiti a ffug a’r synnwyr yna o wahaniad.

Mae’r gelf yn adlewyrchu dihangfa o fywyd go iawn i awyrgylch fwy llachar, llawn rhyddid. Mae’n cynrychioli gadael y pethau negyddol i fynd ac er nad yw’n dileu yn gyfan gwbl, mae’n creu gwrthdyniad lle gall rywun deimlo didaro. Mae’n darlunio’r amrywiaeth drastig o emosiynau gall un person ei deimlo wrth chwarae gemau a pa fath o effaith mae hyn yn ei gael.

Defnyddiais liwiau mwy tywyll ar y portread ei hun i ddangos y llymder a’r gofid teimlwyd, a lliwiau mwy llachar yn y ddelwedd cefn/o fewn y wyneb i ddangos y llawenydd a’r adloniant sydd yn dod o chwarae gemau. Y brif neges yn y gwaith ydy bod gemau fideo yn borth i sawl un, yn hytrach nag rhwystr.

Pa neges fyddet ti’n ei roi i rywun sydd yn cael trafferthion iechyd meddwl?

Mae’r dywediad enwog “mae pethau’n gwaethygu cyn gwella” yn wir mewn sawl achos yn anffodus – ond nid bob tro. Ond mae pobl sydd yn stryglo yn deall yn union sut y gall pethau wella.

Rwy’n aml yn teimlo bod pethau yn ormod ac wedi cael cyfnodau anodd adref, yn yr ysgol ac fel arall. Y cyngor gorau ydy i ddarganfod yr hyn sydd yn gweithio i ti. Bydd pobl yn dweud wrthyt ti sut y dylet ti, a dylet ti ddim, ymdopi gyda dy broblemau a gall hyn fod yn straen ac yn anodd, felly dy benderfyniad di ydy darganfod beth sydd yn dy ysgogi di. Nid oes rhaid iddo fod yn weithgar neu’n gynhyrchiol, dim ond ei fod yn rhywbeth rwyt ti’n mwynhau.

Cymer ofal. Dealla nad yw’n hunanol i roi dy hun cyn pobl eraill os yw pethau’n anodd. Wedi’r cwbl, sut wyt ti’n fod i helpu rhywun arall pan rwyt ti’n dal i geisio helpu dy hun? Rho dy hun gyntaf. Canolbwyntia ar dy hun ac efallai gall arwain at yfory gwell.

Gwybodaeth Berthnasol

I ddarganfod mwy am yr ymgyrch Paid Byth ag Ildio ac i weld yr holl waith celf anhygoel gan yr artistiaid eraill, clicia YMA.

Wyt ti’n dioddef gyda dy iechyd meddwl? Cer draw i Dudalen Gwybodaeth Iechyd Meddwl y Sprout ble mae gwybodaeth ddefnyddiol ar wasanaethau cefnogi lleol a chenedlaethol.

Os wyt ti’n rhannu ein hymgyrch Paid Byth ag Ildio ar gyfryngau cymdeithasol, cofia ddefnyddio’r hashnod #ChwaraeDaMeddwlPositif. Mae croeso i ti ein tagio fel ein bod yn gweld yr hyn rwyt ti’n rhannu!

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd