Stori Sam

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae’r erthygl hon yn un o gyfres o straeon yn rhannu profiadau, meddyliau a theimladau go iawn gan bobl ifanc yn byw yng Nghaerdydd yn ystod y cyfnod clo. I weld straeon eraill, clicia yma.

C1. Beth yw’r peth pwysicaf rwyt ti wedi dysgu am dy hun yn ystod y cyfnod clo?

Rwy’n dda yn adnabod ac yn blaenoriaethu fy anghenion a dysgu ffyrdd newydd i deimlo cysylltiad go iawn gyda ffrindiau a’r byd tu allan. Nid Zoom yw’r ateb.  

C2. Beth yw’r peth sydd wedi aros yn y cof fwyaf yn ystod y cyfnod clo?

Mae’r holl fisoedd yn pylu yn un felly nid yw’n un foment benodol, ond yn gasgliad o bethau. Y nosweithiau ar alwadau gyda ffrindiau yn chwarae Minecraft neu’n coginio gyda theulu. Roeddwn hefyd yn gwerthfawrogi bod yn actif ac yn yr awyr agored mewn ffyrdd nad oeddwn i gynt wrth gerdded fy nghi.

C3. Eglura pa bethau rwyt ti’n ei golli fwyaf o dy fywyd cyn COVID-19. Sut wyt ti am sicrhau nad wyt ti’n cymryd y rhain yn ganiataol yn y dyfodol?

Gweithio mewn gofod creadigol a chydweithio gydag eraill. Rwy’n colli gallu mynd i’r stiwdio yn y coleg a chreu unrhyw beth hoffaf a siarad gyda phobl gyda chelf a gwneud pethau gyda nhw. Mae’n brofiad hollol wahanol i fod adref ac yn un rwyf wir yn colli. A rhoi cwtsh i ffrindiau – rwy’n colli hynny hefyd.

Os oes unrhyw beth yn stori Sam sydd wedi cael effaith arnat ti, siarada gyda Meic, llinell gymorth gyfrinachol i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. Cysyllta yng Nghymraeg neu Saesneg – dy ddewis di! Maent yn agored 8yb tan hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Gellir cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) neu sgwrs ar-lein. Mae’n wasanaeth rhad ac am ddim i bawb.

 

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd